Am y llwynog a'r sbort o'i ddal y siaradai'r cwmni wrth y bwrdd mawr, ac felly y gwnâi cymdeithion Harri wrth y bwrdd bach.
Gwell gan Harri a fuasai bod yn y pilori nag eistedd gyda'r cymdeithion hyn, ond nid oedd ganddo ddewisiad.