Pan ymddieithriodd yr uchelwyr a'r bonedd oddi wrth eu Cymreictod yn yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg ymlynent wrth Loegr a Seisnigrwydd.
Mae'r holl elfennau yr oedd Y Gohebydd yn sôn amdanyn nhw i'w gweld yn y casgliad yma o ysgrifau gan newyddiadurwyr a ffotograffwyr ond, fel crwbanod yn cario'u cartrefi ar eu cefnau, mae llawer o'r drafodaeth ynghylch Cymreictod, neu ddiffyg Cymreictod, y gwaith.
Yn fynych iawn fe gai Cymreictod y Cymry ei wasgu ohonynt gan amgylchiadau economaidd a chan y drefn addysgol.
Gan dybio fod Cymreictod ar drai, torrodd y Llywodraeth newydd ei haddewid i roi ei sianel ei hun i Gymru pe câi ei hethol.
Enghraifft nodedig o'r cychwyn hwn yw'r rhwydwaith papurau bro sy'n britho Cymru heddiw ac sy'n cynnal yn eu sgîl weithgareddau niferus ac amrywiol a phob un ohonynt yn hybu Cymreictod.
Ar dudalennau'r Llenor, gydol y dauddegau a'r tridegau, cynhaliwyd trafodaeth ar Hanes Cymru, hanfodion Cymreictod a pherthynas Cymru ag Ewrop rhwng Saunders Lewis ac Ambrose Bebb ar y naill law, y ddeheulaw, a W. J. Gruffydd ac R. T. Jenkins, ar yr aswy.
Mae mawr angen dangos hyn i genhedlaeth sydd yn naturiol yn cyferbynnu Cymreictod a Phrydeindod.
Fel hyn y'i gwelai yn Eisteddfod Pwllheli y flwyddyn honno--"pawb yn chwysu Cymreictod yn chwartiau, Cymraeg ar bob llaw, a'r ysbryd Cymreig yn byrlymu drosodd .
Yn ei gerdd 'Hendref' mae'n rhoi disgrifiad perffaith o warth 1979: 'Mawrth y gwrthod a'r gwerthu'; ond wedi ystyried y brwydrau i warchod Cymreictod yn yr wythdegau, mae'r bardd yn gweld fod gobaith o hyd.
'Roedd tyndra, i ddechrau, rhwng Cymreictod a Phrydeindod, rhwng cenedlaetholdeb ac Imperialaeth.
Rhaid wrth rhywbeth llawer dyfnach i ddeffro Cymreictod politicaidd ymarferol yn y Cymry.
Y syndod oedd fod eu Cymreictod yn aros mor iach.
'...' Roedd yna weledigaeth o wasg Gymreig fel un i warchod Cymreictod dilychwin rhag gwerthoedd estron.
Unir aelodau'r gymundod hon gan eu hanes - sef y profiad o gydfyw am ddwy neu dair mil o flynyddoedd ar y penrhyn a alwn yn Gymru; a hefyd gan ffactorau eraill sy'n cynnwys eu traddodiadau, a'r iaith Gymraeg yn bwysicaf yn eu plith; gan batrwm diwylliannol unigryw; gan sefydliadau crefyddol, diwylliannol, cymdeithasol (yn arbennig eu tîm rygbi), ac, yn awr eto, gan rai gwleidyddol; a chan yr ymwybyddiaeth o'u Cymreictod.
Damwain oedd Cymreictod i Elfed, ac i fwyafrif ei gyfoeswyr.
Radicalaidd-anghydffurfiol) o'r Eglwys yn y ddeunawfed ganrif, gan bortreadu Theophilus fel esiampl o fywiogrwydd eglwyswyr yn y cyinod hwnnw; mae'n mynd hefyd y tu hwnt i lawer o'n syniadaeth confensiynol ni a dangos sut oedd modd yn y cyfnod hwnnw gydblethu Cymreictod a Phrydeindod gydag arddeliad.
Ac yr oedd hi'n anos byth i'r bardd ymwrthod a'r drefn, oherwydd fod gwerthoedd Anghydffurfiaeth Gristnogol wedi eu gweu mor glos i mewn i batrwm Cymreictod a gwerthoedd hwnnw, nes peri ei bod yn amhosibl bron ymryddhau oddi wrth y naill, heb ar yr un ergyd danseilio'r llall.
Y Gymraeg oedd iaith crefydd newydd y genedl, a'r Ymneilltuwyr, felly, oedd amddiffynwyr Cymreictod.