Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cynhaliaeth

cynhaliaeth

Bu pobl yn byw yma ers yn fore iawn, ac y mae olion o Oes yr Haearn, bedwar can mlynedd cyn Crist, yn profi iddynt dderbyn eu cynhaliaeth o'r tir a'u hamddiffynfa yn yr hen gaerau a godwyd ar hyd a lled sir Aberteifi, a rhyw chwech ohonynt ar lannau Wyre o Ledrod i Lanrhystud ac un o fewn i'r plwyf, sef Caer Argoed.

Cyfeiriodd rhai o'r aelodau at safon uchel y gwaith cynhaliaeth ar y tai Cyngor yn y Dosbarth ac fod y tenantiaid yn gwerthfawrogi hynny.

Daeth ardaloedd eang i ddibynnu ar y farchnad ŵyn ac ar yr SAP (Sheep Annual Premium) am eu cynhaliaeth.

O'r ochr arall, os awn i'r athrofa, o ba le y cawn foddion cynhaliaeth?

Dilyn esiampl yr Almaen a wnaeth Cymro amlycaf ei oes, a'i wobr oedd gwybod fod gweithwyr yn gallu cael cynhaliaeth hyd yn oed mewn salwch trwy lusgo byw 'ar y Lloyd George'.

Ac ymhellach, beth a barodd i Simwnt Fychan ddisgrifio plasty newydd un o'i noddwyr yn 'gyflawnder cyfiawnder' a 'derwen o wladwriaeth' os nad ei gred fod cynhaliaeth lawer amgenach na bwyd a llety i'w chael ynddo?

Yno y mae'r holl bolisiau a bwriadau yn blodeuo a dwyn ffrwyth neu'n marweiddio a chrebachu o ddiffyg cynhaliaeth gan mai natur y berthynas rhwng athro a disgybl yw'r elfen sy'n greiddiol i lwyddiant.

* gynnal sesiynau adborth cyson yng nghanol ac ar ddiwedd gwersi a fyddo'n rhoi cyfle iddynt: -ddarganfod pa syniadau a chysyniadau sydd yn anodd i'r disgyblion eu meistroli ac sydd angen sylw pellach, -ddarganfod pa unigolion sydd angen cynhaliaeth a chymorth ychwanegol (a hynny mewn amgylchiadau caredicach i'r disgybl na sefyllfa athro-ganolog, ddosbarth cyfan);

Y gwahaniaeth rhyngddynt oedd fod un garfan - y mynaich traddodiadol - wedi eu cyfyngu i fynachlogydd ac wedi cymryd fel eu prif orchwyl gynnal y cylch o wyth gwasanaeth canonaidd ddydd a nos; tra oedd y lleill - y Brodyr - yn cael gadael eu priordai er mwyn mynd ar hyd y wlad i bregethu, gan gardota am eu cynhaliaeth wrth fynd.

Caent eu cynhaliaeth allan o gyfran o ddegwm yr eglwysi plwyf, sef arian a oedd wedi ei neilltuo i'r pwrpas arbennig hwnnw.

Ystyriwch hyn: os megir cywion hwyaid o dan iâr, yr iâr honno yw eu mam ac fe'i dilynant i bobman gan ddibynnu arni'n llwyr am eu cynhaliaeth a'u diogelwch; serch hynny, yn gwbl groes i ymddygiad yr iâr, ni ellir rhwystro'r hwyaid bach rhag mynd i ddŵr a nofio ynddo.