Weithiau cymerant yn ddistaw a swil - rhyw binsio cymryd yn union fel deilen grin yn taro'r bach ar ei thaith.
Wrth fynd i orffwyso i'r wâl cymerant sylw manwl o gyfeiriad y gwynt; os chwyth y gwynt o'r gogledd, fe â'r ysgyfarnog heibio i'r wâl am ryw ugain llath gan gadw ar yr ochr ogleddol iddi a rhyw dair llath oddi wrthi.