Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyhyrau

cyhyrau

Felly y gwnaem o'r naill ran i'r fraich i'r llall gan gynnwys cymalau ac esgyrn; ac mae i bob asgwrn ei hyd a'i ffurf, a'r ffurfiau i gyd wedi eu creu gan y cyhyrau.

Mae'r cyhyrau wedyn yn troi'n ewynnau, ac mae'n ofynnol deall a dysgu a dilyn eu rhediad hwythau.

Cofiwch Dylech blygu eich penliniau AC NID EICH CEFN cyn codi rhywbeth, fel ' bod cyhyrau'r glun yn cymryd y straen.

Mae hi'n anos i'r corff ymddangos yn iau, fodd bynnag, ac yn yr Act Gyntaf, mae cyhyrau a phwysau cyrff yn anochel yn hŷn na'r arddegau - trafferth teledu eto yw ei fod yn gyfrwng mor naturiolaidd, fel rheol, fel bod unrhyw wyro i ffwrdd oddi wrth y cwbl realistig yn annerbyniol tra bod llwyfan yn barod i gyflwyno gwahanieth fel rhan o her actio.

Ar y daith adref ar ôl chwarae ym Manceinion roedd yn draddodiad rhoi triniaeth arbennig i hogiau newydd y flwyddyn gyntaf Mae eli o'r enw 'Sloane's Liniment' i'w gael ar gyfer poenau yn y cyhyrau sy'n creu gwres mawr ar ba ran bynnag o'r corff y'i rhoddir.

Mae proteinau yn bwysig ym mhob rhan o fywyd; maent yn rhan o'r strwythur, yn bresennol ym mhob cell fyw, ac yn brif ddefnydd yn y croen, y cyhyrau, y gewynnau y nerfau a'r gwaed.

Ond yn ôl un o gyfarwyddwyr Hollywood cyhyrau o flawd oedd gan Reeves er gwaethaf ei orchestion ar y sgrin.

A deud y gwir Glyn fy mrawd canol, oedd y drwg, fo yn ddieithriad oedd cychwyn pob drygioni yn tŷ ni, wn i ddim am neb sy'n gallu tynnu coes ru'n fath â fo 'Odd Wili mrawd hyna', yn hogyn call distaw, ond efo cyhyrau mewn llefydd nad oedd gen i ddim llefydd.

'Roedd pwll nofio'n barod amdanom yn y gwesty i esmwytha/ u'r cyhyrau ysig ac ailddeffro'n cyrff at asbri'r hwyr.

Byddai'r fraich wedi ei gorchuddio a'i chadw mewn cadachau o formalin ac wedi'r cam cyntaf hwn aem ati wedyn i'w gwaredu o'r saim a'r bloneg nes dod at y croen sy'n dal y cyhyrau yn eu lle a dysgu wedyn am fan tarddiad a phwrpas pob un.

Mae'r carbohydradau ynddynt yn symbylu cynhyrchu ensymau treulio; y selwlos yn hybu symudiadau cyhyrau'r cylla; a'r alcalinedd yn cynorthwyo gwaredu deunydd gwastraff.

Mae ymarfer corff yn rheolaidd yn eich helpu gyda diet dda ac mae o gymorth arbennig gan ei fod yn annog i fraster gormodol gael ei losgi, yn hytrach na meinwe cyhyrau.

Yn y padiau clwm mae'r silia yn dal i geisio curo ac mae yna blygu a sythu rhythmig yn y padiau sy'n awgrymu gweithgaredd cyhyrau.

Yn nes ymlaen, oni chodir y gwres, â'r claf yn anymwybodol a bydd y cyhyrau yn mynd yn anystwyth.

Bydd ymarfer corff o gymporth i dynhau'ch cyhyrau a gwella'ch siap.