Ailenynnwyd cynhesrwydd y cymdeithasu eto eleni wrth i'r actorion a'r criw technegol ddod ynghyd ddiwedd Mawrth a dechrau Ebrill i chwythu anadl einioes i eiriau'r sgript a dod â'r gymdeithas chwarelyddol, fel y'i portreadwyd gan T...
Gwir y gair, roedd pawb yn perthyn i bawb, ond ches i ddim munud o drafferth, chwarae teg John Jones, Bron Aber, wedyn, y bugail, a phencampwr y treialon cŵn defaid, ynte'n dweud - 'Pobl y mynydd ydyn ni' roedd hynny'n berffaith wir, ond doedd dim o oerfel y mynydd yn perthyn iddyn nhw chwaith - cynhesrwydd ges i ar bob llaw.
Braf oedd cael eistedd a mwynhau cynhesrwydd yr haul ar ein gruddiau.
Hoffai deimlo cynhesrwydd byw Barnabas yn symud oddi tani, ac ni ofidiai fyth am fod y ffordd i lawr o Frynmawr i'r dre yn rhy arw i gerbyd.
Cynhesrwydd yn eich corddi i gyd, a'r creigiau yr un fath.
Ymlaciodd eto a mwynhau cynhesrwydd ei blancedi gan lithro'n freuddwydiol-ddyfnach i gofio am yr hen hapusrwydd, y dyddiau melyn cynnar, yn arbennig cofio'i Hewyrth Joseph yn cyrraedd Trefeca mewn chaise o Lundain i adfer ei iechyd yn y tawelwch.