Ni fyddai'n bosib cynhyrchu cynifer o deitlau yn flynyddol heb asiantaethau gyda staff llawn amser â'r arbennigedd pwrpasol.
Gellir dadalau fod cynifer o systemau amaethu yng Nghymru ag sydd o ffermydd, ac mae hyn yn adlewyrchu'r cyfuniad o ddylanawadau lleol sy'n effeithio ar ffermydd unigol.
Mae cynifer o chwaraewyr creadigol fel Rui Costa, Figo a Gomes ganddyn nhw.
Yng nghanol cynifer o bethau da, trueni nad oedd pob perfformiad yn cyrraedd yr un safon ac yr oedd gwendid yn rhan Valentino - er ei bod yn anodd rhoi bys ar yr union beth oedd o'i le.
Y peth trist yw fod cynifer o Gymry Cymraeg yn llyncu'r abwyd.
Mewn gwirionedd, wrth ddarllen y llyfr, y mae dyn yn cael ei synnu fod cynifer o bobl amrywiol wedi cyfrannu at y dystiolaeth, nid yn unig trwy ysgrifennu a siarad, ond hefyd trwy weithredu.
O gwmpas y rhain y tyfodd cylchoedd barddol bywiog Cwmaman a Brynaman, a thrwy eu dylanwad hwy a cholofn farddol Caledfryn yn Y Gwladgarwr, y meistrolodd cynifer o'r beirdd y cynganeddion.
Yr hyn sy'n ddychryn i mi (nad wyf eto'n hanner cant, ac a faged yn nhop Gwm Tawe a thop Cwm Aman yn y pumdegau) yw bod cynifer o'r arferion a ddisgrifia hi yn arferion yr wyf i'n eu cofio.
Efallai bod hyn yn esbonio paham yr oedd cynifer o weinidogion yr achosion ymneilltuol yn nyffryn Aman a'r cylch yn ystod y cyfnod cyn-ddiwydiannol yn wŷr di-goleg.
Doedd o ddim yn ffyddiog iawn i gwelen nhw eu car byth eto gan fod cynifer o geir yn cael eu dwyn yn y ddinas.
Ar ryw olwg, mae'n galondid fod cynifer o'r problemau mae'r awdurdodau yn eu hwynebu yn codi o'r galw mawr a chynyddol am addysg Gymraeg.
A phwyso ar ei gilydd fyddai llawer o'r tai yno, am fod yr hen weithfeydd glo wedi tanseilio cynifer o adeiladau.
Gan amlaf, rhyw ddau neu dri a enir, er y gellir cael cynifer â phump mewn gwâl.
Credai cynifer o Gymry'r cymoedd diwydiannol hyn fod y Gymraeg yn isradd, yn hen ffasiwn, yn annigonol ac yn amherthnasol i anghenion y byd sydd ohoni.
Yn naturiol, does dim modd bwrw golwg feirniadol o ddifri ar bum cyfrol wahanol iawn i'w gilydd o fewn cwpas erthygl fer: hwyrach, serch hynny, fod rhywfaint o bwrpas mewn croniclo bras- argraffiadau sy'n codi o ddarllen cynifer o stori%au gwahanol y naill ar ôl y llall o fewn ychydig ddyddiau, a'r cyfan ohonyn nhw, rhaid dweud, yn gynnyrch llenorion go iawn sy'n grefftwyr yn y maes ac sydd, o'r herwydd, yn gwybod beth y maen nhw'n ceisio'i wneud.
Mae'n rhaid cyfaddef mai adar digon brithion oedd y rhain ac, fel cynifer o uchelwyr oes Elisabeth, yn fachog am diroedd ac eiddo.
Mae'r ffaith bod cynifer o deitlau heb gyrraedd yr ysgolion saith mis wedi diwedd y flwyddyn ariannol yn annerbyniol o safbwynt pawb.
'I ba beth y gwnaed y Cymry?' , meddai'n guchiog rhyw dro, 'I durio y ddaear i'r Sais, a'i arbed ef rhag gweithio.' Loes calon iddo ef oedd gweld cynifer o Saeson yn ymgyfoethogi ar draul y Cymry, yn ysbeilio crombil y ddaear o 'frasder oesoedd' ac yn 'ddiwyd gasglu i'w llogellau gynnyrch trysorau ein gwlad'.
Yn ôl un rheolwr banc y buom ni'n siarad ag ef, mae'n rhyfeddol cynifer o bobl sy'n troi at y banc heb wybod beth yw eu hymrwymiadau na faint y gallan nhw fforddio mewn taliadau.
Does bosib mai cyd-ddigwyddiad yw'r ffaith fod cynifer o straeon Harri Pritchard Jones yn gorffen ar derfyn dydd, a weithiau'n wir ar derfyn bywyd.
'Rwy wedi fy siomi y bu'n rhaid cosbi cynifer o chwaraewyr.
Gan fod cynifer o ddisgynyddion y gwr hwn yn byw yn ardal Brynaman heddiw, gwyddys llawer mwy amdano na neb o'i frodyr.
