Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cymuned

cymuned

Mae'r Panel yn cydnabod fod lles economaidd a chymdeithasol cymuned y Parc yn bwysig er mwyn cadwraeth effeithiol a mwynhad o'r Parciau, ac na ddylid edrych ar ymwneud Awdurdodau'r Parciau yn y maes hwn fel prif swyddogaeth ond fel swyddogaeth gefnogol i asiantaethau eraill.

(i) Llythyr gan Gyngor Cymuned Tudweiliog yn gofyn paham y rhoi'r amod person lleol ar y dyfarniadau mewn rhai achosion ac nid mewn eraill sydd yn ymwneud â safleoedd o fewn ychydig lathenni i'w gilydd.

Mae'r ateb yn syml - y pentrefwyr eu hunain ddylent benderfynnu ar bwysigrwydd yr ysgol i'w cymuned.

Rhoddodd amlinelliad o'r camau a gymerwyd i gwblhau'r gwaith, drwy adrodd bod y cynghorau cymuned yn edrych ar y sefyllfa o fewn eu hardal eu hunain ond bod y cynghorau sir a dosbarth yn edrych ar y sefyllfa strategol i ardal ehangach ac felly bod gwahaniaethau barn yn sicr o ddigwydd.

Nid y ffaith seml ei fod yn idgwydd byw mewn haid sy'n perio i'r arbenigwyr ddweud hyddy, ond yn hytrach y ddibyniaeth er gwmni a phrofiad ei gilydd, a'r teyrngarwch i'w cymuned.

Yn y cyswllt yma y mae gan ein cynghorau cymuned swyddogaeth allweddol.

PENDERFYNWYD (i) Datgan cefnogaeth i'r bwriad i benodi Swyddog Rheilffordd Cymuned er mwyn datblygu marchnadoedd newydd a hyrwyddo marchnadoedd presennol.

(ii) Adroddiad y Dirprwy Brif Swyddog Cynllunio bod y Cyngor, mewn cydweithrediad gyda'r Cyngor Sir a'r cynghorau cymuned, wedi gwneud arolwg llawn o holl lwybrau cyhoeddus y Dosbarth gyda'r bwriad o resymoli'r rhwydwaith a gwella'r ddarpariaeth ar gyfer cerddwyr.

Yng Nghymru mae'r cwricwlwm i blant dan bump yn adlewyrchu materion Cymreig drwy gyfrwng yr iaith a thrwy brofiadau sy'n arwain plant ifanc at ymwybyddiaeth o Gymreigrwydd eu cymuned arbennig nhw, eu milltir sgwar.

Yn ogystal â hyn bydd arddangosfa symudol yn ymweld â threfi a phentrefi penodol yn mhob cyngor cymuned a thref yn ystod y cyfnod ynghyd â phamffled yn egluro pwrpas a swyddogaeth y cynllun lleol ynghyd â hysbysu'r cyhoedd o'r arddangosfa yn cael ei ddosbarthu i bob cartref yn y Dosbarth.

Diolch hefyd i'r Cyngor Cymuned am eu rhodd anrhydeddus fydd yn galluogi'r pwyllgor i rannu 'wyau Pasg' eleni eto.

Yn ôl un bardd 'deubeth sydd ddrwg eu diben' mewn cymdeithas wâr, sef 'tref heb parch', sef cymuned o bobl, a 'tyrfa heb ben', sef cynulliad heb atweiniad a allai droi'n anniben ac aflywodraethus.

Dywedodd bod aelodau lleol yn cael sylw teilwng yn y Cyngor yma a bod cydweithrediad da rhwng swyddogion ac aelodau o'r cynghorau cymuned.

Rhoddwyd cyfle i gynrychiolwyr y cynghorau cymuned roddi sylwadau, lle cyfeiriwyd at achosion penodol a cytunwyd bod cwynion penodol yn cael sylw.

(c) Swyddog Rheilffordd Cymuned

Rhaid i ni weithio ym mhob cymuned i Gymreigio pob rhan o'n gwlad.

Er mor bwysig yw addysg i bob cymuned mae credu fod y system addysg ar ei phen ei hun yn gallu newid ymddygiad ieithyddol yn dwyllodrus.

