Mae'r ddrama gerdd yn seiliedig ar hanes y dywysoges heledd, chwaer y tywyssog Cynddylan a'u cartref ym Mhengwern (Amwythig heddiw) tua'r chweched i'r seithfed ganrif.
Yno yr oedd cyfarfod pregethu, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchedigion Dr Cynddylan Jones a Dr Phillips, Tylerstown.
Mewn cystadleuaeth wan ni chafodd Isaled, Cynddylan a Hawen ond pedair pryddest i'w beirniadu a phenderfynwyd mai Glanffrwd oedd wedi rhagori ar lapio'r hen gysuron o gwmpas yr iaith.
Daw'r ail gyfeiriad o gerdd y credir ei chyfansoddi yn y seithfed ganrif, Marwnad Cynddylan, lle y disgrifir Cynddylan ap Cyndrwyn a'i feibion o bowys fel canawon Arthur fras, sef 'epil ieuainc Arthur Fawr'.
Er enghraifft, y mae'n cyfuno ynddi atseiniau o destun 'Ystafell Cynddylan' ac o 'Gan y Caniadau'.
Gollyngodd ei dannedd gosod i jwg chwart o ddwr a halen, penliniodd i ddweud ei phader ac yna dringodd i'r gwely dwbl i gysgu noson arall yng nghwmni llun Cynddylan Jones a siampler ac arni'r adnod - 'Na thrysorwch i chi drysorau ar y ddaear', mewn ffrâm fahogani.
Gresynai Cynddylan fod cymaint o ôl syniadaeth William Owen Pughe - ar y cystadleuwyr a barnai Hawen i'r beirdd eu harwain 'i diroedd gwynfaol - rhamant disylwedd...' Diystyrwyd gwersi ieithyddiaeth gymharol yn llwyr: 'Ofnwn, pe cyfieithid rhai darnau o rai o'r pryddestau hyn, y câi y philistiaid Seisnig wledd na chawsant ei bath er ys llawer dydd.
roeddwn i'n cael cyd-weithio bryd hynny ag enwogion y genedl - pobol fel Charles Williams, Dic Hughes, Nesta Harris, Cynddylan Williams ac Olive Michael - pobol yr oeddwn i wedi gwrando arnyn nhw ar hyd y blynyddoedd ar y radio.