a '...' Keats, ond cynhwysa hefyd y dyfyniad hwn gan Samuel Roberts: 'Yr wyf yn credu nad yw canonau na chredoau na thraddodiadau dynol yn meddu dim awdurdod ar ymarferiad Cristnogion.' Er nad yw'r geiriau ynddynt eu hunain yn ychwanegu dim at ddadl Peate mai ym mhrofiad yr unigolyn y mae chwilio am Dduw, ac er y gellid eu hystyried yn fawr mwy nag allweddeiriau hwylus i gael gwrandawiad yn uchel lys Annibynia, camgymeriad fyddai eu hanwybyddu.