Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cymdogaeth

cymdogaeth

y cyneddfay ar rhinwedday hynny oll yn amlach, ac yn helethach ar y Brytaniait yn yr hen amser nac ar nasiwn ac ydoedd yw cymdogaeth oy amgylch'.

Gellir dweud mai da yw gweithgareddau sy'n gogwyddo at greu cymundod, ac yn cyfoethogi bywyd cymdeithas, ac yn meithrin cymdogaeth dda; ac mai drwg yw gweithgareddau sy'n malurio cymdogaeth a chymdeithas.

Dywedodd fod lladron yn hoffi'r cyfle hawdd a phwysodd arnom i wneud ein cymdogaeth yn lle mwy diogel i fyw.

'Wel, wna i ddim addo galw bob tro, Mrs Williams - ond dwi'n siŵr y bydda i'n falch o'ch cymdogaeth dda.

'Roedd cymdogaeth dda yn cyrraedd at dail hyd yn oed.

Gellir cymharu lle'r genedl yn y byd â lle'r teulu mewn cymdogaeth leol ac â lle cymdogaeth mewn cenedl.

Clywir amdano ym Mhrydain yn y Canol Oesoedd ac yn yr ail ganrif ar bymtheg roedd yn achos marwolaeth i wyth o bob deg o blant dan bum mlwydd oed mewn llawer cymdogaeth.

Symudol yw'r boblogaeth nawr, ac er fod y newydd-ddyfodiaid, yn Gymry a Saeson, yn fwy amharchus o'r Sabath na'r oes o'r blaen, eto y maent hwythau yn parchu cymdogaeth dda ac y mae'r ddisgyblaeth gymdeithasol yn para yn ei grym.

Y mae a wnelo llawer o ddysgeidiaeth Crist â chreu cymdogaeth dda lle y mae cariad rhwng cymdogion.

Yr oedd rhyw angladd mewn cymdogaeth wledig fel Cwm-garw y pryd hwnnw, lle'r oedd y tai yn anaml, yn beth i sôn amdano, ond heddiw dyma angladd cymydog, angladd perthynas, angladd hen ddyn yr oedd y gymdogaeth yn ei barchu a'i anwylo, - angladd ewyrth Richard Cwm- garw, yn codi o'r tŷ o fewn lled dau gae i'n tŷ ni.

Sut mae gobaith cael cymdogaeth dda pan fo merched a dynion allan yn gweithio ac allweddi wedi'u rhwymo am yddfau'r plant?