Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cynigion

cynigion

CYNIGION: Yn ogystal â dilyn canllawiau adrannol ynglŷn â defnyddio ynni ac adnoddau a rheoli gwastraff, gallai'r Adain ddilyn nifer o faterion.

Mae cyhoeddiad diweddaraf yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru i fabwysiadu'r cynigion hyn fel ei 'Lwybr Dewisiol' ef ar gyfer ffordd osgoi Llanbedr, yn dilyn ymateb ffafriol y mwyafrif i'r arddangosfa ym mis Chwefror.

Cewch anfon cynigion i'r Cyfarfod Cyffredinol ar y camau yr hoffech weld y Gymdeithas yn eu troedio, a chynnig enwebiadau ar gyfer swyddi arweinwyr grwpiau a swyddogion.

CYNIGION: Ni all y grwp ar ei ben ei hun ddatrys y prif broblemau ar yr amgylchedd sy'n gysylltiedig â chloddio a defnyddio mwynau, felly y prif gynnig yw:

CYNIGION: Ceir cryn bosibiliadau ar gyfer parhau i ehangu defnydd cludiant cyhoeddus yng Ngwynedd, yn ogystal â thargedu adnoddau'n fwy soffistigedig tuag at y grwpiau a'r unigolion hynny a fyddai'n gwneud y defnydd gorau arno.

Teimlai amryw o'r aelodau hefyd yr hoffent gael y cyfle i roi cynigion gerbron y Cyngor ddwywaith y flwyddyn.

Synnwn i ddim na fydd Earnshaw, sy'n 19 oed, yn cael cynigion i symud i glybiau mewn adrannau uwch.

Gyda'r holl son fu wedyn am 'Gymraeg crap' rhaid nodi i'r cynigion oll gael eu cyflwyno mewn Cymraeg caboledig a graenus fyddai'n siwr o roi gwefr orgasmig i Gwilym Owen a Hafina Clwyd.

Caiff dyletswyddau y Cyngor Darlledu eu rhestru yn Siartr y BBC. Yn fyr, maent yn cynnwys: sefydlu a monitror farn gyhoeddus am raglenni a gwasanaethau drwy ymchwil cynulleidfa; cynghorir BBC ar sut mae'r amcanion yn adlewyrchu buddiannau Cymru; cynorthwyor Gorfforaeth i lunio amcanion, eu monitro a helpur gwaith o ddosrannu cyllid ar gyfer rhaglenni a gwasanaethau o fewn cyllideb gyffredinol Cymru; cyflwyno barn i'r BBC os oes newid arwyddocaol yn sail adnoddur Gorfforaeth; gwneud yn siwr fod unrhyw sylwadau, cynigion a chwynion a wneir gan gynulleidfaoedd yng Nghymru yn cael eu trin yn addas; adolygu a mynegi barn am raglenni â gynhyrchir gan BBC Cymru fel rhan o'r Adolygiad Perfformiad Blynyddol; gwneud yn siwr fod anghenion talwyr y ffi drwydded yn cael eu diwallu yn gyffredinol; gwneud sylwadau ar y cyd-destun cystadleuol a gwleidyddol yng Nghymru i'r graddau y maen effeithio ar raglenni a gwasanaethau BBC Cymru.

Dylid creu strategaeth a Chynllun Datblygu Clwstwr a'i gyflwyno i rieni a'r gymuned i geisio cynigion o gymorth o ran codi arian ar gyfer bws mini a dulliau eraill o gludo plant o adeilad i adeilad ac i hybu ymateb o ran addysg gymunedol.

Ar hyn o bryd mae is-bwyllgor o'r FAW yn pwyso a mesur y cynigion.

Gallai cynigion i addasu adeiladau presennol fod yn fwy derbyniol pe baent yn parchu dulliau a defnyddiau adeiladu lleol.

Mae'r Cynigion hyn yn ymwneud â: · Gweinyddiaeth fewnol Cyrff yng Nghymru · Y Gymraeg yn y Cynulliad Cenedlaethol · Y Cyfryngau a iaith y Cyfryngau yng Nghymru · Gwasanaeth Suful Cenedlaethol i Gymru · Papur Dyddiol Cymraeg · Addysg Bellach yng Nghymru · Tai a Chynllunio yng Nghymru · Cymreigio Cyfrifiaduron Nid cynigion yn unig fydd yn cael eu trafod yn y Cyfarfod Cyffredinol.

Mae'r aelodau yn croesawu'r cynigion ar gyfer penodi gohebwyr a golygyddion arbenigol newydd.

Bydd y Gymdeithas yn trafod gyda hi ein cynigion radicalaidd yn y maes.

Yn hytrach, dylid ail-ystyried rhoi cynigion gerbron y Cyngor ddwywaith y flwyddyn.

Dymuniad y Rhanbarth oedd i mi ysgrifennu yn cynnig nad oes angen siaradwr yn y Cyngor ym mis Tachwedd a'ch bod yn ail- ystyried rhoi cynigion gerbron y Cyngor ddwywaith y flwyddyn.

Bydd adroddiad llawn o'r Cyf Cyff yn ymddangos cyn bo hir, gan gynnwys sylw i'r cynigion amrywiol a drafodwyd.

mae'r aelodau yn croesawur cynigion ar gyfer penodi gohebwyr a golygyddion arbenigol newydd.

Nid wyf am drafod y cynigion a drafodwyd gan eu bod ar gael yn y rhifyn diwethaf o'r Tafod.

Yn yr adroddiad hwn dadansoddir y gyfundrefn bresennol a gwneir cynigion ar gyfer gweithredu yn y dyfodol.

Mae gofyn i Gyfarwyddwyr Artistig y cwmniau gyfarfod ar ddyddiad penodedig i roi trefn ar eu cynigion, ac yna i gyflwyno i'r canolfannau becyn gwybodaeth tymor byr a strategaeth tymor hir.

O fewn mis i'w buddugoliaeth, a hithau wedi derbyn cynigion i fynd i ganu'n broffesiynol, cychwynodd yr Ail Ryfel Byd.

Roedd y cynigion i gyd yn y cywair lleddf; roedden nhw i gyd yn ddigalon, ond digalon yn gyffredinol ac nid dim ond digalon ynghylch Cymru, ac roedd hynny'n rhyw fath o gynnydd.