Disgwyliwn i'r Cynulliad beidio canoli grym mewn un lle a galwn am ddatganoli'r Cynulliad ar dri safle drwy Gymru a galwn ymhellach am ddatblygiad o drefn wleidyddol lle datganolir grym i gymunedau Cymru drwy'r Cynghorau Cymuned a'r Awdurdodau Lleol.

Hoffwn feddwl amdanynt yn magu perspectif eang ar fyd ac ar fywyd, perspectif wedi ei seilio ar werthoedd a phrofiadau eu cymuned.

Wrth baratoi'r cynllun fe cymerwyd i ystyriaeth sylwadau cynghorau cymuned a thref a dderbyniwyd ar ffurf holiadur.

(e) Cydweithrediad rhwng Swyddogion Cyngor Dosbarth Dwyfor a'r Cynghorau Cymuned CYFLWYNWYD

Buasai cyfle i cynghorau cymuned roddi eu sylwadau bryd hynny, mewn da bryd i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud ei benderfyniad.

Nid maestref oedd Penrhosgarnedd ei ieuenctid, ond cymuned wledig, amaethyddol gan fwyaf, a'i bywyd yn troi o gwmpas gwaith y tymor, addoldy, ffair, a phlas Y Faenol.

(a) Llythyr gan Cyngor Cymuned Llanengan yn gofyn beth oedd y trefniant.

(b) Bod swyddogion y Cyngor Dosbarth ynghyd â swyddogion o'r Cyngor Sir i gyfarfod unrhyw gyngor cymuned y dymunir eu cyfarfod.

Cafwyd pryd da o fwyd yn y Springfield Hotel, Pentre Halkyn ar y ffordd adref ac y mae Pwyllgor yr Henoed yn dymuno diolch yn ddiffuant iawn i Gyngor Cymuned Y Felinheli am gyfarfod y cyfan o gostau'r wibdaith.

Cymuned o bobl wledig oedd hi, heb sefydliadau, a chyn bo hir heb noddwyr i'w diwylliant.

Dyma arwydd glir o sut i gymeryd cam cadarnhaol i sicrhau parhad yr iaith Gymraeg - rhoi statws cynllunio i'r iaith Gymraeg, gan wneud hyn yn ffurfiol, ac yna mynd ati i ymchwilio i gyflwr yr iaith Gymraeg ym mhob cymuned.

Cyfeiriwyd at y drefn yn y Pwyllgor Cynllunio lle adroddwyd bod sylwadau'r Cyngor cymuned yn cael sylw ym mhob achos ac os nad ydynt wedi ei derbyn, rhoddir caniatad yn ddarostyngedig i sylwadau derbyniol oddiwrth y Cyngor cymuned.

Ym mhob achos o anghytundeb ynglŷn â chategoreiddio, bydd pob penderfyniad yn cael ei egluro i'r cynghorau cymuned gyda rhesymau pendant dros y penderfyniad gan y Cyngor Sir a'r Cyngor Dosbarth.

Disgwyliwn felly i'r Cynulliad gynrychioli pob cymuned yng Nghymru.

(i) Llythyr gan Gyngor Cymuned Tudweiliog yn gofyn pryd y ceir cyfle i roddi sylwadau ar hyn.

(i) Llythyr gan Gyngor Cymuned Llanystumdwy yn gofyn beth oedd cynlluniau'r Cyngor ynglŷn â dyfodol y safle a'r peiriannau sydd wedi costio yn ddrud i drethdalwyr Dwyfor.

Neu ai trwy gydweithio law yn lllaw i gyrraedd y nod o sicrhau yr addysg orau i bawb yn ein cymuned i bob plentyn yn y sir beth bynnag fo ei gefndir, tlawd, cyfoethog, y Cymraeg neu'r di-Gymraeg?

Yr enw a roddid ar gymuned felly oedd clas a gelwid aelodau cymuned felly'n glaswyr.

Aethpwyd ati wedyn i lunio rhestr enghreifftiol o eitemau, a gynrychiolai lefel sylfaenol o fedrau, y byddai ar oedolyn ei hangen ar gyfer bywyd proffesiynol a chymdeithasol mewn cymuned Saesneg.

(i) Llythyr gan Gyngor Cymuned Aberdaron yn gofyn i'r Cyngor ystyried y posibilrwydd o resymoli y rhwydwaith llwybrau ac o ble y daw'r cyllid i wario cymaint arnynt.

