Sythodd, a'i dilyn, gan sefyll yn y ddôr am funud, fel petai'n gorfod cynefino â'r llanast gwyllt.
Erbyn cyrraedd y Foryd roedd wedi cynefino â'r heli - ac am bedwar tymor bu'n pesgi ar larder fras yr Iwerydd.
Mân straeon oedd y rhain yn y papurau, colofnau yr ydym wedi cynefino â nhw bellach.
Anodd oedd cynefino â rheolau caeth y gwersyll newydd.
Gan inni fod gyhyd yn nisgleirdeb yr haul ni allem weld yn glir iawn i'r cysgodion, ond wedi cynefino tipyn gallem weld merch yn plygu allan o un o ffenestri'r adeilad gyferbyn.