Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyngerdd

cyngerdd

Dyma wendid mawr y cyngerdd: roedd yr awyrgylch a'r canu yn wych ond trueni na fyddai'r trefnwyr wedi gosod sgriniau er mwyn osgoi yr holl wthio a stwffio yn ystod y perfformiad.

Crëwyd perthynas newydd gyda'r bobl syn mynychu cyngherddau yn sgîl y gyfres hon o wyth cyngerdd, gan roi gwerth eithriadol am arian yn ogystal â digwyddiadau cyn neu ar ôl cyngherddau am ddim.

Y Gerddorfa hefyd gynhaliodd y Cyngerdd Brenhinol mawreddog yn y Royal Festival Hall eleni.

Mae hi'n gantores brofiadol sydd wedi ymddangos ar lwyfannu cyngerdd gan gynnwys cyfres o gyngherddau yn y Klavierfest Ruhr 2000 - bydd hi'n ôl yno eleni eto.

Yn ddigon tebyg i'w dad a'i deidiau gynt, dim ond mai cyngerdd neu seiat neu ffair oedd cefndir eu dychymyg hwy cyn i'r 'hogan' fynd yn 'slasan'.

Yr oedd y posteri i hysbysebu'r cyngerdd yn artistig tu hwnt; y cwbl ar bapur wedi ei ddwyn a'i smyglo i'r gwersyll.

O dipyn i beth syrthiodd y darnau i'w lle gydag ymweliadau â BBC Cymru, S4C, Derwen, Y Cynulliad, Siriol, cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant gyda swper yn dilyn â chyfle i gwrdd a Dirprwy Faer Caerdydd a llond lle o bobol ddylanwadol a gwybodus.

Ond pwysicach fu'r cyfle i sgwrsio gyda phobol wedi'r cyngerdd.

Ymdrechwn i gynnig rhaglenni gwahanol gydol yr amser megis Te Mawr, cyngerdd canu gwerin, Gwyl Ffraid/Santes-Dwynwen, a phicnic i gydfynd a'r Gymanfa a Gwyl Dewi-Sant.

Crëwyd perthynas newydd gyda'r bobl sy'n mynychu cyngherddau yn sgîl y gyfres hon o wyth cyngerdd, gan roi gwerth eithriadol am arian yn ogystal â digwyddiadau cyn neu ar ôl cyngherddau am ddim.

Bu'r Cyngerdd Prom yn Neuadd Dewi Sant yn goron ar yr ymweliad.

Wedi llwyddiant ysgubol eu hail albwm International Velvet a chaneuon fel Mulder and Scully, Road Rage a Strange Glue, roedd y cyngerdd hwn yn cael ei gynnal wedi iddynt ryddhau eu trydedd albwm Equally Cursed and Blessed, nad oedd yn fy marn i mor drawiadol ag International Velvet.

Cymerodd Corws Cenedlaethol Cymru hefyd ran mewn dau o gyngherddau mwyaf y tymor yn Neuadd Dewi Sant, gan lwyfannu eu cyngerdd eu hunain yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.

Cafodd gwylwyr ledled Prydain gipolwg ar y dathliadau gwych a nododd agoriad y Cynulliad Cenedlaethol gyda The Welsh Assembly - a Nation Celebrates ar BBC Dau, a Starry Starry Night, sef uchafbwyntiaur cyngerdd ym Mae Caerdydd.

Dwi'n credu fod yna rywbeth digon priodol mewn cynnal cyngerdd yng Nghaerfyrddin," ychwanegodd.

Nodwedd boblogaidd o'r gyfres hon fu'r sesiwn holi ac ateb wedi'r cyngerdd sy'n cynnwys y gynulleidfa, Cyfarwyddwr Cerdd y gerddorfa, Mark Wigglesworth, y Prif Arweinydd a chwaraewyr allweddol.

Er mwyn dathlu'r cof, roedd yr Arlywydd Vytautas Lansbergis, cerddor a droes yn wleidydd, wedi trefnu cyngerdd swyddogol yn yr Opera, y palas celfyddydol moethus a godwyd, medden nhw, am fod Brezhnev unwaith wedi'i addo yn ei feddwdod.

Rhwng y Cyngerdd a Raffl a drefnwyd gwnaed elw o dros pedwar cant a phedwar deg o bunnau tuag at Cronfa'r Ysgol.

Yn Theatr Gogledd Cymru, Llandudno ar Fedir 9 am 7.30 pm bydd Cyngerdd y Mileniwm 2 syn cael ei drefnu gan BBC Radio Cymru.

Ymysg pinaclau'r tymor hwn bu Hymn of Jesus Holst, Requiem Durufle, St John Passion Bach, St Paul Mendelssohn yn ogystal â pherfformiadau pellach yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, gan gynnwys Cyngerdd Mawreddog Cantor y Byd Caerdydd.

Perfformiodd Delyth ar ei chlarinet mewn cyngerdd terfynol yng Nghastell Penrhyn, gyda chwech o gystadleuwyr eraill.

Unawdydd Ym mis Mehefin Meinir Thomas o Parkfields Rd oedd yr unawdydd mewn cyngerdd a gynhaliwyd yn Eglwys Abaty Margam fel rhan o Wyl Port Talbot.

Tenor ardderchog oedd Ivor Thomas, ac rwy'n cofio ei glywed yn canu mewn cyngerdd a arferai fod yn rhan o Eisteddfod Mon, gyda Madam Rosina Buckman (a gafodd ei chladdu yn Sir Fon, lle mae Atomfa'r Wylfa, a lle y buont yn deud i rywrai clywed canu).

