Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cymwys

cymwys

Go brin y gellid meddwl am dîm mwy cymwys na'r un a fu'n gyfrifol am sicrhau bod gwaith yr Athro Jones ar y testun pwysig a diddorol hwn yn gweld golau'r dydd o'r diwedd, er na ellir ond gresynu iddynt aros ugain mlynedd cyn mynd â'r maen i'r wal!

Wedi'r cyfan, nid ei ansoddeiriau cymwys, er bod y rheini ganddo, nid saerni%aeth gymesur mewn ysgrif a phennod, yw gogoniant Owen Edwards, ond ei ddarluniau o ddarn o wlad; ei bortreadau o ddynion a gyfarfu; ei ddoniolwch direidus; ei hynawsedd a'i radlonrwydd; yr ychydig wermod weithiau pan wêl "wyneb coch rhyw Philistiad o Sais ariannog"; ei onestrwydd unplyg wrth gofio am Gymru yn yr Eidal neu Lydaw, a dewis ei moelni digelfyddyd crefyddus hi o flaen pob ysblander lliw a chyfoeth.

Ond er i ni gael ar ddeall y byddai rhywun cymwys yn cael ei benodi chafodd neb ei ddewis erbyn cyfarfod nesaf y Cyngor ar 7 Chwefror.

Ond yr oedd tipyn o anghydweld rhwng y De a'r Gogledd (fel y bu am dair cenhedlaeth) ynglŷn a'r man cymwys i leolir athrofa.

Ffermwr a threthwr fu ef weddill ei oes, a dangosodd nad oedd dyn a'i ben yn llawn o wyddorau y mwyaf cymwys i drin tir.

Ei bryder ef a phawb arall mewn awdurdod yn yr Eglwys o glywed fod rhai o'r ffyddloniaid yn darllen yr Ysgrythurau oedd mai arwain at heresiau ac anuniongrededd a fyddai darllen a myfyrio'n breifat ar y Beibl heb gyfarwyddyd diwinyddion cymwys a phrofiadol.

Mae angen ystyried hyfforddiant cychwynnol a hyfforddiant-mewn-swydd er mwyn sicrhau fod digon o athrawon cymwys ar gael i ddysgu Cymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg.

Dylai hyn, o ddyfalbarhau yn y driniaeth, sicrhau ynddo atgasedd cymwys tuag at bridd a baw.

A ddoedodd nad cymwys oedd adel printio math yn y byd ar lyfrau Cymraeg eithr ef a fynne i'r bobl ddysgu Saesoneg a cholli eu Cymraeg.

Pa fedal fyddai fyth yn ddigon cymwys ac addas i hongian o gylch ei gwddf fel teyrnged i'w dewrder yn sefyll yn yr adwy i'n hatal ni y gwþ þ ie, y rhai cryfaf, i fod þ rhag llwyr golli ffydd a mynd ar ddisberod gyda'r genfaint foch?

Na, does na ddim prinder byd eang o awyrennau a pheilotiaid cymwys.

Mae llawer ohonynt wedi arwyddo llythyr agored at swyddogion y Llyfrgell yn gofyn iddyn dynnu'r gwahoddiad yn ôl a chynnig yr anrhydedd i rhywun mwy cymwys.

Gan mai natur yr unigolyn a benodir i gyflawni project yw'r prif ffactor mewn llwyddiant y math yma o broject, y mae angen cytuno ar ganllawiau ar gyfer penodi'r personau mwyaf cymwys er sicrhau cysondeb a disgwyliadau cyffredinol ymysg y canolfannau.

Cafwyd parhad mewn buddsoddiad yn y busnes i sicrhau bod staff cymwys ac offer priodol ar gael i gwblhau'r gwaith.