Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cymdeithasau

cymdeithasau

Peth arall a nodwedda y cymdeithasau hyn, a hon fel y rhelyw ohonynt, bod y cyfarfodydd yn hynod o rydd a theuluaidd.

Fel y Cymdeithasau Taleithiol yn genedlaethol, yr oedd gan y cymdeithasau Cymreigyddol eu heisteddfodau lleol, a bu i'r rhain

Cymdeithasau Tai

Bu rhieni ac ardalwyr Bryncroes yn ymladd brwydr yr ysgol am ddwy flynedd gyda chefnogaeth cymdeithasau a mudiadau trwy Gymru gyfan, ond wydden nhwythau ddim, mwy nag y gwyddai beicwyr Byclins, fod tynged yr ysgol wedi ei benderfynu ymhell cyn gwneud unrhyw gyhoeddiad swyddogol ynglŷn a'r bwriad.

Araf iawn fu cymdeithasau tai i wneud eu marc yn yr ardal hon.

Yn ystod yr amser yma roedd tad Euros yn Llywydd Cymmrodorion Llanelli a Llywydd Undeb Cymdeithasau Cymraeg Dwyrain Dyfed.

Mae darpariaeth Anghenion Arbennig cymdeithasau tai wedi newid yn fawr iawn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gyda dyfodiad darpariaethau a chanllawiau dylunio newydd Tai Cymru, a newidiadau i'r system gyllido.

Croesdoriad yn cynrychioli nifer o asiantau oedd yno: awdurdodau addysg, adrannau gwasanaethau cymdeithasol, colegau addysg bellach, colegau hyfforddi, y cyfryngau, maes Cymraeg i Oedolion, y sector wirfoddol, cymdeithasau rhieni.

O safbwynt cyfnewidiad cymdeithasol yr oedd Rheolau a Dybenion y Cymdeithasau Neillduol yn mhlith y Bobl a elwir y Methodistiaid yn Nghymru yn dra arwyddocaol.

Yr oedd yn dda gan Gymorth i Fenywod yng Nghymru gael ymgynghori a gweithio gyda Tai Cymru, a Ffederasiwn Cymdeithasau Tai Cymru yn y gwaith o lunio'u canllawiau newydd hyn mewn perthynas â llochesau.

Defnyddiaf ynni fel esiampl gan yn anad, dim ynni sy'n cynnal cymdeithasau ac mae eu ffyrdd o'i ddefnyddio yn eu nodweddu.

Gweithredai'r cymdeithasau Cymreigyddol fel man cyfarfod i wahanol ffrydiau'r deffroad cenedlaethol, ac ynddynt gellid gweld archddiacon Anglicanaidd ysgwydd wrth ysgwydd ag argraffydd o Fedyddiwr a saer o Undodwr yn yr ymdrech i goleddu'r Gymraeg a'i diwylliant.

Rhan o'r deffroad hwn oedd y Cymdeithasau Taleithiol; ond rhan arall, fwy arwyddocaol o bosibl, oedd y cymdeithasau Cymreigyddol a gododd fel grawn unnos trwy'r wlad yn ystod yr ugeiniau a'r tridegau, ac yn enwedig yn y cymunedau diwydiannol newydd yn ne-ddwyrain Cymru, a oedd yr adeg honno bron yn uniaith Gymraeg.

Dylai'r Cynulliad ddileu Tai Cymru fel Quango a chryfhau darpariaethau Cymdeithasau Tai Lleol yn y sector rhentu gan eu galluogi i brynu mwy o dai o'r stoc dai presennol yn hytrach na'u gorfodi i godi tai newydd.

Cymdeithasau cenedlaethol oedd y Cymdeithasau Taleithiol, cymdeithasau lleol oedd rhai'r Cymreigyddion; a thra denai'r Cymdeithasau Taleithiol eu cemogaeth yn bennaf o blith yr offeiriaid a haenau uchaf cymdeithas, roedd y Cymreigyddion yn fwy 'eciwmenaidd' yn grefyddol ac yn gymdeithasol.

Oni welir newid mawr yn y sefyllfa, a hynny ar fyrder, ni fydd cymdeithasau naturiool Cymraeg yn bod o fewn 30 mlynedd.

Tra bod Kevin Keegan a Mark Hughes yn ail-asesu tactegau yn dilyn y gystadleuaeth, y wers i'w dysgu yn ôl cymdeithasau pêl-droed y gwledydd Celtaidd yw mai y ffordd ymlaen yw rhannu baich y trefnu.

Yr ydym yn hynod obeithiol wrth edrych ymlaen at y dyfydol gyda tho ifanc braf iawn yn gweithio'n galed i newid delwedd draddodiadol cymdeithasau Cymreig yr Unol Daleithiau o fod yn glybiau y "Blue Hairs" yn llawn hen bobl sydd heb weld y Gymru gyfoes ac sydd ddim eisiau ei gweld.

Yn nechrau'r ganrif hon cafwyd ymgeision ffurfiol i wella anifeiliaid traddodiadol Cymru trwy sefydlu cymdeithasau ar gyfer y Defaid Mynydd Cymreig a'r Gwartheg Duon.

Un peth a nodwedda cymdeithasau o'r fath yma yn Rhydychen ydyw mai rhai bron a thorri ar eu traws am gael lle yn aelodau yn unig a dderbynnir i mewn; felly ni cheir lawer o aelodau cloff anghyson eu hymweliad.