Cerdd, Cyngerdd a'r Cyrion.

Gofynnwyd i Dafydd Iwan, sydd nid yn unig yn un o gantorion ysgafn mwyaf blaenlalaw Cymru ond hefyd wedi bod yn flaenllaw yn y frwydr genedlaethol, ganu yn y cyngerdd yn y Bae ond ni allai dderbyn oherwydd iddo gytuno i ganu mewn noson Gymraeg yng Nghaerfyrddin.

Rhoddwyd pedwar cyngerdd gan y Gerddorfa ym mherfformiadau Proms y BBC yn y Royal Albert Hall, a darlledwyd un ar rwydwaith BBC Un ar draws y DG. Perfformiodd y Gerddorfa Requiem Verdi hefyd mewn cyngerdd arbennig ar gyfer yr Uwch-gynhadledd Ewropeaidd, y noson wedi iddynt berfformio mewn cyngerdd gala awyr-agored yng Nghastell Caerdydd.

ellis owen, i i tocynnau cyngerdd blynyddol y capel.

Daeth y nifer mwyaf erioed o sêr o Gymru ynghyd ym Mae Caerdydd ar gyfer Lleisiau Cenedl, cyngerdd mawreddog yn rhad ac am ddim a gynhaliwyd i ddathlu agoriad brenhinol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

"Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau'r cyngerdd heno gymaint ag a wnaethon ni," meddai Anthony Freud, y llefarydd ar ran y panel beirniaid, cyn cyhoeddi enw enillydd y noson.

Bu'r mileniwm yn dyst i ddarllediad allanol byw mwyaf y BBC gyda'r camerâu yn ymuno yn hwyl cyngerdd hanesyddol y Manic Street Preachers yn Stadiwm y Mileniwm wrth ffarwelio ag un mileniwm a chroesawu mileniwm newydd.

Yr oedd sgwrs yn mynd yn beth bratiog unsillafog wrth i bawb siarad yng nghlyw ei gilydd a'u llygaid at y gornel, a lle byddai cynulleidfa mewn cyngerdd a drama a darlith, dim ond cnewyllyn o ffyddloniaid oedd yn dal i ddod, a 'lle byddo dau neu dri' yn cael ei ddyfynnu yn amlach ac amlach.

A'r diweddglo oedd Idris Charles yn cyflwyno cyngerdd o Theatr Emlyn Williams yn Theatr Cymru Clwyd, Yr Wyddgrug.

Mentrodd Ysgol y Babanod roi Cyngerdd yn Neuadd y Dref.

Bur mileniwm yn dyst i ddarllediad allanol byw mwyaf y BBC gyda'r camerâu yn ymuno yn hwyl cyngerdd hanesyddol y Manic Street Preachers yn Stadiwm y Mileniwm wrth ffarwelio ag un mileniwm a chroesawu mileniwm newydd.

Y mae y cyngerdd hwn eisoes wedi dod dan feirniadaeth am nad yw yn ddigon cynrychioliadol o Gymru ac am ei bwyslais ar sêr di Gymraeg o Gymru.

Y diwrnod cyn yr wyl, bydd pob ysgol led-led y wlad yn cynnal cyngerdd i ddathlu; gan amlaf gyda pherfformiadau dramatig gwladgarol, darlleniadau arwyddocaol, canu ac adrodd darnau o farddoniaeth.

Roedd yn bleser gan BBC Choice Wales ddarlledu cyngerdd y ganrif - digwyddiad gala gwych yn nodi agoriad hanesyddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyda'r fath hunanfeddiant.

Nodion o'r Tabernacl Cyngerdd.

Roedd gan BBC Cymru drefnu sylweddol i'w wneud i achub y digwyddiad wedi i'r hyrwyddwr dynnu'n ôl y diwrnod cyn y cyngerdd, ond dangosodd y gallai tîm cyfan BBC Cymru ymateb i'r argyfwng, fel y gwnaeth Dennis O'Neill a gamodd i'r adwy ar y funud olaf.

Teg fyddai gweld llwyddiant y cyngerdd fel gorchest bersonol y brifathrawes, Mrs Malltwen Williams, a oedd yn arwain, yn ledio'r gan, ac yn cadw trefn ar y plant ac arnom ninnau'r gynulleidfa gydag afiaith di-ben-draw.

Roedd Cyngerdd Gala Ewropeaidd y BBC yn noson hudolus gyda Dennis O'Neill a Lesley Garrett yn canu - weithiau yn y glaw - yng Nghastell Caerdydd.

Yn ystod ein Nadolig cyntaf mewn caethiwed llwyddasom i gynnal ein cyngerdd cyntaf.

Ganol y noson darlledwyd ail hanner Cyngerdd Gala yr Uwch-Gynhadledd Ewropeaidd o Gastell Caerdydd gyda Dennis O'Neill a Lesley Garrett.

Cofiaf y diweddar Harry Roberts, cyn gadeirydd y Cor, ac yn un o'r dynion mwyaf ffraeth i mi ei adnabod, yn adrodd hanes y Cor yn canu mewn tref gyfagos ac organydd y capel, lle cynhaliwyd y cyngerdd, a oedd hefyd yn adnabyddus fel cerddor, yn gwrthod i Ffrancon gael defnyddio'r organ!