Gwyddwn, cyn y gallwn dderbyn y gwahoddiad, bod yn rhaid i mi ddelio â'r cymhellion yn fy nghalon.
Un o drychinebau'r sefyllfa bresennol yw bod y ddwy garfan hyn, er yn coleddu'r un nod, yn mynd i amau cymhellion a dulliau ei gilydd, a bod hynny yn ei dro yn esgor ar elfen o anoddefgarwch yn agwedd y naill at y llall.
Cyfrwng yw'r rhagymadroddion, yn y lle cyntaf, i gyfarch a rhyngu bodd noddwyr ac arweinwyr cymdeithas; ac yn yr ail le, a hyn sydd bwysicaf o ddigon, i roi cyfle i'r awduron eu hunain egluro eu bwriadau a'u cymhellion.
A'r cymhellion hyn yn goruwchreoli yng Nghymru, nid oedd disgwyl cael ymdrech hunanaberthol i gynnal y gymdeithas a'r diwylliant Cymreig ac i sicrhau'r amodau gwleidyddol a warantai ddyfodol iddynt.
Rhan o gyffro anhygoel oes Fictoria oedd agor ffenestri ar fydoedd newydd, ac ni ellir deall cymhellion y rhai a ymfudodd i bellafoedd byd heb gofio'r bwrlwm syniadau a oedd yn rhan hanfodol o hanes gwledydd Ewrop ym mhedwardegau'r ganrif ddiwethaf.
Cymhellion gwahanol garfannau o rieni o blaid addysg Gymraeg; pa ddelwedd o'r Gymraeg neu ddisgwyliadau sydd gan rieni dros eu plant wrth eu hanfon i ysgol Gymraeg; pa ddelwedd sydd gan "Yr Ysgol Gymraeg" fel sefydliad, heb sôn am ysgol unigol?