Mae'r newidiadau hyn yn cael eu cynhyrfu pan fydd y dydd yn dechrau ymestyn.
Ond os ydi'ch synnwyr digrifwch chi rywbeth yn debyg i f'un i, y peth sy'n fwyaf tebygol o'ch cynhyrfu chi i chwerthin ydi gweld rhyw unigolyn bach yn y gynulleidfa sy'n edrych fel pe bai o ar dorri allan i grio unrhyw funud.
Gallai weld fod Rhys wedi cynhyrfu ac roedd gwân foddhaus ar ei hwyneb.
'Rhian Mai, ble mae dy dad?' gofynnodd wedi cynhyrfu'n lân.
Yma yng Nghymru bu protestio yn erbyn y bwriad i foddi Capel Celyn ac 'roedd Saunders Lewis wedi cynhyrfu'r dyfroedd yn ei ddarlith 'Tynged yr Iaith'. Ond 'roedd oes y brotest yn lledaenu drwy'r byd, y duon yn yr Unol Daleithiau a'r mudiad heddwch newydd a godasai o ganol tanchwa Hiroshima a Nagasaki.
Yr un awen a'r un ysfa greadigol sy'n cynhyrfu'r ddau, ac yn yr un ysbryd y dylid ceisio eu deall.
Trodd i edrych ar y lleill a gallai weld eu bod hwythau hefyd wedi eu cynhyrfu.
Yr oedd hyd yn oed yr ychydig wylanod a welai ar y cei yn swatio yn eu cwman heb ddim i'w cynhyrfu o'u diflastod.
Cafodd hyd i ragor o bapurau Sonia Lloyd fodd bynnag a methai'n lân â deall pam nad oedd y rheini'n cynhyrfu Watcyn Lloyd a pham nad oedd arno unrhyw awydd cuddio'r rheini rhagddi.
Pam dy fod ti a dy ffrindia'n cynhyrfu cymaint ynglŷn â rhyw anwariaid fel 'na?
Nid oes sôn am y Biwritaniaeth, llai fyth yr anghydffurfio radical, a oedd eisoes yn cynhyrfu Lloegr a gororau Cymru.
Wedi holi, canfuom bod honno'n llawn - ond 'wnaeth Bholu ddim cynhyrfu dim.
Harold Macmillan yn cynhyrfu'r dyfroedd yn Ne Affrica gyda'i araith 'wind of change'.
Gofynnais i feddyg eiddil o dan fwrn ei ddiferion chwys - mewn oerni unig ynglŷn â chyflwr claf arall - am ganiatâd i roi chwistrelliad o gyffur cry' i arbed poen i'r bachgen deunaw oed a oedd yn cynhyrfu am fod ei lygad de yn hongian allan o'i ffynnon goch ac yn gorffwyso'n flêr ar ei rudd lwyd; ac yn disgleirio yn las tuag ataf .
Credai'n ddiau nad lle nofelydd oedd cynhyrfu'r dyfroedd politicaidd, ac mai nofel sal fyddai honno a ddarluniai bethau yn ol rhyw ideoleg wleidyddol ddu-a-gwyn.
Eisio chwerthin oedd arna i, ond 'roedd y dyn druan wedi cynhyrfu trwyddo, ac yn methu gwybod beth i'w wneud.
Dwi'n meddwl mai cyfraniad Cymdeithas yr Iaith i'r frwydr boliticaidd ydi cynhyrfu'r dyfroedd.
Rhywbeth mor ddistadl a'r ci gwyllt yna, dyna oedd wedi cynhyrfu'r falen gymedrol hon ynddo, bid siŵr.