Peth ddigon digalon yw sylwi ar yr ymgiprys am flaenoriaeth rhwng y gwahanol deuluoedd a'r cynhennu di-stop rhyngddynt a'i gilydd.
Bu mater cyfreithiol, ymddangosiadol ddibwys, yn foddion i gychwyn y cynhennu a chododd cyn bod yr esgob newydd wedi prin gael amser i ddadbacio.
Bu cynhennu brwd yno yng nghyfnod ei ragflaenydd, William Barlow.