Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cynhyrchwyr

cynhyrchwyr

Y cynhyrchwyr a redai'r ffatri, drwy bwyllgor oedd yn gyfrifol hefyd am weinyddu cynllun yswiriant a nawdd cymdeithasol.

Mae cynhyrchwyr profiadol yn awyddus i weithio fel hyn, rhai llai profiadol yn gweld mantais sustem fwy tebyg i'r un presennol.

Nid gweithwyr oedd yma, ond 'cynhyrchwyr'.

Fe ddywedodd - - fod hyn yn seiliedig ar "track record" y cynhyrchwyr.

Ffurfiwyd TAC yn 1982 fel cymdeithas fasnach i gynrychioli buddiannau cynhyrchwyr annibynnol syn cynhyrchu rhaglenni ar gyfer darlledwyr Cymreig, S4C, BBC Cymru a HTV Cymru.

Rhoddodd y doc newydd yr holl wasanaeth i'r cynhyrchwyr glo hyd nes i'r llongau fynd yn rhy fawr i ateb maint y doc.

Y rheswm pennaf am hyn yw fod yr actorion a'r cynhyrchwyr yn ymroddedig ac wedi mynnu meistroli, orau y gallent, grefft a disgyblaeth y llwyfan.

Mae'n bosib bwydo pob math o fanylion am leoliadau yng Nghymru i mewn tirwedd, tywydd, adnoddau, llety - gan gynnwys lluniau manwl, ac mae cynhyrchwyr ar draws y byd yn gallu cael gafael ar y deunydd o fewn munudau.

Y mae'r darlun o Ardd Eden yn ddarlun parhaol o dwf gwybodaeth; y mae'r dehongliadau amrywiol o Hamlet yn dangos tueddiadau cynhyrchwyr o gyfnod arbennig; y mae llun Beckett o Estragon a Vladimir yn aros tan y goeden yn ddarlun o gyflwr o golli ffydd y Pumdegau, ond mae o hefyd yn ddarlun o gyflwr o ddiffyg nod sy'n barhaol ddiddorol.

Clywsom nad oedd y cynhyrchwyr hyn yn derbyn 'cyflog'; yn hytrach, câi'r elw ei rannu rhwng pawb, gyda chynllun bonws i'r rhai mwyaf cynhyrchiol.

Cyflwynodd y cynhyrchwyr annibynnol Antena Canrif o Brifwyl ar S4C a BBC Radio Cymru.

Merched oedd y rhan fwyaf o'r cynhyrchwyr; mae'r 'Llyfr Gwyrdd' yn rhoi cydraddoldeb i ferched - yn sicr, mwy na'r hyn a geir yng ngweddill y byd Arabaidd.

Y broblem yn sylfaenol yw fod BBC Cymru ac HTV bellach wedi eu dadberfeddu, a'r rhan fwyaf o'u cynhyrchwyr naill ai wedi eu taflu ar y clwt neu wedi dewis ymuno â rhengoedd y sector annibynnol.

Fe wnaeth - - y pwynt sylfaenol fod cyflogau cynhyrchwyr wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf wrth ystyried chwyddiant a chredydau gwyliau.

Weithiau, mae'n naturiol fod cynhyrchwyr, cyfarwyddwyr a thechnegwyr ifainc yn bryderus rhag i lais profiad droi'n ymyrraeth neu hyd yn oed arwain i bylu'r fflam o dân yn eu boliau.