Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cymysg

cymysg

Perfformiad cymysg arall gan y tîm wrth iddyn nhw baratoi at her fawr De Affrica y penwythnos nesaf.

Wyddech chwi mai ymgais rhywun i gyfieithu trifle yw, er nas gwelais erioed mewn print, treiffl yw ymgais dila y llyfryn Terman Coginio, Ysgol Addysg Prifysgol Cymru, a 'melusfwyd cymysg' yn Y Geiriadur Mawr.

Cafodd Rhian blentyndod digon cymysg yn y Deri Arms.

Cymysg yw'r darlun cyfan: lle i obeithio yn sicr, ond lle i bryderu hefyd.

Teimlade cymysg oedd gan nifer o'r chwaraewyr, a falle y bydd llawer yn teimlo mai agwedd shofinistaidd oedd yn gyfrifol am hyn.

Yr oedd Platoniaeth wedi'i diorseddu gan Aristoteliaeth, y Cyffredinol Delfrydol gan y cyffredinol cymysg o dda a drwg.

Mae 'na un yn arbennig yn mynnu cael fy sylw i; yn canu'i gorn a chwifio'i freichiau fel octopys yn arwain côr cymysg.

Ffermwyr defaid oedd y rhan fwyaf ohonyn nhw, ffermio cymysg oedd yn Manafon, pobl oedd yn gweithio'n galed trwy'r flwyddyn, ond fel da chi'n gwybod mae bywyd y ffermwr defaid yn wahanol, mae o'n brysur ar adegau ond mae 'na adegau pan nad ydio'n rhyw brysur iawn, ac mae ganddo ddiddordeb mewn eisteddfodau a llunio englynion a phethe felly.

Yna'r darlun cymysg a gawsai o Janet Hannah yn yr ardd ac wyneb Robin yn syllu'n ddiniwed ac yn ymbil am ei sylw.

Bwriadent integreiddio eu poblogaethau cymysg a chreu teyrngarwch cytu+n.

Rwy'n siwr taw teimladau cymysg oedd gan Menem y bore hwnnw.

Mae yma gerddi gwefreiddiol ynghanol casgliad cymysg iawn o ran naws.

Does neb, am wn i, wedi amau'i gamp fel nofelydd plant, ond am y nofelydd oedolion - awdur Gŵr Pen y Bryn a Gyda'r Glannau - cymysg iawn fu'r farn.

Awgryma hyn oll mai cymysg fu profiad politicaidd y Cymry yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg.

yn wenithfaen i gyd gan fod yn ei gyfansoddiad cymysg Iechfaen gwyrdd o ansawdd rhagorol -y 'greens', fel y'i gelwir--a hollt 'fel sidan' ynddynt.

Yr oedd yn aelod o Gôr Cymysg Porthcawl.

"Mae'n deimlad cymysg iawn achos mae rhywun wedi bod yma mor hir - mae cymaint o ffrindiau yma, cymaint o atgofion." Er ei fod yn cyfadde' iddo fod yn anfodlon gyda'i sefyllfa waith, dyw natur ei gytundeb gyda'r BBC ddim yn caniata/ u iddo ddatgelu rhagor.

Fel arfer, cymysg hefyd yw'r sioeau mwy arbenigol sy'n ymwneud ag anifeiliaid fel cŵn, cathod, adar neu gwningod, er ambell waith bydd cymdeithasau fel y Welsh Terrier Association neu'r Springer Spaniel Club of South Wales yn trefnu sioeau yn arbennig ar gyfer math arbennig o gi.

Dewch i wybod mwy am y côr cymysg campus hwn a sut i ymuno.

Yn aml ffurfir dosbarth gallu cymysg o blant a fydd yn derbyn rhan helaeth o'u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, a hefyd ffurfir dosbarthiadau o ddysgwyr da a fydd yn derbyn cyfran o'u haddysg drwy'r Gymraeg.

Sefydlwyd sawl arfer dda ar sail addysgu grwpiau cymysg o ran cyraeddiadau iaith a gallu cynhenid.

O flaen y pum cant a mwy o ymfudwyr a morwyr ar ei deciau, yn edrych gyda theimladau digon cymysg ar y tynfad yn prysur ddiflannu o'u golwg, roedd mordaith o bron i bedwar mis.

Canlyniadau cymysg gafodd y ddwy Gymraes yn nhîm Prydain yn y senglau.

Ond ar y llaw arall, ni chuddir oddi wrthym y nodweddion cymysg a oedd yn ei gymeriad.

Mae hefyd yn rhestru cerddoriaeth a chanu ymhlith ei weithgareddau hamdden gan ei fod yn gyn-gadeirydd côocirc;r cymysg Godre'r Garth ac yn aelod o Barti'r Efail, parti cerdd dant sy'n cyfarfod yn Efail Isaf.

Rhoddwyd eitemau yn ystod y Gymanfa gan aelodau o Gôr Cymysg Morgannwg Ganol a'u harweinydd Mrs Kate Francis.

Diflannodd ffermio cymysg traddodiadol a ganed 'agri-business' - o leiaf mewn rhannau helaeth o Brydain, y Cyfandir a'r Amerig.

Cymysg hefyd yn sicr fu eu profiadau yn y meysydd cymdeithasol ac economaidd.

Ar wahân i'w hofn rhag ffwndamentaliaeth Moslemaidd mae llawer o ferched Uzbek yn aelodau o deuluoedd a phriodasau cymysg ac ni fynnant hwy weld y rhyddid i ddilyn y diwylliant priodasol a fynnont yn diflannu.

'Cymysg dra', ie, ond nid anwadal nac ansefydlog.

Ers ei sefydlu ym 1983, mae Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC, Corws Cymreig y BBC gynt, wedi ennill ei blwy'n eang yn un o'r corau cymysg blaenllaw yn y Deyrnas Gyfunol.

Yr oedd cynnwys y gerdd yn rhwym o ysgogi teimladau cymysg.

Ond gyda'r mewnlifiad priodasau cymysg, trai ar grefydd ac ymyrraeth sefydliadol yn bygwth chwalu'r peuoedd cynhaliol hyn y mae perygl i'r Gymraeg, onid ail sefydlir y peuoedd hyn a'u hymestyn i feysydd newydd, gael ei gadael yn noeth yn nannedd y ddrycin.

Efallai y bydd A Ddioddefws a Orfu hefyd yn creu ymateb mwy cymysg na'r drama-gerddi traddodiadol, gydag elfennau digon caled yn y stori a defnydd helaeth o'r hyn sy'n cael ei alw'n 'fratiaith'.