Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cymeradwyo

cymeradwyo

ARGYMHELLWYD cymeradwyo gweithrediad y Prif Swyddog Iechyd Amgylchedd yn ymateb i'r adroddiad o fewn y cyfnod penodol ar y llinellau a nodir yn ei adroddiad.

Y mae cynllun Sir Conwy yn un o ddim ond pump gafodd eu cymeradwyo gan y Cynulliad.

T^y'r Cyffredin yn cymeradwyo gorfodi dynion sengl rhwng 18 a 41 oed i ymuno â'r Lluoedd Arfog.

Nid yw'r erthygl hon yn llwyddo i ddatrys beth yw effaith llenyddiaeth, a beth yw ei pherthynas â moesoldeb, ond y mae'n eglur ei bod yn cymeradwyo realaeth sy'n onest a chyfrifol.

Go brin fod y dorf enfawr fu'n cymeradwyo ei fuddugoliaeth fel arlywydd yn sylweddoli gwir ystyr yr araith fer o falconi'r Casa Rosada 'Rwy'n eich gwahodd i enedigaeth cyfnod newydd, cyfle newydd, a all fod yr un olaf a'r pwysicaf yn ein hanes,' meddai.

Yn bersonol, fyddwn i ddim yn cymeradwyo fawr ddim gan Kate Roberts er enghraifft.

Felly, ni ellir ond cymeradwyo cyfrol sy'n mynd i ddatgelu mwy o berlau'r iaith Gymraeg i'w siaradwyr presennol.

(Tyrfa enfawr yn dechrau cymeradwyo yn frwd.)

Mae Pwyllgor technegol yr Undeb eisoes wedi cymeradwyo cais Henry.