Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cymoedd

cymoedd

Ni roddwyd unrhyw arian marchnata ychwanegol i'r orsaf i'w chyflwyno i bobl nad ydynt yn gwrando, ac oni ellir gwella ei darllediadau ar FM mewn ardaloedd o gynulleidfaoedd allweddol, yn arbennig Cymoedd De Cymru, ni fydd ansawdd y profiad gwrando yn gallu cystadlu âr gwasanaethau masnachol newydd sydd i gael eu targedu tuag at graidd BBC Radio Wales.

Mewn ardal wasgaredig fel hon ym mlaenau'r cymoedd, heb bentrefi yn ganolfannau cymdeithasol, roedd i'r ysgol a'r capel le pwysig.

Gyda golwg ar y tair stori a leolir ym Morgannwg, straeon am gyfnod y Streic Fawr yng nghanol y dauddegau ydynt; ac yn un ohonynt, sef yn 'Gorymdaith,' teflir cip yn ôl ar y cyfnod yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan ddaethai hen dadcu a hen famgu Bronwen i'r cymoedd am y tro cyntaf, 'wedi teithio mewn cert o Sir Gaerfyrddin.' Un o ferched Arfon oedd Kate Roberts wrth gwrs - ni chaiff neb anghofio mai yno y'i maged: Arfon (fel y gwelsom) oedd y magned a'i tynnai hyd yn oed ar ei gwely angau - a chan mor gysa/ ct a thriw y portreada hi fywyd y werin-bobl a drigai yno, ei llenyddiaeth hi yw'r nesaf peth at hanes cymdeithasol bro'r chwareli a luniwyd erioed.

Wel ydi, mae pawb hefo tractor, a chlymu fferm wrth fferm, ffermwyr cefnog yn awyddus i gael gafael ar y tir ac yn barod i adael i'r hen fythynod fynd er mwyn cael byw yn y cymoedd, gan bicio i fyny bob hyn a hyn mewn cerbyd neu dractor neu rywbeth.

Credai cynifer o Gymry'r cymoedd diwydiannol hyn fod y Gymraeg yn isradd, yn hen ffasiwn, yn annigonol ac yn amherthnasol i anghenion y byd sydd ohoni.

Gan Dduw na allem garthu allan y fath ffolineb ac ailfeddiannu unwaith eto yr angerdd a yrrodd bobl Llanfaches i daenu'r newyddion da ar hyd blaenau cymoedd Gwent a Morgannwg.

'A dyna'r gofid,' meddai ei brawd, Tom, '- blaenau'r cymoedd, lle'r oedd y Gymraeg ar ei chryfa', gafodd eu heffeithio gan y meddiannu..

Trefnasant eu bywyd yn y cymoedd poblog ar lun a delw y bywyd gwledig a'r capel yn ganolfan iddo.

Mewn gwirionedd, yr hyn wnaeth e oedd dangos effaith cyfalafiaeth - cydymdeimlo'n llwyr â'r glowr yr oedd e." Roedd y darlun yn Cwmglo yn un cwbl gywir yn ôl un o ffrindiau Kitchener Davies o'r Rhondda, y nofelydd a'r bardd Rhydwen Williams, un o'r ychydig prin sydd wedi sgrifennu'n blaen am fywyd y cymoedd glo.

Ac yn awr dyma gyrraedd gwlad fwy mynyddig, yn llawn cymoedd cul a gelltydd trwchus, du.

Gwyddys hefyd fod canu baledi yn weithgarwch poblogaidd ymhlith rhai o drigolion y dyffryn, a'r rheini'n aml yn wŷr a brofodd ddyddiau gwell, megis Evan Nathaniel, brodor o'r Alltwen yn wreiddiol, a fu'n crwydro'r cymoedd yn canu a gwerthu baledi.

wynn thomas fod y ddinas yn echel i dirgel ddyn ; y stryd, stryd yn y cymoedd, fydd canolbwynt y nofel hon ond peidiwch â disgwyl disgwyl green was was valley arall.

Prin iawn oedd y testunau penodol a ddarparai gyfle i ysgrifennu llenyddiaeth ddychmygus am y cymoedd.

Yn yr Engadin, megis ym mhob un o'r cymoedd ar gymoedd mynyddig sy'n creu'r Grisiwm, mae'n hawdd ymateb i eiriau Zarathustra, 'immer weinigere steigen mit mir euf immer hohere Berge, - ich bause ein Gebirge aus immer heiligeren Bergen.' (Llai a llai sy'n dringo gyda mi i fyny mynyddoedd uwch ac uwch, - adeiladaf ucheldir o fynyddoedd sancteiddiach a sancteiddiach).

Wedyn ar arwydd yr oeddynt i dorri allan i weiddi Halelwia nes bod y cymoedd a'r bryniau'n atseinio gan eu bloedd.

Am ddau ddiwrnod cyfan bu Idris yn crwydro drwy'r goedwig, ond y trydydd dydd, yn y bore bach, cyrhaeddodd wlad brydferth yn llawn mân fryniau a dolydd, afonydd yn llifo drwy'r cymoedd, pentrefi bach yn britho'r wlad a chestyll urddasol yma a thraw ar y bryniau.

