Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cymharol

cymharol

Dyna pam y penderfynwyd ar unedau hyfforddiant mewn swydd cymharol fyr yn hytrach na llyfr.

Yn yr erthygl hon carwn son am rai agweddau o faes enfawr ffiseg solidau ac am rai o'r dyfeisiadau elecgtronig cymharol ddiweddar sydd eisioes, ac a fydd yn y dyfodol, yn effeithio i raddau helaeth iawn ar ein ffordd o fyw ac ar natur ein cymdeithas.

Yn y diwedd, fe gymodwyd rhwng Morgan ac Evan Meredith gan neb llai na Syr John Wynn o Wedir, y bu priodas ei frawd ieuengaf ag aeres Maesmochnant yn achos effeithiol yr holl helynt, ac am ychydig flynyddoedd fe fu tawelwch cymharol yn Llanrhaeadr, fel y buasai yn ystod blynyddoedd cyntaf trigiant Morgan yno.

Ni roddir ystadegau ar wahân am y ddau ryw, ond mae'n amlwg mai dim ond cyfnod cymharol fyr a dreuliai'r merched yn yr ysgol.

Eisiau siarad â dyn yr oedd hi, dyn cymharol ifanc ddeng mlynedd yn ôl, a dywedai wrthyf, 'Mae hi'n unig yma, ac yr ydw i'n fed-up - yn union fel petai hi'n ferch ifanc heb oed, heb boints ar nos Sadwrn, yn defnyddio iaith a oedd yn gymhwysach i'r Chweched Dosbarth nag i Frenhines Llên y Cymry.

Derbyniant grantiau cymharol fach gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ond mae eu bodolaeth yn dibynnu'n fwy ar werthiant, hysbysebion lleol, a gweithgareddau codi arian lleol, sydd ynddynt eu hunain yn isgynhyrchion cymunedol pwysig.

Cwt cymharol fychan oedd o, heb lun na phoster ar ei gyfyl.

Ymadael yn hwyr yn y prynhawn yng nghwmni gwr cymharol ifanc o'r enw Josepho - peintiwr wrth ei alwedigaeth cyn y rhyfel, ond wedi gorfod ymuno â'r fyddin.

Mae'r amrediad o anghenion addysgol arbennig yn eang iawn, ac yn amrywio o anawsterau dysgu cymharol fychan i anableddau dwys a lluosog.

Cymharol ychydig o athrawon er hynny sydd yn addasu eu dulliau a'u harddull ddysgu i gyd-fynd a chynnwys y wers.

Yn y cyfnod hwn y duedd oedd i'r prifeirdd ddod o gefndir academaidd y colegau; cymharol ddiaddysg oedd Hedd Wyn, ac yn erbyn ei ewyllys yr ymunodd â'r Fyddin.

Nid oedd darpariaeth mor gyson yn Lloegr, Ffrainc, a Gwlad Belg, ond golygai cyflwr cymharol ddatblygedig y gwledydd hyn fod canran gweddol fawr o'r plant yn cael addysg o ryw fath, er nad oedd hyn mor wir am y taleithiau ymylol fel Cymru neu Lydaw, o bell ffordd.

a) cynnwys y sectorau preifat a gwirfoddol ynddi fel cydnabyddiaeth o'r trawsnewid sydd wedi digwydd wrth ystyried darparwyr gwasanaethau a fu'n draddodiadol o fewn y sector gyhoeddus, twf cyffredinol y sector breifat ac edwiniad cymharol y sector gyhoeddus, a mentrau ar y cyd rhwng sectorau.

Gall hyn fod oherwydd natur ei gynnwys neu'r ffaith ei fod yn deitl cymharol newydd.

Y mathemateg cymharol syml i Gaerdydd yw os enillan nhw eu dwy gêm gartre bydd neb arall yn y grwp yn gallu eu cyffwrdd nhw.

Fel y gwelir ar y mapiau, plwyf tair anglog cymharol fychan o ryw bedair mil o gyfeiriau yw Llangwyryfon, ac y mae'r stori hon amdano yn cyfeirio yn rhannol hefyd at y pum plwyf sy dros y ffin iddo.

O ran hynny lleiafrif cymharol fychan o Annibynwyr sydd â syniad clir am ei natur, ei waith a'i awdurdod.

Yn ol rhai yma'n San Steffan, mae dyfodol William Hague yn dibynnu ar ganlyniad cymharol barchus.

Adran cymharol fer yw hon.

Rhyw fân straeon cymharol ddiniwed a gafodd eu cyhoeddi gyntaf.

Os digwydd i chi, mewn gêm, golli un o'ch Cestyll am Esgob neu Farchog eich gwrthwynebydd mae'n debygol y byddwch yn colli'r gêm yn y pen draw, gan fod gwerth cymharol eich byddin chi wedi mynd i lawr ddau bwynt.

