Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cymal

cymal

Fe'i sadiodd ei hun, ac wedi sticio'r fforc yn y glun agosaf ato, chwiliodd â'r gyllell am y cymal cyntaf.

Mae un cymal yn y rheolau sefydlog yma yn datgan na ddvlai yr un aelod gael ei ethol i Gadair y Cyngor am yr ail dro tra bod aelod arall heb fod yn y Gadair o gwbl.

(Yng nghyd- destun y Cymal hwn golyga "o natur rywiol amlwg" weithred, pe'i perfformiwyd yn gyhoeddus a ystyrid yn fasweddus).

Ceir enghraifft o hyn yn y cymal sy'n son am 'Political Levy%; mae'n ffaith ers blynyddoedd fod gan bob aelod o bob Undeb yr hawl i beidio a thalu y 'Levy' yma.

Cyfres o dameidiau oedd blwyddyn a rhoddid pwyslais ar bob cymal ohoni yn ei dro.

Valencia sy'n mynd trwodd gan iddyn nhw sgorio gôl oddi cartre yn Highbury yn y cymal cyntaf.

Maen nhw wedi cymryd cam bras tuag at y rownd derfynol a gêm debygol yn erbyn Wrecsam sydd hefyd â dwy gôl o fantais dros Y Barri ar ôl eu gêm cymal cynta' nhw.

Yn erbyn Deportivo La Coruno, sydd ar hyn o bryd yn ail yn y cynghrair yn Sbaen, fe fuasech chi'n disgwyl byddai 3 - 0 wedi'r cymal cynta yn gyffyrddus.

Chwerthin wnes i pan eglurodd y ficer y cymal, ac roedd ynte hefyd yn gwenu, ond medde fe i gloi'r sgwrs.

Maen nhw ar y blaen o bum gôl i un ar ôl y cymal cyntaf.

Gallaf gydymdeimlo â chyfieithwyr yn yr Alban a fu mewn dyfroedd dyfnion yn ystod trafodaethau'r senedd yn diwygio Cymal 28 yno.

Bydd Leeds yn teithio i Valencia ar ôl cymal cynta ddi-sgôr.

Gweud wnath e fod un cymal yn y 'wyllys na fedre neb neud pen na chynffon ohono fe.

Mae'n gyfartal ddi-sgôr ar hyn o bryd ar ôl y cymal cyntaf yn Barcelona.

Yn y Cwpan Cenedlaethol heno bydd Y Barri a Wrecsam yn chwarae cymal cynta'u gêm nhw yn rownd gyn-derfynol y gystadleuaeth.

Un cynnig nad yw wedi derbyn y sylw dyledus yw'r cymal sy'n argymell sefydlu Cyngor Rhanbarthau i Ewrop.

Yn ogystal â'r cymal ynglyn â'r amseru, ac yn y cyfarfod cyhoeddus olaf i drafod y Papur Ymgynghori fe ddatganodd y Grwp eu bod yn derbyn fod rhaid i'r dwyieithrwydd fod yno o'r dechrau, ychydig yn brin o fanylder ar y mater hwn oedd dogfen y Grwp.

Maen nhw'n mynd i Bayern Munich gôl i ddim ar ei hôl hi wedi'r cymal cyntaf.

Yn honno mae gan Bayern Munich fantais dros Real Madrid 1 - 0 ar ôl y cymal cynta.

Roedd tîm Arsene Wenger heb nifer o'u sêr, ond maen nhw trwodd i'r cymal nesaf, er iddyn nhw golli.

Y cymal olaf yna a'm gyrrai'n ôl i'r gegin i lefain.

Mae Wrecsam ar y blaen 3 - 1 ar ôl y cymal cyntaf yn erbyn Y Barri ac Abertawe ar y blaen 2 - 0 yn erbyn Merthyr.

Wrecsam yw'r ffefrynnau i gyrraedd rownd derfynol y Cwpan Cenedlaethol - ar ôl iddyn nhw ennill cymal cynta'r gêm gyda'r Barri, 3 - 1, ar Barc Jenner.

Yr oedd cymal yng nghytundeb Henry pan ymadawodd ag Auckland yn dweud na chaiff o hyfforddi unrhyw dîm ond Cymru.

Y gosodiad pwysicaf yn y paragraff, fe ddichon, yw'r cymal sy'n dweud fod Arthur wedi ymladd yn erbyn y Saeson gyda brenhinoedd y Brytaniaid, ond mai ef oedd 'arweinydd y brwydrau' y dux bellorum.

Gwrthododd Cyngor Tref Blaenau â derbyn y cymal yma ac felly mae'r Gadair yn gogrdro rhwng cylch bach o Gynghorwyr, ac ymddengys fod y cylch yma yn mynd yn llai ac yn llai.

Tony Blair yn llwyddo i ddiddymu Cymal 4 o gyfansoddiad y Blaid Lafur.

Roedd siâp anarferol iddo, yn denau a chul fel bys ychwanegol, heb unrhyw dro yn y cymal cyntaf.

Bydd y rasio'n dechrau heno mewn cymal arbennig yng Nghaerdydd cyn i'r gyrrwyr fynd allan i'r coedwigoedd.

Noder yn arbennig y cymal olaf yna.

ac ar adeg pan oedd pawb arall ar gysgu y gofynnodd Gerry Adams a chynrychiolwyr Sinn Féin am gael cynnwys y cymal holl bwysig ar y Wyddeleg.

Yn methu'n lân, fodd bynnag, â'i leoli, suddodd y gyllell i lawr am y cymal sy'n cysylltu'r aelod wrth y corpws, a dechreuodd hacio'n hyderus yn y diriogaeth honno.

Ar Old Trafford, heno, chwaraeir cymal cynta'r gêm rhwng Manchester United a Bayern Munich yn rownd wyth ola Cynghrair y Pencampwyr.

Roedd gan Wrecsam ddwy gôl o fantais wedi'r cymal cynta.

Gwrthwynebwn unrhyw awgrym y dylid cyflwyno dwyieithrwydd mewn dull graddol a chondemniwn unrhyw ymesgusodi rhag dwyieithrwydd cyflawn ar sail cymal 'rhesymoldeb' Deddf y laith Gymraeg 1993.