Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cymhleth

cymhleth

Ond er prinned yw'r cyfeiriadau uchod, ac er nad oedd llawer iawn o gysylltiad rhwng y rhanbarthau hyn a'r taleithiau eraill yn y ddeuddegfed ganrif a'r drydedd ar ddeg, eto, pan gododd Casnodyn ym Morgannwg yn y ganrif ddilynol, gwelir yn ei waith holl nodweddion canu cymhleth y Gogynfeirdd, ffaith sy'n awgrymu fod traddodiad barddol cyffelyb wedi ffynnu yn y de-ddwyrain yn ogystal yn y canrifoedd blaenorol.

Er bod nodweddion a dosbarthiad y prif fathau yn adlewyrchu'r sefyllfa gyffredinol yng Nghymru mae'r patrymau o fewn ardaloedd yn fwy cymhleth.

Gan fod bywyd yn gymhleth, mae ei gemeg yn gymhleth, ac yn llawn o folecylau cymhleth.

mae'r rhesymau am lwyddiant y Bloquistes yn debyg o fod yn eithaf cymhleth.

Gan mwyaf, gellir priodoli'r gostyngiad i nifer o ffactorau sosio-economaidd cymhleth: arwydd fod cryfder yr iaith mewn rhai ardaloedd ynghlwm wrth ddatblygu cynaladwy o fewn y gymuned ac yn ddibynnol arno.

Rydym wedi son eisioes am gyrn anifeiliaid.Gyda'r nodwedd yma nid oes angen dulliau cymhleth o ddadansoddi gan mai dim ond dau bosibilrwydd gweladwy sydd yna - cyrn neu dim cyrn.Gellir deall sut mae'r nodwedd yma yn cael ei hetifeddu yn weddol syml.

Aeth bywyd cyfforddus newydd Diane yn fwy cymhleth wrth i'w chyn-wr, Graham, ddychwelyd i'w bywyd.

Hanes cymhleth yw hanes Tribiwnlys Flood a Moriarty - enwau'r barnwyr sydd yn eu cadeirio.

Os yw llawfeddyg yn gweld bod gwir angen am driniaeth lawfeddygol anodd, cymhleth a pheryglus ar y claf, a honno'n driniaeth nad oes ganddo fawr ddim profiad ynglŷn â hi, yna dylid, ar bob cyfrif, danfon y claf at lawfeddyg arall sydd wedi arbenigo yn y math yma o driniaeth.

Anghyfiawn falle, dinistriol yn sicr, ond cymhleth?

Felly, wrth i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg fynd ymlaen - y syniadau am y dinesydd modern, buddiol neu am y genedl fel cwlwm o werthoedd yn ennill tir, gwelwn wrthdrawiad cymhleth rhyngddynt a hynny'n esgor ar nifer o batrymau addysgol yn ôl natur y wladwriaeth a datblygiad y broses foderneiddio.

Cesglir felly mai carbon yn unig all ffurfio cyfansoddion digon cymhleth i gynnal bywyd fel yr adwanwn ni ef.

Hanfod dirgelwch yw fod rhywbeth sy'n ymddangos yn syml neu'n ddiniwed ar yr olwg gyntaf yn profi i fod yn rhywbeth fwy cymhleth neu wahanol o dan yr wyneb.

Byddai'n rhaid iddi hi gyfaddef, pe gofynnid iddi, fod y gwaith ymchwil yma'n llawer mwy cymhleth nag a feddyliai.

Mae tatws, ymysg eraill o'r carbohydradau cymhleth, yn fwyd priodol i'w gymryd yn gymedrol ar gyfer cynnal pwysau cywir.

Nid wyf yn amau na chafodd Waldo'r math hwn o brofiad, a'i gael "in the silence of the night and in rare lonley moments", oblegid mae ganddo aml gyfeiriad at y ser yn rhwyllau yn llen y nos, ond gellir mentro dweud fod ei brofiad ef yn fwy cymhleth, yn fwy angerddol o lawer nag eiddo HG Wells.

Dylai'r toddiant fod yn hylif ar dymheredd gweddol isel oherwydd fel y cynydda'r tymheredd mae molecylau cymhleth yn dechrau ymchwalu.

Anghydwelai Gruffydd a Saunders Lewis a'i gymheiriaid tybiedig am gyfuniad cymhleth o resymau; yr oedd rhagor na'u 'syniadau gwleidyddol' yn achos digofaint iddo.

