Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cymdogion

cymdogion

Dymunwn yn dda i Emyr a Massie yn y ddinas dros y Fenai, diolch am eich cwmni a'ch cefnogaeth, mae eich myned yn golled i'ch cymdogion ym Mhorthllechog.

Gallasai adrodd yn llawen ambell dro, ac mi'r oedd yn dysgu partin aelwyd erbyn pob amgylchiad a weithiau yn gwadd y cymdogion i ganu efo ni.

Angharad wedi dod, ac mae hi yn rhan o Cymdogion arbennig hefyd, ar draws yr Ynys, pawb bron yn 'nabod ei gilydd, anhygoel, a phawb yn gytun, a'r mor a'r mynydd...

Mae'r manylion am y cymdogion hyn yn troi i ffyrdd mor wrthgyferbyniol yn gorfodi haneswyr i holi a yw hi'n iawn tybio fod y Diwygiad Methodistaidd yn codi o achosion cymdeithasol?

Yr adeg hyn, oedd dad a man yn cynnal ysgol Sul yn y tŷ ac yn gwadd y cymdogion, tri theulu, i ddod atom.

Ac y mae hyn yn creu gwahaniaeth trawiadol rhwng y Cymry Cymraeg eu hiaith a'u cymdogion uniaith.

Ac wrth gwrs, Iran, Afghanistan a Pakistan yw'r cymdogion agosaf yn y rhan yma o ganolbarth Asia - gwleydd Moslemaidd bob un.

Yn ôl y cymdogion mi fyddai o'n neidio allan o flaen ceir ac yn mynnu bod y gyrrwyr unai'n rhoi ceiniog neu felysion iddo.

Gadawsant gapel eu cymdogion am uchel nef yr Eglwys Anglicanaidd.

Cofiwch, fydda i ddim yn gwneud hyn ond yn nhywyllwch nos - rhag ofn i'r cymdogion amau mod i'n dechrau drysu!

Am resymau digon amlwg datblygai y syniadau hyn gan mwyaf yng ngwladwriaethau canol Ewrop a ddymunai gystadlu'n well â'u cymdogion gorllewinol.

Wrth i'r frwydr i gael gwared ar yr unben, yr Arlywydd Mohammed Siad Barre, ledaenu drwy'r wlad, roedd carfan wedi troi'n erbyn carfan a llwythau wedi troi ar eu cymdogion, gan ddifa ffermydd, tir ffrwythlon prin ac, yn waeth fyth, cymunedau cyfan.

Nid bod llawer iawn o'r teuluoedd a'n cymdogion yn medru fforddio prynu llawer o'r glo 'ma cyn hynny.

Her i'r cymdogion hefyd, Elaine Page yn canu, "Don't cry for me Argentina%.

Gwþr caredig oedd gwþr Sir Gaerfyrddin; gwþr cymwynasgar, tylwythgar, teulugar, cymdogion da, boneddigion y tir; gwragedd diwyd, doeth a ffrwythlon; pobl heb ddail ar eu tafod, yn lletygar i grwydriaid, yn talu dyledioon, yn rhoi arian ar fenthyg heb wystl ond ymddiriedaeth, yn cynorthwyo'i gilydd; y bobl a fu'n dioddef gorthrwm a thrais y meistri tir a'r stiwardiaid, yn ymladdd yn erbyn anghyfiawnder, yn aberthu pob dim er mwyn egwyddor ac yn dal at eu hargyhoeddiadau hyd y carchar a'r bedd.

Y mae a wnelo llawer o ddysgeidiaeth Crist â chreu cymdogaeth dda lle y mae cariad rhwng cymdogion.

Amheuai'n gry mai o berllannoedd eu cymdogion y daeth y Bramleys, y Russets a'r gellyg.

Maent wedi byw yma erioed ac yn adnabod eu cymdogion ac yn deall eu dyheadau.

Newydd orffen ei ginio yr oedd William Parry, un o'r cymdogion, ac yn croesi cae gerllaw Tyddyn Bach pan glywodd sŵn ergyd, ond ni chymerodd fawr o sylw o hynny.

Edrychai Cymry'r cyfnod ar Ewrop drwy lygaid eu cymdogion Seisnig, sy'n esbonio eu difaterwch tuag at y cenhedloedd niferus hynny ar y cyfandir a oedd yn debycach iddynt hwy o ran maint a phrofiad.

Trwy ymroddiad cymdogion a'r gwasanaeth tân llwyddwyd i arbed peth ar y Swyddfa ond ni ellid ei defnyddio am ychydig amser.