Nid yw dibynnu ar ewyllys da wedi dod â gwasanaeth Cymraeg yn achos banciau, cymdeithasau adeiladu, cwmnïau ffôn symudol, a chwmnïau meddalwedd.

gall seiliau hen draddodiad fod yn gyntefig iawn, ac i'm tyb i, egwyddorion cymdeithasau cyntefig sydd wrth wraidd pob crefydd.

Y mae Ffederasiwn Sirol o'r Cymdeithasau yma wedi sefydlu, ac wedi gosod nod ac amcanion teilwng iddi'i hun.

Fel arfer, cymysg hefyd yw'r sioeau mwy arbenigol sy'n ymwneud ag anifeiliaid fel cŵn, cathod, adar neu gwningod, er ambell waith bydd cymdeithasau fel y Welsh Terrier Association neu'r Springer Spaniel Club of South Wales yn trefnu sioeau yn arbennig ar gyfer math arbennig o gi.

Yn wir, daliai ef fod Arthur o bosibl yn hen arwr cenhedlig i'r pobloedd Brythonig cyn iddynt fudo i Brydain, ac mai dyna paham y ceir ef wedi ei leoli ym mhob man lle y sefydlwyd cymdeithasau Brythonig yn ddiweddarach, - yn yr hen Ogledd, yng Nghymru, yng Nghernyw ac yn Llydaw.

Parodd y cymdeithasau hyn gryn syndod iddo ar y cyntaf.

Ffurfiwyd y Gymdeithas yn 1981 yn uniad o'r Cymdeithasau Hanes Teuluol a oedd yn bodoli yng Nghymru.

Yn wir, roedd y rhan helaethaf o'r cymdeithasau adeiladu heb yr un gair o Gymraeg ar gyfyl y lle.

Er enghraifft, sefydlwyd clwb Cymraeg yn Bahrain dros ugain mlynedd yn ôl ac y mae cymdeithasau sefydlog hefyd yn Kuwait ag Abu Dhabi.

Yr unig fodd o adfer yr iaith yw ei hadfer o fewn cymdeithasau sefydlog a naturiol Gymraeg.

Aethpwyd ati i wahodd yr awdurdodau lleol, y cymdeithasau a'r cyrff crefyddol a'r eglwysi, y pleidiau gwleidyddol a mudiadau, i anfon cynrychiolwyr yno.

Er bod y mudiad cymdeithasau tai yng Nghymru wedi ehangu, mae eu cyfraniad hwy i ddarparu cartrefi parhaol ar gyfer menywod a phlant sy'n ymadael â llochesau yn amrywio'n fawr iawn.

Straeon yw'r rhain sydd yn cael eu dweud, eu hail-ddweud, a'u credu yn ein cymdeithasau modern ledled y byd, ond mae'n ddiddorol nodi mai cefndir Americanaidd sydd i nifer ohonynt - cawn drafod paham yn nes ymlaen.

Na fydd angen Tai Cymru gan y bydd cyfrifoldeb tai yn nwylo cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol; na fydd angen Quangos addysg gan y bydd yna system addysg annibynnol ac na fydd angen Bwrdd Iaith oherwydd y bydd deddf iaith fydd yn dod â dwyieithrwydd yn naturiol.

Aeth dorf o amgylch tref Aberystwyth gan bastio posteri ILDIWCH I'R GYMRAEG ar siopau, banciau, cymdeithasau adeiladu, ac unrhyw sefydliad arall nad oedd yn defnyddio'r Gymraeg pchr yn ochr â'r Saesneg.

Nid yw'r cyfryngau mor barod i ddatgan pryder y Glowyr hyn am ddyfodol eu cymdeithasau glofaol.

Yna, a Henry Lewis erbyn hyn yn bennaeth yr Adran Gymraeg yng ngoleg newydd Abertawe, gofynnodd Gruffydd iddo alw ynghyd gynrychiolwyr o'r Cymdeithasau Cymraeg.

Bydd bwlch yn y cymdeithasau Cymraeg o golli un o'u selogion.

Ymgyrchwr diflino ydoedd - dros amryw byd o achosion, gan gynnwys masnach rydd, dirwest, heddychiaeth, addysg wirfoddol, cymdeithasau dyngarol ac Ymneilltuaeth radical.

Yn y cyfamser, roedd y galwadau'n cynyddu o du cymdeithasau a chwmni%au drama lleol, a'r sgrifennu'n cael ei wneud yn oriau mân y bore ar ôl gorffen gwaith y dydd yn y garej.

Bwriedid yn awr gynnal cyfnod llawn o ymgynghoriad cyhoeddus gyda'r cynghorau cymuned/tref, cyrff cyhoeddus, cymdeithasau lleol a'r cyhoedd a gwneid hynny drwy

O ddechrau'r ddeunawfed ganrif ymlaen, 'doedd dim gwrthbwysau arall - dim cymdeithasau tai coffi, dim dosbarth masnachol Cymraeg, dim agnosticiaid prifysgol, dim criwiau o arlunwyr, dim diletantiaid llengar (ac eithrio ychydig o bersoniaid), dim isfyd Bohemaidd.

Chwelir cymdeithasau bychain ac mae'r iaith yn diflannu yn y broses.