Yn ogystal â'r ugain punt, 'roedd ganddo ddeuddeg swllt a dwy geiniog yn ariandy cynilo'r llythyrdy ac ychydig o bapurau punt yn y tŷ - swm bach eitha' taclus ac ystyried ei sefyllfa.
Ar gael ci yr oedd ei fryd; am gi y breuddwydiai ac er mwyn prynu ci roedd o'n cynilo pob ceiniog a gâi.
Os yw'r cyhoedd yn cynilo yn hytrach na gwario mewn cyfnod o chwyddiant mae nifer o honiadau ynglŷn â gwariant personol yn debyg o fod yn sigledig.
Câi bleser wrth gyfri ac ailgyfri gan ei fod o'n cynilo i brynu ci bach.
Oddi ar iddo ddechrau cynilo o ddifri, byddai'n prysuro heibio i'r siopau.
Fel llaweroedd o'm cyfoedion 'roeddwn wedi cynilo rhai punnoedd ers dyddiau ysgol trwy fod yn gadi yn y golff.
Mae'n debyg fod y dawnswyr yn cynilo'u ceiniogau prin er mwyn prynu nwyddau y gallent eu cludo adref gyda hwy.