Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cynhesu

cynhesu

Er bod Mr Parri flynyddoedd lawer yn hŷn, wnaeth o ddim anghofio unwaith!) Ar ddechrau pob cyfarfod, byddem yn cael paned o de i'n cynhesu ni ar ôl cerdded i lawr yma drwy'r gwynt a'r glaw.

Os yw'r gath yn cynhesu yn yr haul yn Chwefror bydd yn cynhesu ger y tân ym Mawrth.

Mae'n cynhesu at ei waith wrth drafod y math ysbrydoledd yr oedd Peter Sterry, Morgan Llwyd a'r Crynwyr yn cyfranogi ohono.

Yr oedd y sêl tros yr Ysgol Sul a oedd i fod mor amlwg yn ddiweddarach yn Ysgol Haf yr Ysgol Sul wedi dechrau cynhesu hyd yn oed cyn ei ddyfod i Ebeneser.

Dyma fo, yn Blackpool o'r diwedd a'r sŵn yn cynhesu'i berfedd.

Rhedodd y dynion i'r tafarnau i'w cynhesu eu hunain efo cwrw a medd.

Dim ond wedi picio i'r drws nesaf i gynnau'r tân er mwyn i'r gegin fod wedi cynhesu erbyn i Anti Jini Norman godi roedd hi; mae cryd-cymalau Anti Jini yn ddrwg yn y bore.

Beth bynnag am hynny, roedd yn gymeriad ffraeth a gwreiddiol ei ymadrodd a fyddai'n cynhesu ati o ddifri pan y synhwyrai fod rhai o leiaf o'i wrandawyr yn mwynhau'r dull anghonfensiynol o draethu a'u bod yn awchu am ragor.

Rwyf wedi cael diwrnodau o'r fath a haul hyfryd yn cynhesu'r gaeaf, ac yr wyf wedi cael dyddiau gwych wedi i'r bechgyn fod allan yn torri tyllau yn y rhew er mwyn gallu rhoi'r abwyd allan!

Fel arfer pan fyddwch yn cynhesu solid mae'n troi yn hylif, a bydd yr hylif yn troi yn ôl yn solid wrth ei oeri.

Fel bo'r tywydd yn cynhesu, mae'n rhaid gofalu na fydd y planhigion sydd mewn blychau potiau a basgedi'n sychu.