Ac er taw nifer bychan o'i straeon a leolwyd yn y cymoedd, o ran ansawdd ni chafwyd yn Gymraeg ddim tebyg iddynt.

Am nad oedd yr ochr yna i tywyd y cymoedd wedi cael cyfiawnder mewn llenyddiaeth Gymraeg yr aeth Rhydwen Williams ati i sgrifennu cyfres o dair nofel am ei ieuenctid ef.

Ni allai Saunders dderbyn bodolaeth llenyddiaeth Gymreig yn tarddu o'r cymoedd, am na allai dderbyn bodolaeth y cymoedd fel rhan o Gymru.

Rhif un, Greenhill, Pontycymer, ynghanol cymoedd Morgannwg.

Mi glywais i fod o'n ddigartref." Ar hyn o bryd mae Densil John yn aelod o bwyllgor 'ambarel' sy'n ceisio cofleidio nifer o'r asiantaethau sy'n gweithio gyda'r digartref yn y ddifleidio n "Mae Caerdydd yn fwy deniadol na Merthyr ac yn ganolfan i'r Cymoedd.

Cerdd hynod sydd yn mynd â ni yn ôl yn hiraethus mewn atgof plentyn at gymdeithas glòs y cymoedd glofaol, y cyd-chware, y cyd-addoli a'r cyd-ddioddef; ond mae ing yn yr hiraeth am fod y bardd yn edrych yn ôl ar fyd dewr a dedwydd o safbwynt cymdeithas wedi ei chwalu gan ddiweithdra.

Roedd yn angenrheidiol, meddai, i'r milwyr gael lle i ymarfer tanio'u magnelau mawrion cyn mynd i ryfel, ac roedd blaenau cymoedd ac ucheldir Epynt yn ddelfrydol ar gyfer ymarferiadau o'r fath.

Pwy well na Tom Jones ei hun - duw rhyw y Cymoedd gyda supporting cast o - Cerys Matthews, Catatonia a Kelly Jones a Stuart Cable o'r Stereophonics.

Er y bydd yna elfennau o ddysgu am hanes ardal, mae hefyd yn stori gyfoes sy'n wynebu rhai o bwyntiau allweddol bywyd yn y Cymoedd heddiw.

Ychydig yn uwch i fyny mae Camddwr neu Camau'r Bleiddiaid, bwa naturiol o graig yn pontio'r afon lle'r arferai'r bleiddiaid, yn ôl traddodiad, groesi'r afon o'r mynydd i glydwch y cymoedd pan oedd y tywydd yn arw.

Dyna ni, felly, Steddfod arall yn y Cymoedd Caled, lle mae dynion yn ddynion.

Mi roedd 12,500 o'r swyddi hyn yn yr ardaloedd fydd yn derbyn arian Amcan Un o Ewrop, sef gorllewin Cymru a'r Cymoedd.

"Mae hi'n harddu unrhyw eiriau rwy'n rhoi at ei gilydd," meddai John Owen - a'r geiriau hynny'n aml wedi ymwneud ag atgoffa pobol ifanc y Cymoedd am eu gorffennol a'u gwlad.

Mewn ardaloedd eraill, megis cymoedd y de lle mae'r ddarpariaeth o ysgolion cyfrwng Cymraeg wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y degawdau diwethaf, gellir rhagweld y byddai dileu cyfrifoldeb strategol yr awdurdod lleol yn llesteirio'r fath dwf yn y dyfodol.

Drylliwyd delweddau ystrydebol o'r Cymoedd gan y ddrama angerddol Belonging, gydag Owen Teale a Gwen Taylor.

At hynny, cadwai'r Rhufeiniaid at y tir isel a'r cymoedd, ond yn eu dinasoedd caerog ar y bryniau uwchben y trigai'r Brythoniaid.

Oddi ar i'r pyllau gau 'roedd y tipiau'n gornwydydd ar hyd y cymoedd, ac ymhen misoedd 'roedd cysgod un ohonynt, uwch pentref Aberfan, wedi ei daflu ar draws yr holl fyd.

Prynhawn Sadwrn fe roddwyd dewis i ni i deithio'r ardal sef Y Cymoedd gyda Wendy Richards neu Bro Gwyr gyda Catrin Stevens, neu wrth gwrs fynd i ymweld â siopau'r ddinas!

Gyrrwyd swyddog o'r fyddin yn ei gar swyddogol i fyny'r cymoedd fesul un, i hysbysu'r naill deulu ar ôl y llall fod rhaid iddynt ymadael â'u cartref, er mwyn i'r fyddin symud i mewn.

Yr un math o ysgogiad sydd gan John Owen wrth sgrifennu am bobol ifanc y cymoedd heddiw.

Ysgubaist trwy ein cymoedd gan wiso esgyrn sychion â chnawd a'u gwneud yn fyddin gref.