Mae'r cymhwysiad hwn yn enghraifft o feddalwedd integredig sydd yn cyfuno prosesu geiriau, dylunio, cronfa ddata, taenlen, a chyfathrebu.
(Fe ofynnir ichwi os oes arnoch eisiau cadw unrhyw newidiadau a wnaed ers ichwi 'gadw' ddiwetha'.) Os byddwch yn dewis Close yna bydd y ddogfen yn cael ei chau ond bydd y cymhwysiad (ClarisWorks) yn dal ar agor.
I ddechrau byddwn yn defnyddio cymhwysiad (application) neu feddalwedd o'r enw ClarisWorks.
Ond os byddwch yn dewis Quit yn hytrach na Close bydd y ddogfen a'r cymhwysiad yn cael eu cau a byddwch yn mynd yn ôl at y bwrdd gwaith.
Unwaith y byddwch yn gyfarwydd â'r cymhwysiad fe gewch weld bod cymwysiadau eraill yn hawdd i'w defnyddio; dyma un o gryfderau mawr system y Mac, mae cymwysiadau gwahanol yn gweithio mewn ffyrdd tebyg i'w gilydd.