Roedd yna bryder hefyd fod cynifer o'r pethau sy'n effeithio ar ein bywydau ni - er enghraifft y cyrff sy'n cynnig y gwasanaethau telgyfathrebu - i gyd yn cael eu rhedeg o Loegr.
'Fe ddwedon nhw wrthon ni ddeg diwnod yn ôl, gan fod cynifer o gemau 'da ni ar ôl 'tasan ni'n cael hyd i gae 'basan nhw'n fodlon i ni chwarae fanno.
Mae nifer o stori%au Aled Islwyn yndarlunio ymdrech yr unigolyn i ddal ati ac hyd yn oed i geisio cynnal gwerthoedd yn wyneb diffyg strwythur a diffyg raison d'être y gymdeithas sydd ohoni, yn wyneb yr unigedd mewnol anochel sy'n rhan o brofiad cynifer.
Er i Violet barhau i ganu, fel yn achos cynifer o'i chenhedlaeth, fe amddifadodd y rhyfel hi o'i chyfle mawr i ddatblygu ei gyrfa.
Ac 'rwyf wedi meddwl llawer beth yn union a ddylanwadodd arnaf fel cynifer o hogiau Cymru, a hogiau Llyn ac Eifionydd yn arbennig.
Rydyn ni nawr yn gweld effaith cynifer o dramorwyr yn yr Uwch-gynghrair.
Pan glywyd am hyn fuasech yn synnu cynifer o ferched hardd ceidwadol ifanc oedd eisiau bod yn bartneriaid i mi am y noson!!
Pan ddaeth aelodaur Clwb Hiraeth - dynar enw maen nhw'n ei ddefnyddio yn Siapan - i gyfarfod yng nghastell Caerdydd rai blynyddoedd yn ôl - fe ddwedodd llywydd y clwb mai y rheswm fod cynifer o gwmniau Siapaneaidd wedi ymsefydlu yng Nghymru oedd y tebygrwydd rhwng yr Haiku ar Englyn, meddai Aled.
Dadleuai ymhellach mai bwriad llunwyr yr Erthyglau oedd bodloni Pabyddion yn ogystal â Phrotestaniaid, a'u geirio yn y fath fodd fel ag i gadw cynifer o Gatholigion ag oedd yn bosibl oddi mewn i'r eglwys ddiwygiedig.
Gadawyd yr eglwys lle roedd cynifer ohonyn nhw wedi cael eu bedyddio, wedi canu, ac wedi cyfarfod â'i gilydd yn wag.
Croesodd y môr a glaniodd ar draethau gogledd y wlad, a thrwy iddo ladd cynifer o Wyddelod, cafodd rhan helaeth o ogledd-orllewin Cymru wared ar y gelyn.
Mae'n debyg mai oherwydd ei hamlygrwydd fel cennad tymor y tyfiant yr enwyd cynifer o blanhigion ar ei hol, rhai sy'n blodeuo tua'r un pryd ag yr ymddengys hithau'n lledrithiol yn ein mysg.
Mae cynifer o hen ymadroddion a rheolau gwledig yn parhau'n berthnasol.
"Rydw i'n ofni mai prinhau mae'r Cymry sy'n câl y fath foddhad heddiw; mae cynifer o'r genhedlaeth iau wedi'u gwasgaru i bob rhan o'r byd a Saeson wedi dod yn 'u lle nhw.
o ystyried bod cynifer o lenorion ac artistiaid dros y blynyddoedd yn hoyw, tybed nad oes yna fantais i lenor fod felly?
O safbwynt iaith leiafrifol fel y Gymraeg sydd wedi bod heb statws mewn cynifer o feysydd allweddol am gymaint o flynyddoedd, y mae colli hyder yn safon a pherthnasoldeb yr iaith a siaredir yn gallu esgor ar shifft araf tuag at ddefnydd helaethach o'r iaith ddominyddol mewn gwahanol sefyllfaoedd.
Canodd alaw gyfarwydd Donizetti Una furtiva lagrima - nid o reidrwydd yn syniad rhy dda gan ei bod yn hoff gân cynifer o denoriaid enwog - yn felys a chynhesodd y dorf ar drothwy'r egwyl gydag O figli, o figli miei o Macbeth Verdi.
Ymgais i fynegi diolch iddo am y modd y mae'n dyst i safonau ysgolheictod y Gymraeg yn y byd cydwladol hwnnw, fel mewn cynifer o feysydd eraill, yw'r ysgrif hon.
Roedd Mark Hughes wrth ei fodd fod cynifer o chwaraewyr wedi cyrraedd neithiwr.
Ond pa Gymro na wridodd wrth ddarganfod bod cynifer o eiriau y tybiasai eu bod yn Gymraeg yn tarddu o Saesneg?
(d) Rhowch brawf ar rai o'r arbrofion, paratowch un wers a'i chyflwyno i aelodau eraill y grŵp (Gan fod cynifer mewn ambell grŵp efallai na ellir gwneud hyn tan dymor y Gwanwyn).