Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cymesur

cymesur

Dyn cymesur a golygus oedd Daniel, ac ym mha le bynnag y gwelid ef, yn y gwaith tun neu yn y Sedd Fawr, perthynai rhyw urddas iddo, a rhoddai argraff dda ar bawb a gyfarfyddai ag ef.

Gallaf weld darlun ohono yn fy meddwl pan oedd yn ugain mlwydd oed, yn ddyn ifanc talgryf, cymesur, a'i wddf praff nid fel llinyn rhwng y corff a'r pen, ond yn estyniad cadarn o'r corff.

Prynasid hi yn y ffair am na allasai ei phrynwr wrthsefyll apêl ei phen main gyda'r trwyn cau, a'i chroen tenau llac, a'i phwrs llydan cymesur.