Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cymhwyso

cymhwyso

Codai Phil y senglen at fwrdd y shêr, cymhwyso'r ochrau a'i rhoddi dan y gwasgwr.

A yw disgyblion yn cymhwyso'r wybodaeth a'r sgiliau y maent wedi eu dysgu ar gyfer sefyllfaoedd newydd?

Aberthai rhieni lawer cysur er mwyn cymhwyso eu plant gogyfer â'r gystadleuaeth lem am ddyrchafiad, ac aberthent y genedl Gymreig a'i hiaith er mwyn chwyddo nerth a gogoniant yr Ymerodraeth fawr yr oedd Cymru'n rhan ddinod ohoni.

Ymgais oedd Keats and Shakespeare i ymhelaethu ar y daliadau hyn am 'life- adjustment' a'u cymhwyso at waith un bardd, Keats.

Athrawon Ni ellir cynnal na datblygu addysg Gymraeg heb gyflenwad digonol o athrawon sydd wedi eu cymhwyso'n briodol ar gyfer amrywiol agweddau o'r gwasanaeth.

Hawdd yw cymhwyso geiriau R.Williams Parry, un arall o gymwynaswyr mawr y Blaid yn ei dyddiau cynnar, am Saunders Lewis at y glewion hyn - "bod eu cariad at eu gwlad yn fwy nac at eu safle a'u llesâd." Yn y cyswllt hwn carwn wneud un neu ddau o gyfeiriadau personol at H. R. Jones.

Y dull gwyddonol yng nghyd-destun eich prif bwnc chwi eich hun Lle Gwyddoniaeth yn y cwricwlwm a'r berthynas rhwng y gwahanol wyddorau a rhwng gwyddoniaeth a thechnoleg, mathemateg a phynciau eraill Datblygiadau diweddar mewn meysydd megis technoleg gwybodaeth, micro- electroneg, a biotechnoleg Perthynas gwyddoniaeth a thechnoleg a bywyd bob dydd ar bob lefel Defnyddio'r amgylchfyd ar gyfer dysgu Asesu Sgiliau sylfaenol asesu a sut i'w cymhwyso wrth ddysgu Sgiliau cadw golwg ar gynnydd a chyrhaeddiad disgyblion a'u cofnodi, gan gynnwys swyddogaeth gwaith cartref Sgiliau angenrheidiol ar gyfer cloriannu gwerth gwersi, defnyddiau dysgu a meysydd llafur Iechyd a Diogelwch Yn ogystal â gwybodaeth am ddeddfwriaeth ynglŷn ag iechyd a diogelwch yng nghyd-destun yr ysgol, cynhelir sesiynau ar gyfer pob myfyriwr gwyddoniaeth ar beryglon arbennig labordai bioleg, cemeg, ffiseg ac astudiaethau maes Ymarfer diogel wrth wneud gweithgareddau ymarferol gyda disgyblion Storio a chynnal cemegau a chyfarpar Gofalu am greaduriaid a phlanhigion cyffredin y labordy Egwyddorion sylfaenol ac ymarfer Cymorth Cyntaf Datblygiad Personol a Phroffesiynol Paratoi'r myfyriwr ar gyfer profiad ysgol Datblygu hyder fel athro ac ymwybyddiaeth o gryfderau a gwendidau personol wrth ddysgu Hyrwyddo cyfranogi bywiog gyda chydweithwyr wrth ddatblygu a dysgu cwricwla newydd, cynlluniau gwaith, ymarferion theoretig ac ymarferol Bod yn ymwybodol o'r cynnydd mewn ymchwil addysgol, yn arbennig ym maes dysgu'r gwyddorau Astudiaethau Addysg a Datblygiadau Arloesol Bod yn ymwybodol o bwysigrwydd dysgu 'sgiliau proses' mewn gwyddoniaeth Dod yn gyfarwydd a mentrau megis, Cofnodi Cyrhaeddiad, Disgwylir i bob myfyriwr archwilio posibiliadau Gwybodaeth Technoleg, eu heffaith ar arddulliau addysgu a dysgu, a dod i'w defnyddio'n hyderus.

Wrth gwrs mae posib cymhwyso pob system bonws i gymryd pethau fel hyn i ystyriaeth; a dydw i ddim yn cael trafferth o gwbwl dygymod a'r syniad o dalu i athrawon am yr hyn maen nhw'n ei gyflawni - cyn belled bod y drefn yn medru mesur yn gywir werth eu gwaith a chymryd i ystyriaeth y cratiau mawr, anhwylus.

Ochr yn ochr â'r cyrchnodau arholiad, sicrheir fod rhaglen waith pob disgybl yn amlygu: Ehangder - drwy gyflwyno'r profiad ieithyddol/dwyieithog yng nghyd-destun pob un o'r naw maes profiad (mathemategol, gwyddonol, ayb.) ac yn cymhwyso sgiliau'r cwrs addysg i fywyd a gwaith cymunedol; Perthnasedd - drwy gysylltu'r rhaglen waith â'r angen i addasu'r dysgu a'r addysgu i ddiddordeb a gyrfa bersonol y disgybl ee.

Nid bod y canllawiau hyn yn rhai y gellir eu cymhwyso ym Mhrydain.

Wedi sefyll am ennyd ar stepan drws y ffrynt, yn cymhwyso'r nocar, mewn cystadleuaeth â'r gramaffôn, fe'm gollyngwyd i mewn gan y forwyn fach, â'i hwyneb yn disgleirio gan sirioldeb a sebon.

Gellir cymhwyso hyn a dweud fod rhai beirdd, ac yn eu plith, Waldo, wedi gweld y byd mewn golau heblaw golau dydd ac wedi eu hargyhoeddi mai'r byd wedi ei weld yn y golau hwnnw yw'r unig fyd sy'n cyfrif.

Yr Ysbryd, fe gredai'r Diwygwyr, sy'n cymhwyso gwaith achubol Crist at bersonoliaeth dyn.