Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cynefinoedd

cynefinoedd

Ceir cryn bosibiliadau ar gyfer datblygu cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau unigol, megis ystlumod a gwenoliaid y traeth drwy weithredu codau ymarfer, ac enillwyd profiad helaeth iawn yn yr Adain i hyrwyddo'r amcanion hynny.

GWARCHOD NATUR, DAEAREG A'R TIRWEDD: Gall cloddio mwynau gael effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol ar warchodaeth natur ac ar adnoddau tirweddol Gwynedd, o ran colled neu ddirywiad cynefinoedd lled-naturiol a newid tirweddau, tirffurfiau a defnyddiau tir traddodiadol.

Trowyd ffriddoedd serth a'r ucheldiroedd yn borfeydd bras, traenwyd y corsydd, plannwyd miloedd o erwau o goed bytholwyrdd felly collwyd cynefinoedd gwyllt, - y coedlannau derw a'r rhosydd a'r grug, a hefyd yr arferion hynafol a ganiataodd i laweroedd o blanhigion ac anifeiliaid ffynnu mewn cydberthynas â dyn.

Mae gan RSPB Cymru dros 40,000 o aelodau sy'n cydweithio i achub cynefinoedd a rhywogaethau sydd o dan fygythiad.