Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cynaladwy

cynaladwy

Gan mwyaf, gellir priodoli'r gostyngiad i nifer o ffactorau sosio-economaidd cymhleth: arwydd fod cryfder yr iaith mewn rhai ardaloedd ynghlwm wrth ddatblygu cynaladwy o fewn y gymuned ac yn ddibynnol arno.

Mae'r neges yn gyson - rhaid datblygu cyfundrefn sy'n parchu yr amgylchfyd - a chofleidir, gydag argyhoeddiad amrywiol, yr egwyddor o ddatblygiad cynaladwy.

Yn ôl Brundtland - 'Datblygiad cynaladwy yw datblygiad sy'n cyfarfod y gofynion presennol heb danseilio gallu cynhedloedd i ddod i gyfarfod â'i gofynion hwythau'.

Mae'r adroddiad yn pwysleisio hefyd tegwch rhwng cenhedloedd yn ogystal â thegwch i genhedlaethau sydd heb eu geni ac i ddynameg esblygiad cymdeithasol - nid mater o fferru'r sefyllfa nac o ddychwelyd i rhyw 'nirvana' neu Gwales ddychmygol yw datblygiad cynaladwy.