Rhoddwyd cyfle i'r cynghorau cymuned roddi eu sylwadau, drwy gyfeirio at achosion penodol.

Ni ddiflanna cymuned genedlaethol dros nos.

CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio ar lythyr a dderbyniwyd gan y Cyngor Sir yn tynnu sylw at swydd newydd a fwriedid ei chreu yn y dyfodol agos gyda chymorth Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop sef Swyddog Rheilffordd Cymuned.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg am weld Cyngor Ynys Môn yn mynd i'r afael â'r broblem hon ar unwaith drwy wneud ymchwil manwl a pharhaol ym mhob cymuned i'r angen lleol am dai ac eiddo gan lunio strategaeth fanwl i ddiwallu'r anghenion hynny oddi mewn i'r stoc tai ag eiddo presennol ac wrth ddiddymu pob caniatâd cynllunio sydd dros ddeng mlwydd oed ac nas gweithredwyd arno.

Profwyd bod creu ethos Gymraeg fwriadus sy'n adlewyrchu gwerthoedd y diwylliant Cymraeg ar ei orau yn arwain at hinsawdd gefnogol o fewn cymuned yr ysgol (ar ran rhieni, disgyblion ac athrawon) yn ogystal ag ysbryd o genhadaeth.

Arferai ganu marwnadau i uchelwyr, yn mynegi galar cymuned gyfan, a chael ei dalu gan deulu'r ymadawedig.

Cais llawn - estyniad i dŷ I ganiatau cynllun diwygiedig os byddai sylwadau Cyngor Cymuned Pistyll ac Adran Ffyrdd y Cyngor Sir yn ffafriol.

Er hynny, rydym wedi cyd-weithio ag un Cyngor Cymuned ar brosiect Jig-so.

Bellach ciliodd Harris o'r maes a chanolbwyntio ar sefydlu cymuned gymdeithasol a chrefyddol yn ei gartref yn Nhrefeca.

Yr ieithwyr/- wragedd a oedd yn gweithio ar y Catalan a'r Occitan oedd y rhai cyntaf i wneud hyn - yn ogystal ^a gofyn beth oedd sefyllfa'r ddwy iaith mewn cymuned ddwyieithog, a pha un oedd yn cael ei defnyddio i ba pwrpasau, aeth y rhain ati i ofyn pam bod yr ieithoedd yn rhannu fel ag yr oeddynt, a sut yr oedd hyn yn newid dros gyfnod o amser.

Cefnogodd gynrychiolydd y cyngor cymuned lleol y datblygiad ond pwysleisiodd ei bod yn bwysig bod y gymuned leol yn cael ei gwybyddu o unrhyw ddatblygiadau.

(i) Llythyr gan Cyngor Cymuned Llanbedrog yn gofyn a oes digon o gydweithrediad yn bodoli.

(a) Bod yr Is-bwyllgor Iaith i ystyried pa enwau i'w defnyddio lle defnyddir enwau Saesneg yn unig neu lle mae amheuaeth ynglŷn â'r enw Cymraeg i'w ddefnyddio a bod y Prif Swyddog Technegol ar ôl hynny i ymgynghori â'r cynghorau cymuned/tref perthnasol a'r aelod/au lleol.

(i) Llythyr gan Gyngor Cymuned Llanystumdwy yn gofyn pa ddatblygiad sydd ar y gweill os mai'r bwriad yw symud ymlaen â'r fenter.

Bwriedid yn awr gynnal cyfnod llawn o ymgynghoriad cyhoeddus gyda'r cynghorau cymuned/tref, cyrff cyhoeddus, cymdeithasau lleol a'r cyhoedd a gwneid hynny drwy

Cymuned o leiafrifoedd yw Cymru mewn sawl ffordd.

CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG Annwyl Olygydd, Llythyr Agored at Gynghorwyr Cymuned Dosbarth a Sir Mewn ymateb i'r ddirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg a'r Swyddfa Gymreig yn gynharach eleni datganwyd yn ddigon clir bod gan y Cynghorau Dosbarth a'r Cynghorau Sir yr hawl i baratoi adroddiadau "ar unrhyw destun a ddymunant, gan gynnwys yr iaith Gymraeg".