Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cynfas

cynfas

Yr oedd cael cwyro'r edafedd a phwytho'r cynfas yn dasg o lawenydd ar ôl segurdod cysglydd y gell gosb Pan oedd Myrddin Tomos ar gysgu un noson deffrowyd ef gan sūn gweiddi ac ysgrechian yn y gell uwch ei ben.

Er fy mod yn gyfarwydd a'r gair nithlen - nithlan i mi - am sach wedi ei rwygo yn agored i greu cynfas ddwywaith arwynebedd y sach gwreiddiol ni wyddwn mai'r ystyr wreiddiol oedd "cynfas o sachlian a ddefnyddid i greu gwynt ar y llawr dyrnu i wahanu'r us oddi wrth y grawn" a'r bathiad yn gwbl resymol o weld mai'r enw am "un yn gwyntyllio... ar y llawr dyrnu" oedd nithiwr a'r enw ar y weithred yn nithio.

Yn sicr, ni cheir golygfa fwy ramantus na heidiau o wyddau gwyllt yn croesi cynfas liwgar y machlud, a chefais gyfle i fwynhau hynny droeon ym Martin Mere.

Yn yr ail act mwynheais berfformiadau Alun Elidir (Jo) a Judith Humphreys (Mari) yn arw, yn enwedig yn y rhan lle roedd Jo am adael ond yn aros i gynorthwyo Mari i lapio cynfas, gyda'r ddau yn dod yn nes at ei gilydd gyda phob plygiad a'u hymddygiad yn mynd yn fwy awgrymog drwy'r amser.