Y bwriad yn y pen draw oedd olrhain '...' Cyfrol idiosyncratig yw hi; cymharol ychydig o sylw a roddir i gerddi Keats - fel y cyfryw?

Ac yma yng Nghymru fe ddylai Llywydd y Blaid gael lle cymharol i'r hyn mae arweinwyr y tair plaid yn el gael.

Mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith fod cyfran uchel o dir Cymru'n cael ei ddefnyddio i gadw defaid a'r ffaith ei bod yn bosib cynnal rhifau cymharol uchel o ddefaid ar y tiroedd hyn.

Yn y lle cyntaf, ni all model statig, diamser, ymdrin o gwbl ag un o'r problemau ymarferol pwysicaf sy'n wynebu pob pennwr polisi%au, sef problem amseru; ac yn yr ail le, yn groes i dybiaeth (vi), nid ydyw gallu cynhyrchu'r economi yn aros yn ei unfan hyd yn oed dros gyfnod cymharol fyr.

O gychwyn a'r safbwynt hwn, cam hawdd oedd datblygu system o nodau tymor-byr, y naill yn adeiladu ar sail yr un blaenorol, a phob un yn gyraeddadwy ar ôl cyfnod cymharol fyr o astudiaeth, a allai amrywio o ran hyd, adnoddau, gallu'r dysgwr, etc.

Yn ail iddo, ac yn gyntaf deilwng gan J. J. Williams, 'roedd bardd ifanc cymharol ddiaddysg ac anadnabyddus o'r enw Ellis Humphrey Evans, neu Hedd Wyn.

Wrth sgrifennu nofel, mae amser i newid cywair a chyfeiriad, i grwydro ar hyd ambell lwybr cymharol ddiamcan oddi ar briffordd y stori, i hamddena a gwagswmera.

Achosodd prinder cyfleoedd gwaith i frodorion Cymraeg eu hiaith symud i ffwrdd, a phrisiau tai cymharol isel ac atyniad y bywyd gwledig i fewnfudwyr di-Gymraeg symud i mewn.

Roedd rheolwr dros-dro Lloegr, Peter Taylor, yn hael ei ganmoliaeth o berfformiad e dîm cymharol di-brofiad.

Rhoes ei stamp yn drwm ar y cylchgrawn mewn dwy ffordd, trwy fynnu cyfraniadau cymharol fyr, bywiog, graenus (cywirai a chwtogai'n gall), a thrwy ddenu awduron ifainc i gyhoeddi ynddo.

Canlyniad hynny oedd bod ..., mynychu capeli, a phrinder cymharol troseddau yn cydfodoli gyda '...' .

(d) Cau Swyddfa'r Arolwg Daearegol yn Aberystwyth CYFLWYNWYD llythyr Mr Cynog Dafis AS yn hysbysu bod yr Arolwg Daearegol yn bwriadu cau'r swyddfa uchod er mwyn arbed swm cymharol fechan o arian.

O ddechrau cymharol ddi-nod, datblygodd y tîm i fod y gorau yn Ne Cymru ac, fel Dinas Caerdydd, fe lwyddwyd i gipio Cwpan yr FA o ddwylo clybiau Lloegr am y tro cyntaf drwy guro Arsenal yn Wembley ym 1927.

Williams, 'roedd bardd ifanc cymharol ddiaddysg ac anadnabyddus o'r enw Ellis Humphrey Evans, neu Hedd Wyn.

Mae rhywbeth cymharol sinistr ynghylch hon ac, yn sicr, mae hi'n profi fod gan Teflon Monkey ddigon i'w gynnig yn y Gymraeg yn ogystal.

Cymharol ychydig o sylw beirniadol a gawsant hwy.

Pan ddaethant yn eu holau o'r diwedd i dawelwch cymharol ei swyddfa, daeth dyn ifanc o'r ystafell nesaf a sefyll yn y ddôr â llond ei freichiau o lyfrau cownt 'Lisa, oes modd i mi gael gair .

Cymharol ddibrofiad oeddwn i yn y gwaith o brynu llyfrau bryd hynny, ond doedd dim perygl imi wneud camgymeriad y tro hwn.

Y tu allan i dŷ gwyn cymharol ddi-nod yr olwg ar fin yr harbwr roedd ugeiniau ohonom ni'n aros am fymrym o oleuni.

Er ei methiant cymharol (ac onid trafod llwyddiant a methiant cymharol yr ydym mewn celfyddyd fel mewn bywyd?), fe berthyn iddi liaws o rinweddau, ac efallai fod hyd yn oed ei gwendidau yn dadlennu pethau diddorol am natur ein diwylliant llenyddol yn gyffredinol.