Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cymylau

cymylau

Erbyn dydd Sadwrn yr oedd y gwynt wedi troi i'r de-orllewin, ac yn gyrru cymylau gwlanog o law o gyfeiriad y mor.

Fel yr esgynna Sam i blith y cymylau a'r sêr yng nghwch y ferch ddi-enw, ddi-sylwedd a ninnau gyda hwy, y mae'r bro%ydd cartrefol beunyddiol, ein priod ardaloedd hysbys yn pellhau a lleihau otanom yn y dyfnder ac fe ddaw moment pan anghofiwn amdanynt yn

Fel yr oedd e'n llusgo ei draed i lawr y stryd teimlodd fel petai e'n cerdded ar y cymylau.

Edrychid ar Sam gan ei ffrindiau fel un wedi drysu am ei fod yn sôn am "ddefaid y Ci Drycin", sef y cymylau, ac am g vmwl yn tisian, am y ferch ledrithiol yn galw arno--"Fachgen

Dilyn rhaeadrau oedd fy ngwaith yr ochr draw, saith milltir o raeadrau rhwng copa'r bwlch a phentref bach Susauna, a milltir ar ben milltir arall o raeadr a phistyll yn ymuno a phrif afon y cwm o grognentydd clasurol, o'r pantiau eira disglair y tu ol i'r cymylau, ac o lasierau cudd Piz Vadret.

Mae'n dal yr ymdeimlad o symud yn shiap y tyfiant, yn y cymylau, ac yn y defaid wrthi'n pori.

Bu hyn yn foddion iddo orfod dioddef oddi wrth gryd-y- cymylau weddill ei oes.

Fe ddechreuodd y dryswch o'r eiliadau cynta', pan gliriodd y cymylau uwch Vilnius ac y trawodd yr awyren DanAir y tarmac ym maes awyr digysur y dref.

Gwawr las asur sydd i'r awyr, yn bwl i gyd ac yn llawn cymylau a'r rheini, fel coed anferth, yn symud â rhyw rym direolaeth.

Mae cymylau duon yn dechrau crynhoi ac os bydd hi'n glawio bydd hi bron yn amhosibl teithio ar hyd y ffordd yn ôl i Jijiga.

TRIGLE'R CYMYLAU - gan Dafydd Rowlands

MELINAU GWYNT Mae'n bosibl y bydd gwlad fach Urmyc yn neisiach lle i fyw ynddi cyn hir oherwydd maen nhw wedi dechrau cael lot o felinau gwynt i chwythu'r cymylau a'r niwl a'r glaw i ffwrdd.

Llithrai'r cymylau yn frysiog ar draws yr awyr lwyd.

Yn wir, dydw i ddim yn cofio pa bryd y canmolwyd i'r cymylau lyfr Cymraeg i'r fath raddau.

Cododd cymylau o lwch i'r aer a dechreuodd tanau bach hwnt ac yma, ond diolch i rybudd gwyrthiol yr anifeiliaid ni chafodd unrhyw un ei anafu.

Er y cymylau cyson fe welwyd haul ar fryn yma ac acw, ac er y dirwasgiad hirhoedlog cafwyd llwyddiant a chynnydd yma o fewn yr eglwys yn Seilo a hefyd o fewn yr eglwys yn y byd.

Ac y mae'r ysgrifenwyr yn dra ymwybodol o'r tywydd, - yr heulwen, y glaw, y gwynt, y storm, y cymylau a'r daran.

Gwibiai'r cymylau'n wyllt ar draws yr awyr a hyrddiai'r dŵr o'r rhaeadr yn erbyn eu hwynebau.

Roedd cymylau duon dyledion ar y gorwel a chryn dipyn o'r sglein wedi mynd oddi ar y geiniog felen, safon arian N'Og ers teyrnasiad Braianllwyn Dew.

Cyfyng yw'r amrywiaeth tonyddol, ond mae yma gyfoeth o sensitifrwydd a theimlad.Yn rhannau uchaf yr awyr mae'r haenau paent yn dewach a'r llwydlas ar letraws yn awgrymu cymylau'n symud ac yn cyd-bwyso â llinellau esgyll y felin.

Trafaeliai'r oriau byrion ar draws yr wybren gyda'r cymylau.

Roedd yn noson drymaidd, cuddiai cymylau'r machlud, ac ni symudai un ddeilen yn y gwerni.

Edrychais ar y gorwel a gweld cymylau du enfawr yn prysur ddod tuag atom ac, o fewn munudau, roedden nhw'n arllwys glaw trofannol ar ein pennau.

O dan y cymylau tywyll a'r niwl disgynnodd amdo'r nos yn gynt nag arfer.

Roedd y cymylau wedi cael eu gwthio i'r gorwel fel plancedi i droed y gwely.

Ceir hefyd stori sydd wedi ei seilio ar un o lythyrau Kate Roberts i Saunders Lewis lle mae hi'n difrïo tref enedigol yr awdur (yn rhyfedd ddigon) ac yn dweud yr hoffai chwythu Aberdâr i'r cymylau.

Yr oedd yn oriog ei agwedd at bobl, ambell dro'n eu canmol i'r cymylau, dro arall yn digio'n bwt â hwy.

Cofiwn yr ymdrech gynnar yn erbyn gwynt anarferol o finiog, y gollyngdod nad oedd eira anamserol llif Awst wedi lluwchio cymaint a hynny tua chopa'r bwlch, a'r wefr wrth weld y gwyngalch newydd pur yn diflannu i'r cymylau fel petai crib ddwyreiniol y Chuealphorn yn un o gyrsiau mawr yr Aplau.

Yn Nhrigle'r Cymylau, y carwn innau ryw ddiwrnod ddychwelyd i'w llwybrau cynefin ddieithr, mae'r duwiau oll yn ymgordeddu fel nadredd ansylweddol ac annelwig yn y glaw a'r niwl.

Dro arall, fel yn 'Eryri o Fangor', mae'r cymylau caws llyffant anferth yn gwneud i'r mynyddoedd edrych yn fychan.

Dyma ei ddarlun o Dduw: Sant Heb fodfedd o nefi blw ar ei gyfyl, Yn ysbryd solat a diysgog yn ehangder y cymylau, Yn gosmig Ac yn or-gosmig Ac yn llawen farfog.

Y lle gwlypa' yn y byd yw Cherrapunjee, ac fe elwir y lle yn 'Drigle'r Cymylau'; y gwir yw ei fod e'n debyg iawn i Abercrâf ar ddiwrnod glawog.

Ym 'Melin Adda, Amlwch' mae paent yr awyr wedi ei osod yn ffyrnig â chyllell balet nes bod y cymylau'n edrych fel petaent wedi eu cerfio, eu ffurfiau deinamig yn cau am y felin a'r beudai, yn gymheiriaid i ffurfiau'r tir.

Yna, fel sy'n digwydd yn aml wrth ddynesu at yr Engadin, dechreuodd y cymylau godi.

Erbyn i'r wawr dorri roedd y gwynt wedi gostegu ac ar ôl ychydig torrodd yr haul drwy'r cymylau.