Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyllido

cyllido

Cyllidir y rhan fwyaf o waith Cymraeg i oedolion gan Gynghorau Cyllido Addysg Bellach ac Uwch Cymru.

Ni fyddai'n dderbyniol i'r Pwyllgor fod cyfrifoldeb strategol yr awdurdod addysg lleol am ddarparu a gweinyddu ystod o sefydliadau, gan gynnwys ysgolion penodedig Cymraeg, yn cael ei ddileu a'r cyfrifoldeb yn cael ei roi i gynghor cyllido enwebedig newydd.

Ni ragwelir y bydd swyddogaeth strategol a datblygol gan yr un o'r cynghorau cyllido newydd.

Mae'r ansicrwydd ynghylch cyllido yn peri pryder.

Ystyriwn mai gwaith o natur cyhoeddus a wneir gan asiantau fydd yn ceisio am gomisiwn i roi gwasanaethau cymorth i ysgolion a cholegau unigol, megis hyfforddiant-mewn-swydd, ymgynghori neu arolygu (dan gomisiwn i SPAEM, i'r Cynghorau Cyllido neu i awdurdod lleol), gan fod y fath wasanaethau wedi'u cynnig hyd yn ddiweddar gan gyrff cyhoeddus, awdurdodau addysg lleol yn enwedig ac, yn achos arolygu ysgolion a cholegau, AEM a oedd yn atebol i'r Goron.

CH.2) ar fformiwla cyllido grwpiau o ysgolion bach.

Bydd cyfrifoldeb ar yr AALl (a'r Cyngor Cyllido Ysgolion wedi i'r corff hwnnw ennill diddordeb yn y gyfundrefn leol) i sicrhau lleoliadau a darpariaeth addas i blant DAA.

* Cyngor Cyllido Addysg Bellach sy'n darparu cyrsiau mewn colegau chweched dosbarth, colegau trydyddol a cholegau addysg bellach; darparu cymorth i sefydliadau addysg gymunedol gan gynnwys Mudiad Addysg y Gweithwyr (WEA) ac i gyrff gwirfoddol addysg a gwaith ieuenctid gan gynnwys Urdd Gobaith Cymru a Mudiad Ffermwyr Ifainc;

Mae'r polisi hwn hefyd ar hyn o bryd mewn cul-de-sac, ond mae hygrededd ariannol y polisi hwn yn ddibynnol ar benderfyniad gan y Swyddfa Gymreig ar y fformiwla gyllido h.y. a ddylid dehongli 'ffederasiwn' fel un ysgol, neu fel nifer o ysgolion at bwrpas cyllido.

Cyllido swydd gweithwraig plant lawn-amser ym mhob un o'n llochesau yw ein nod o hyd, ac mae Cymorth i Fenywod yng Nghymru unwaith eto wedi cefnogi ceisiadau am arian drwy'r rhaglen Cymorth Trefal; bu dau o'r rhain yn llwyddiannus, sef y Rhyl ac Ogwr.

Yn y ddeddfwriaeth hon rhoddir grymoedd newydd i lywodraethwyr ysgolion a chyfundrefn o ddatganoli cyllid, sef Rheoli Ysgolion yn Lleol (RHYLL), sydd yn symud y penderfyniadau cyllido oddi wrth yr awdurdodau addysg lleol i ysgolion unigol.

Mae'r Adran o'r farn y dylid creu strwythur cyllido sy'n ei gwneud yn haws iddynt gymharu sawl cais am yr un project, er mwyn dod ag elfen gystadleuol i'r broses.

* Cyngor Cyllido Addysg Uwch sy'n darparu cyrsiau mewn athrofeydd, colegau (ac ysgolion) hyfforddi athrawon a phrifysgolion (gan gynnwys adrannau efrydiau allanol);

* Y Swyddfa Gymreig (Cyngor Cyllido Ysgolion) sy'n darparu lleoedd mewn ysgolion a gynhelir â grant uniongyrchol (GG);

Nid yw'r ystyriaeth hon yn gwbl briodol ar gyfer y sefydliadau cyhoeddus sirol a chenedlaethol (megis yr awdurdodau lleol, CBAC, ACAC a'r Cynghorau Cyllido) sydd yn ymdrin â'r strwythur cyflawn ac yn monitro cyd-bwysedd y ddarpariaeth.

Yng Nghymru ymwrthodwyd yn llwyr â rheolaeth drwy'r Quangos o'r dechrau ac ni fyddwn yn barod i weld disodli y Cyngor Cyllido Addysg Bellach gan gwango arall.

Sefydlwyd Cynghorau Cyllido Cymru ym mis Mai 1992 er mwyn cyllido addysg bellach ac uwch yng Nghymru.

Arweiniodd y newid hwn, er enghraifft, i ddryswch yn barod ymhlith staff colegau, swyddogion y Cyd-Bwyllgor Addysg a swyddogion y Cynghorau Cyllido.

O safbwynt cyllido'r broses cynhyrchu gan yr Adran, y sefyllfa hanesyddol yn y canolfannau adnoddau yw bod rhai grantiau yn cefnogi cyflogi staff yn ganolog er mwyn darparu clwm o brojectau a bod grantiau eraill yn cefnogi staffio a phrojectau penodol fel eitemau ar wahân.

Pryderir na fyddai fformiwla/ u cyllido corff o'r fath yn ymatebol i'r anghenion amrywiol sydd yng ngwahanol ardaloedd Cymru, nac wedi'u seilio ar bolisi%au wedi'u llunio gan bersonau etholedig ac atebol i'r cymunedau lleol hynny.

Byddai'n rhesymol, felly, i'r Bwrdd ddisgwyl i'r cynghorau cyllido a'r awdurdodau addysg lleol - neu'r Swyddfa Gymreig yn achos ysgolion a gynhelir dan grant - fod yn gyfrifol am gyfryngu polisi%au iaith y sefydliadau y maen nhw'n gyfrifol am eu hariannu a monitro gweithredu'r polisi%au hynny.

Mae'r Cyngor yn awr yn chwilio am fentrau ategol sydd wedi eu cyllido'n ddigonol i gyfathrebu â'r gynulleidfa ar lwyfan ehangach.

O'r dechrau datblygwyd cyrsiau, gyda nawdd Cyngor Cyllido Cymru, a oedd yn defnyddio sgiliau a methodoleg dysgu pynciol fel cyd-destun i ddatblygu iaith.

Pwy fydd yn cynghori swyddogion ac aelodau'r Awdurdod, a'r Cynghorau Cyllido eraill, ar natur y gofynion a'r blaenoriaethau yn y sectorau priodol?