Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cymysgu

cymysgu

Doedd y du a'r gwyn byth yn cymysgu, a rhwng y ddau eithaf roedd bywyd yn syml ac yn lliwgar.

Byd yw hwn sy'n cymysgu dagrau un oes â gorfoledd oes arall.

Nid gwamalu a fyddai cymysgu'r llythrennau, a'i alw yn 'Aruthr' Oni ddaeth trwy adfyd chwerw heb suro un mymryn, a llwyddo i weithio yn swyddfa'r heddlu, a dod yn rym dewinol mewn sawl maes?

Yn ol arlunwyr y Canol Oesoedd, hen ddynionach crebachlyd oedd y cemegwyr cyntaf, yn cymysgu rhyw gawl rhyfedd o ymennydd ystlumod, llygaid brogaod a thafodau madfall mewn crochan enfawr, gan fwmian geiriau swyn dieithr.

(Tarddodd y goel hon mae'n debyg yn y Dwyrain lle defnyddid ambare/ l a pharasôl gan frenhinoedd a breninesau.) Gall gweinyddesau mewn ysbyty dystio ymhellach pa mor gryf heddiw yw'r gred gan lawer iawn o bobl na ddylid cymysgu blodau coch a gwyn - mae'n arbennig o anlwcus.

Nid aeth dewin yn agos at broflenni Samhain - nofel ffantasi sy'n fwrlwm o ddwiniaid a chreaduriaid rhyfedd a chymeriadau - ambell i necromanser, hanner-ore a chewri wedi eu gwneud o bridd sy'n cymysgu gyda'r camgymeriadau gosodi.

Daethpwyd â gafr gyfan, newydd ei rhostio, a llond twb mawr o reis wedi eu cymysgu â ffa.

Er ei bod yn un gref, nid yw'r gwaith cymysgu yn cweit wedi daro deuddeg.

Wedi darganfod dull o wneud rhyw fath o hufen iâ - rhewi llefrith a ffrwythau neu fisgedi siocled wedi eu cymysgu.

Ei gred, fel amryw o'i gyfoeswyr, oedd fod y Gymraeg yn tarddu o'r Hebraeg ac y gellir olrhain ei tharddiad yn ôl i'r cymysgu ieithoedd a ddigwyddodd adeg helynt Twr Babel.

Rhoddodd ddwy ddisprin a dwy fogadon yn yr Ofaltîn a'u cymysgu'n dda efo lot o siwgwr.

'Roedd Druce hefyd i'w weld yn cymysgu efo'r ardalwyr.

Mae symudiadau dwr ar gramen y ddaear ac ynddo yn cymysgu mwynau gyda'i gilydd yn y ddaear.

Eilunaddoliad yw cymysgu'r ddau.

I amddiffyn y Grîns maen ymddangos y bydd yr hyn syn cael eu galw yn specialist streaker spotters yn cymysgu âr gwylwyr.

Meddai gŵr sy'n teithio o Ddinbych i Rhuthun yn unswydd i brynu'i faco: "Mae'n rhatach i mi ddod yma i brynu baco rhydd a gwario punt ar betrol na phrynu sigarets wedi'u pacio." Mae'r dewis yn rhyfeddol a gellir eu cymysgu fel y mynnir.

Ond mae'r 'Arlunydd Mawr' wedi cymysgu'r pinc yn ofalus a chywrain a lliw melyn, gwyrdd, du, gwyn a llwydlas.

'Mi wyddoch chi lle ma' Gilbert.' 'M...Norman ddeutsoch chi gyna',' ebe William Huws wedi cymysgu rhwng yr halen a'r pupur.

Mae'r tomatos yn hoffi amgylchfyd sych a'r cucumerau yn hoffi lleithder felly, ni ddylid eu cymysgu yn yr un tŷ a disgwyl tyfu'r ddau gnwd yn llwyddiannus.

Daeth pen Cetyn heibio i'r drws pan oedd y pricia'n cael eu cymysgu rhwng dwy gêm, i wneud yn siwr nad oedd yr hen beth fach yn cael cam gan Ciaptan Llwyd.

Pa gyfieithiad bynnag ddewiswch chwi, ar ôl holi arbenigwraig deallaf mai y syniad tu ôl i 'trifle' fel bwyd yw dim ond ychydig o wahanol ddefnyddiau wedi eu cymysgu neu efallai eu cyboli.

Gan fod pinc y mynydd yn hoffi bod yng nghwmni'r ji-binc mae'n hawdd eu cymysgu, ond gellir adnabod y ji-binc yn hawdd gan fod ganddo gorun lliw llechen.

Gellid gwneud bara gyda'r mes neu'r rhisgl, drwy eu cymysgu â blawd i wneud bara oedd yn cynnal a chryfhau dyn ar ôl oerni a gwlybaniaeth y gaeaf.

Mae'r affwysol-dlawd a'r gweddol-dlawd a'r dosbarth canol i gyd yn cymysgu'n rhydd ar y platfform - wel, does fawr o ddewis - ond y tlawd yw'r garfan fwyaf niferus o lawer.