Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cynhaeaf

cynhaeaf

Lliwiau ffenest siop oedd lliw y cynhaeaf hwnnw, a gwneud y gorau ohono wnaeth yr adar.

Drycin ddydd Calan, trwbwl i'r cynhaeaf hefyd.

Braf ddydd Calan, bydd cynhaeaf da.

CYNHAEAF Y GAEAF - Duncan Brown

Mae rhannau ohono wedi eu haredig a'r cynhaeaf wedi ei gasglu.

Gan bod wyth wythnos wedi mynd ers pan y gall y mwyafrif hau fe olyga hyn bod hanner tunnell yn llai i ddod i mewn yn y cynhaeaf.

Pobl unplyg, gweddigar, duwiol, yn mwmian emynau wrth ladd y gwair a chywain y cynhaeaf, yn cynnal y weddi deuluaidd bob bore wrth ford yr allor, gan dynnu Duw i lawr i'r ceginau rhwng y potiau a'r pedyll.

Pan fyddai gan y gof egwyl ym misoedd yr haf, a'r ffermwyr yn brysur gyda'r cynhaeaf, byddai yntau yn 'troi pedolau', rhai ugeiniau o barau o wahanol faint, a gwelid hwy yn rhesi yn hongian yn yr efail.

Nid yn unig y mae cynhaeaf Huw Jones yn un gwerthfawr o ran difyrrwch, ysgolheictod a thrysorfa gymdeithasol ond y mae'r cyfrolau hyn yn ychwanegiadau heb eu hail at lyfrgell unrhyw un - a'r rhyfeddod yw mai dim ond £10 yr un ydyn nhw - pris sydd wedi ei gadw'n gyson ers y gyfrol gyntaf un.

Glaw ar Galan Mai yn proffwydo cynhaeaf gwael.

Yr adeg o'r flwyddyn, pan ymddengys fel petai'r afon yn troi'n ôl ar ei hub, dyma achlysur yr þyl enwog, La Fete des Eaux, (Gþyl y Dyfroedd), pan fydd pawb mewn hwyliau da'n dathlu'r cynhaeaf a'r cyflawnder o bysgod.

Yn niwedd y pedwar-degau prynodd ffermwr Bryscyni, Capel Uchaf, Clynnog, geffyl a oedd wedi arfer gweithio yn Chwarel Dorothea, Dyffryn Nantlle, ar gyfer y cynhaeaf gwair.

Rwy'n dewis cofio noson o'r fath a'r stori a adroddid pan oedd Dic yn grwt anfoesgar deuddeg oed, a minnau'n ferch bedair ar bymtheg hunan ymwybodol ac awyddus, pan oedd gennym ddwy forwyn, sef Gwladys - yr orau a fu gyda ni erioed, ac sy'n dal i ddod yma i'n helpu ar adegau arbennig megis cynhaeaf a chneifio a dyrnu - a Meinir, a briododd â Morus Ddwl a chael pump o blant ganddo, tri yn fyw a dau yn farwanedig.

Gallai Eglwys Loegr wneud cynhaeaf bras o'i hynafiaeth, ac yn enwedig felly'r rhai a bleidiai egwyddorion Mudiad Rhydychen, gan fwrw sen ar yr enwadau Ymneilltuol fel rhyw chwyn crefyddol a dyfodd yn ddiweddar.

Roedd ei farn yn bwysig iawn adeg y cynhaeaf.

Cludant y cynhaeaf i daflodydd pren yng nghefn y tai i'w daflu islaw, yn y gaeaf, i'r gwartheg Simmental ar y llawr cyntaf.

Allan yn y caeau byddai'n codi cerrig, chwynnu, hau hadau a chasglu'r cynhaeaf.

Gwelai Myrddin Tomos orffennol ei fywyd yn loyw o flaen ei lygaid, cwrs ei flynyddoedd yn eglur, fel caeau sofl tan loer y cynhaeaf.

Eu gobeithion am y cynhaeaf, i raddau helaeth, a gâi'r bai am drythyllwch a maswedd Calan Mai.

Meddylier am y cynhaeaf.

Edwin Caebrynia oedd mor bryfoclyd a chawodydd amser cynhaeaf gwair.

Doedd dim byd i'w weld o'i le ar batrwm bywydau'r bobl yn eu pentrefi newydd: cynhaeaf digonol ac amodau byw cyfforddus.

Byddent yn ysgrifennu ac yn gwerthu swynion i wella'r cynhaeaf, ac yn potelu cymysgeddau dirgel a fyddai'n addo ieuenctid tragwyddol i'r sawl a'u hyfai.

Cafwyd tywydd braf a heulog, tywydd cynhaeaf da ac aethpwyd ati i hel gwair.

Mae'n gae tair acer ar hugain ac yn codi cynhaeaf da o wair defaid bob blwyddyn.

Roeddem ar drothwy tymor y glaw, pan fydd llwythau'r wlad yn cynnal defodau i ddenu'r cawodydd a fydd yn rhoi cynhaeaf da.