Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyllell

cyllell

Maent yn ei agor hefo cyllell, ac yn ei ail danio, ac i fyny'r rhaff â hwy, cyn gynted ag y gallent, a dyrna glec a thwrw mawr gan y cerrig yn rhowlio i lawr wyneb y graig.

Sylwodd Alun ar y graith biws hyll oedd yn rhedeg ar hyd un ochr i'w wyneb, lle'r oedd cyllell wedi rhwygo'r croen mewn sgarmes.

Diffinir y cae yn y cefn mewn strociau tew cyllell balet, y blaendir ag ysgubiadau lletach a mwy fflat, ac yna ar gyfer yr awyr gwaith brwsh yn sgrwbio'r paent yn fflat.

Saethodd cyllell o boen drwy 'nghefn, ac mi wyddwn yr eiliad honno na fydde'n bosib i mi gario 'mlân.

Mi fydd yna arwydd mawr ar ochr y ffordd efo llun cyllell a fforc arno fo.

Yn hardd a galluog ond heb un ffrind a allai fod wedi trafferthu digon i gyflawni'r ffafr syml o'i chadw'n fyw..." "Paid." "...All siarad o nawr hyd Ddydd y Farn newid dim ar y ffaith mod i wedi'i lladd hi, cyn sicred a phe bawn i wedi suddo cyllell ynddi a throi'n llafn yn y clwyf." "Roeddwn i'n amau.

Fe ges fenthyg cyllell gan Nedi Pen-dre Hi naddiff fel nedde o chwith ac o dde Rhaid gwasgu'n bur gethin cyn torro bren crin Ni waeth iddi lawer y cefen na'r min.

'Tyd, tamaid o'r deisan gwsberis 'ma,' meddai Emrys, gan wthio cyllell o dan ddarn ohoni.

'Ond mi roedd o mor dda, yn mynd drwy'r amddiffyn fel cyllell drwy fenyn.

Erys colofnau creithiau'r caledwaith yn y cloddiau, y cwteri a'r chwareli, gyda chaib a rhaw, bwyell a phladur, cyllell a llwy, heb sôn am fwa saeth y rhai o'u blaen hwy; ac eto fe fynnwyd rhoi amser i'r Achos a'r achosion.

"Eithr rhyw Samariad, wrth ymdaith, A Ddaeth Ato Ef." Torrodd Cyllell ei gariad mwyaf cu drwy chwyd fy chwerwedd, a rhedodd allan grawn drewllyd.