Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cynefin

cynefin

Heblaw am yr Ardalydd Bute a'i ddociau, fyddai'r hen bobol erioed wedi gadael eu cynefin i labro ffordd hyn oedd craidd eu hymresymu.

Trist meddwl fod arwynebedd y rhostir arbennig wedi ei gwtu%o efo coed, a chynllun adennill porfa yn lle mawnog o siglen, - cynefin y dylluan glustiog a'r cudyll bach yn prysur gilio ...

Ystyriaeth i'w chofio gan olygyddion rhaglenni newyddion Cymraeg yw cynefin a diddordebau y gynulleidfa y darperir ar ei chyfer.

afon ddieithr oedd hon, a 'r hen glogwyni cynefin, cerrig llam cynefin, yr ynysoedd bach cynefin i gyd dan orchudd dyfnder anghynefin anghynefin beth am rasus cychod?

Wrth gwrs byddai dyn cynefin â'r wlad wedi codi'r llinyn dros y cilbost yn hytrach na'i ddatod, a byddai dyn felly wedi cau'r llidiart ar ei ôl yn ogystal.

Ac am nad oedd lle yn eu cynlluniau i'r teuluoedd yma nid oedd lle iddynt mwyach ar y mynydd-dir, eu cynefin, eu cartref.

Soniwyd yn gynharach am y 'Cornis', sef y mwynwyr a ddaeth o Gernyw i weithio'r gwaith copr ger yr Offis Gocyn ar ffordd Nant Peris, ac fel y daeth yr enwau Pleming, Closse a Salt yn enwau cynefin yn y cylch.

Daethai rhai ohonynt o waelod y plwy i drin tir y mynydd ac i fyw arno, ac aethant i'w cynefin i dreulio'u "hun hir."

I mi roedd cynefin y llwyth rywle y tu hwnt i Groesffordd Llangeler, ond digon annelwig a phrin oedd fy ngwybodaeth am fro fy mabandod a'm hadnabyddiaeth o'm perthnasau a'm gwreiddiau.

Gwell peidio casglu'r blodau chwaith, gwywo'n llipa wnant cyn pen fawr o dro wedi eu codi, mae'n llawer rheitiach eu gadael i eraill fwynhau eu prydferthwch.Cynefin tra gwahanol sydd i Flodyn y Gog un sychedig yw hwn ac felly ar weirgloddiau llaith a glannau afonydd y'i gwelwn.

Mae'n 'fam' i gasgliad digon difyr o anifeiliaid, gan ei bod yn 'mabwysiadu' anifail gwahanol pob blwyddyn trwy noddi un ar gynllun arbennig sy'n gwarchod anifeiliaid yn eu cynefin.

Cludwyd ef i'r pedwar ban gan unigolion a grwpiau o bobl heintiedig sy'n ei gludo o'r naill wlad i'r llall, ac sydd felly'n heintio eraill yn eu cynefin newydd.

...ie brawddegau wrth gofio Hiraethog y cynefin unigryw sydd er ei foelni ymddangosiadol mor gyfoethog ei gefndir.

Daethai ef a'i modryb Alme i flasu unwaith eto swyn eu cynefin, cael cwmni Howel y brawd ieuengaf a'u tendio gan Hannah a merched eraill y Teulu.

Ni wyddai Hadad ddigon am ddaearyddiaeth ethnig a ieithyddol gogledd Affrica i synnu bod bagad o Dwaregiaid yn ymddangos fel hyn rhyw wyth can milltir i'r dwyrain o ffiniau eu cynefin, ac ni ddaeth fyth i ddeall y rheswm am y siwrnai.

Er gwaethaf cyntefigrwydd eu harfau ac offer soffistigedig milwyr Therosina, roedd y Madriaid yn ymladd yn eu cynefin ac yn gwybod sut i'w ddefnyddio i'w mantais Serch hynny, roedd colledion y llwyth yn enbydus ac ni roddwyd unrhyw gymorth i'r rheini a anafwyd.

Diau fod naws unig eu cynefin nythu ar diroedd anial y gogledd pell yn eu canlyn i aeafu yma yng Ngwledydd Prydain.

Yn eu hadroddiad Her Bio-amrywiaeth rhaglen ar gyfer ymgyrch gadwriaethol ym Mhrydain ceir rhybudd bod amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid gwyllt a'u cynefin dan fygythiad.

Yn Nhrigle'r Cymylau, y carwn innau ryw ddiwrnod ddychwelyd i'w llwybrau cynefin ddieithr, mae'r duwiau oll yn ymgordeddu fel nadredd ansylweddol ac annelwig yn y glaw a'r niwl.

Allwedd Ddeubarthol Lluniwch allwedd ddeubarthol ar gyfer naill ai grŵp o organebau mewn cynefin lleol e.e.

Un o'm prif bleserau yw darganfod planhigion prin yn eu cynefin yng Ngwynedd a thynnu eu lluniau.

Yn aml iawn maent yn darganfod mai un o'r rhesymau pennaf dros ddirywiad ydi dinistrio cynefin yr dar, ac felly dinistrio eu bwyd a'r llefydd i nythu e.e mae llawer i hen ddarn o dir a llwyni toreithiog o ysgallen ynddo yn nefoedd i'r nico.

Ac er bod dyn ifanc di-goesau yn begera wrth borth y capel yn Laitumkhrah, roedd y llyfr emynau o roddwyd imi ar ddechrau'r gwasanaeth yn llwythog gan enwau cynefin: Treforus, Cwm Rhondda, Rhosymedre, Abertawe, Capel y Ddôl, Blaenwern...

O'r gwraidd hwnnw y tyfasai urddas nerth a chyfiawnder dihysbydd a'r gallu i drin a thrafod dynion yn eu cynefin.

Mae tair rhan i Warchodfa o'r fath; y rhan addysgiadol sy'n arddangos adar dof i'r ymwelwyr, a'r rhan sy'n ymwneud â gwaith ymchwil, ac yn datblygu dulliau o fagu rhywogaethau prin a'u dychwelyd i'w cynefin gwyllt naturiol.