Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cynildeb

cynildeb

Mae cynildeb i'w weld yn air diarth i lawer o'r hysbysebwyr.

'Mae gan Gerallt Lloyd Owen ddyfnder ym mhob peth mae e'n ddweud, mae o'n gryno, mae'r cynildeb yna yn ei waith o.

Gwelodd gerddi'r bardd Almaenaidd Heine, a swynwyd ef gan eu cynildeb dethol a'u hysbryd telynegol.

Os yw cynildeb yn air diarth, felly'r gair safon hefyd.

Os yw awdur yn dewis cynnig i'r darllenydd ddarn o ffuglen sydd i fod yn undod cyfan o fewn pump neu chwech neu hwyrach ddeg o dudalennau, yna mae'n rhaid wrth ddisgyblaeth cywasgu ac artistwaith cynildeb i wneud y peth yn werth chweil o gwbl.