Doedd `cymhleth' ddim yn ansoddair yr oeddwn i wedi'i gysylltu â newyn erioed.

Aeth yr esboniad yn llawer mwy cymhleth nag yr oedd hi wedi bwriadu iddo fod ac - rhoi i'r pum buwch yn y Cae-dan-tŷ.

Mae'r ddwy ddyfais yma yn ddulliau effeithiol i atgyfnerthu pwynt neu i gyflwyno pwnc arbennig ond mae'r ddwy ddyfais yn anodd iawn i'w cynhyrchu ar ffilm heb gyfarpar cymhleth, drud thrwsgl.

Yn dilyn o hyn, mae diffyg dealltwriaeth yn bodoli am y prosesau cymhleth sy'n digwydd yn ein dyfnderoedd - o Fae Ceredigion i ehangder y Môr Tawel.

Diau bod rhesymau cymhleth am hynny, ond gyda golwg ar byllau afon dylid cofio fod y nodweddion a enwyd gynt hwythau yn cael eu dileu, gan gynlluniau traenio sy'n golygu clirio a dyfnhau rhedfa'r afon.

Caiff nodweddion eraill eu rheoli mewn ffyrdd mwy cymhleth, wrth i nifer o enynnau gydweithio.

Byddai'n bwrw i'r darllen â brwdfrydedd gwyntog, ond os digwyddai fentro i faes cymhleth y 'bennod gladdu' yn y Corinthiaid, byddai'n dueddol o faglu ar draws brawddegau aml-gymalog yr Apostol Paul.

Ond mae'r pwnc yn un cymhleth iawn ac mae llawer i beth na wyddom eto am y wyrth fawr flynyddol.

Cyn hynny, system ramadegol i'w dysgu'n ddernynnol oedd unrhyw iaith ac fe'i dysgid yn ei chrynswth cymhleth heb roi fawr o sylw i'r cynnwys.

Yr enw Sam oedd y cyswllt un tro, ac ar ôl bod trwyr rhai amlwg i gyd, dyma Rhys y basydd yn cynnig y berl Sam Barama, hynny yw snam bara yma, am ei fod yn llwgu - www, cymhleth.

Y maent wedi eu cylchynu ag anawsterau cymhleth ac yn gorfod dioddef ar y mwyaf o feirniadu disylwedd.

Astudiodd y pwnc o bob cyfeiriad, a llanwodd dudalennau o gyfrifon cymhleth i weled pa mor bell yr ai ei gynilion....

Gall rhai bacteria fodoli trwy adweithiau anaerobig di-ocsigen, ond nid yw'r rhain yn gallu cynhyrchu egni i gynnal planhigion ac anifeiliaid cymhleth.

Mae'r erthygl hon yn dangos fod y darlun yn fwy cymhleth na hynny.

Stori anhygoel drofaus yw stori'r meddwl Cymreig modern.) Byddai fy mam yn arfer dweud wrth ddatod clymau mwy cymhleth na'i gilydd fod 'cryn waith mysgu arnyn nhw'.

Lle bo angen, cewch gyfarwyddiadau ar sut i wneud yr offer - ac mae hyn yn hen draddodiad efo gwyddonwyr - nid yw darganfyddiadau gwyddonol bob amser yn dibynnu ar offer cymhleth a drudfawr.

Ond, fel y soniwyd eisoes, yn aml ni all y llawfeddyg cyffredinol dibrofiad a chymharol anfedrus fforddio danfon achos cymhleth at rywun mwy profiadol gan fod ei fywoliaeth yn dibynnu ar wneud yr operasiwn ei hun.

Ymhellach, mae'n rhaid i'r cyfrwng beidio a bod mor adweithiol nes dadelfennu molecylau cymhleth o fewn y toddiant.

Y mae dadansoddi'r cysylltiadau rhwng ffydd a chymdeithas, diwydiant a diwylliant, yn ddigon cymhleth heb i'r drafodaeth gael ei chloffi gan athroniaeth amheus.

O bob maes addysgol, dyma yw'r un mwyaf cymhleth ac anodd ei drin.

Felly, ni all organebau byw fodoli ar ffurf nwyon, oherwydd molecylau gweddol syml yw nwyon, ac os anweddir unrhyw gyfansoddyn cymhleth trwy ei wresogi, bydd yn dadelfennu.

Daeth y drych-ddelwedd i fod yn bwysicach na'r realaeth; y teyrn ar ddelw Duw a helaethodd fframwaith cymhleth y llys.