Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cynrychioli

cynrychioli

Wrth ddiolch i'r pwyllgor, dymunodd y Llywydd yn dda i'r rhai fydd yn ein cynrychioli yn Llanelwedd.

Yn awr, roedd hi'n cynrychioli etholaeth yn y wlad i'r Gorllewin o Vilnius, yn aelod annibynnol, asgell dde gyda llun John Major ar ei wal.

Croesdoriad yn cynrychioli nifer o asiantau oedd yno: awdurdodau addysg, adrannau gwasanaethau cymdeithasol, colegau addysg bellach, colegau hyfforddi, y cyfryngau, maes Cymraeg i Oedolion, y sector wirfoddol, cymdeithasau rhieni.

Ymgyrchydd ieithyddol yw ef sy'n cynrychioli y mudiad Konteseilua.

O gofio fod y mab yn cynrychioli gwedd ar y tad, nid yw'n syn nad oes sôn o gwbl yma am alar y fam (fel a geir mewn marwnadau i blant yn y cyfnod modern, megis awdl Robert ap Gwilym Ddu i'w ferch, a 'Galarnad' Dic Jones).

Un genedl fawr Brydeinig ydym, o dan yr un Llywodraeth, yn cael ein cynrychioli yn yr un senedd gyffredinol, ac y mae ein gwir nerth yn ein hunoliaeth... ac y mae'n rhaid imi ddweud nad oes ynof ond ychydig o gydymdeimlad â'r cri a godir yn y dyddiau hyn am gael Plaid Gymreig yn y senedd.

yw pwy fydd yn cynrychioli Cymru ar y Cyngor newydd hwn.

Y mae Mandy Wix yn ein cynrychioli ar Hyfforddiant Gweinyddol a Graham Laker yn ein cynrychioli ar Hyfforddiant Artistig a Thechnegol.

Diolchodd y Llywydd yn gynnes i'r rhai sy'n ein cynrychioli ar y cyrff cyhoeddus.

Maent yn ffurfio oriel y tu allan i'r llawr cyntaf lle ceir pedwar cerflun yn cynrychioli'r pedwar tymor.

Yr oedd yr Arwr yn yr awdl yn cynrychioli'r Arwr Rhamantaidd, gwaredwr y ddynoliaeth ac amddiffynnydd cyfiawnder a rhinwedd, tra oedd 'Merch y Drycinoedd' yn cynrychioli'r Awen, creadigolrwydd dyn, ysbryd gwarineb, camp y celfyddydau a dyfeisgarwch gwyddoniaeth, hynny yw, y ddynoliaeth ar ei mwyaf creadigol a chadarmhaol yn hytrach nag ar ei mwyaf dinistriol a negyddol.

Bydd y pedair prif blaid wleidyddol yn cael eu cynrychioli mewn cyfarfod cyhoeddus drefnir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Ngwesty'r Angel, Caerdydd, Nos Fawrth Mai 16eg am 7.30.

Ond er mwyn medru cynrychioli ei wlad yn well y mae wedi newid ei enw i Ekumdayo OBadmus.

Cymerwyd rhan gan nifer o gyfeillion yn cynrychioli Y Glyn, Jerusalem, Salem a'r Tabernacl.

Y mae Mandy Wix yn cynrychioli CCPC.

Mae'r Gymdeithas Wybodaeth yn cynrychioli un o newidiadau mwyaf sylfaenol ein hoes, gan gynnig cyfleoedd enfawr i sefydliadau ac unigolion yng Nghymru.

b) fod yn sefydliad democrataidd, yn cynrychioli pawb sy'n gweithio o fewn addysg ac nid yn quango arall.

Roedd yna Gymry'n byw mewn amrywiol wledydd ac yn anfon llythyrau cyson i'r papurau newydd; roedd yna hefyd bapurau newydd Cymraeg mewn gwledydd fel yr Unol Daleithiau, ond rhywsut, doedd y rheiny ddim yn pasio'r prawf angenrheidiol o fod yn cynrychioli un wlad mewn gwlad arall.

Gellir eu gosod yn fras mewn dau gategori, yn cynrychioli yr agwedd offeiriadol a'r agwedd broffwydol.

Dau lolyn i brancio o amgylch - y naill yn cynrychioli'r elfennau a'r llall y Fam Ddaear.

Am y tro cyntaf cafwyd mewnlifiad mawr o aelodau i'r Blaid na fedrent Gymraeg, ac yn cynrychioli ardaloedd diwydiannol Cymru.

Canolbwyntio ar y gêm yr oedd o, debyg, ac efallai ei fod o'n hen foi clên, ond sut y gall rhywun gefnogi dyn, er ei fod o'n cynrychioli Cymru, oedd â mwgwd lle dylai ei wyneb fod?

Yn ôl Hefs dylsem fod wedi rhoi cyfle i'r gwron hwn sydd 'nid yn cynrychioli y Cabinet yng Nghymru ond yn cynrychioli Cymru yn y Cabinet' i brofi ei werth i ni fel Cenedl.

Cyflwyna gymeriad newydd, Robin y Glep, sydd yn cynrychioli elfennau yn y gymdeithas sydd yn gwrthwynebu priodas Margaret a Bob.

Yr oedd Cyngor yn cynrychioli'r cyfundebau (sef y Cyfarfodydd Chwarter, i roi'r enw swyddogol arnynt) a hwnnw'n atebol i'r Gynhadledd.

Edrychwn ymlaen am gael cynrychioli Cangen Coleg Bangor arno o fis i fis.

I'n hynafiaid, fodd bynnag, roedd gosod ysgol yn erbyn mur yn ffurfio triongl ac yn cynrychioli arwydd y Drindod.

Hynny yw, dau ffibril canolog a naw ffibril perifferol, i gyd wedi eu hamgau mewn gwain gyffredin yn cynrychioli pilen y gell.

Mae'r lechen yn cynrychioli'r tô ac felly yn arwydd o'r cartrefi yr ydym yn eu darparu, tra bod yr eryr (sy'n amlwg yn siap y lythyren 'E' am Eryri) yn aderyn a hed yn uchel ac mae hyn eto'n arwydd o safon uchel gwaith y Gymdeithas.

Mae CYMAD yn cynrychioli ardal sy'n ymestyn o Aberdyfi yn y de i Abergwyngregyn yn y gogledd.

Yr ydym yn ffodus i gael ein cynrychioli ar y cyngor hwn.

'Roedd yno greadur mawr, blewog yn cynrychioli Cymru.

Mae BBC CHOICE Wales yn cynrychioli chwyldro, llam anferth i'r oes ddigidol, gwell ansawdd, dulliau newydd o weithio, talent newydd - gan ddyblu'r nifer o oriau o raglennu y mae BBC Cymru yn ei gwneud.

I blaid Cymru, mae'n gyfle i weld ai dim ond y cyd-destun Cymreig a'i helpodd yn etholiad y Cynulliad, neu a yw etholwyr yn hen ardaloedd Llafur Cymru yn ymddired ynddyn nhw i'w cynrychioli ar lefel ryngwladol.

Ivor Thomas, Maer Llanrwst, Cynghorydd John Thomas, Mr Yould, Swyddog Iechyd Cyngor Aberconwy, cynrychiolydd o Gwmni Bob Parry ac Emlyn Davies yn cynrychioli'r NFU Darparwyd lluniaeth yng Ngwesty'r Queens yn dilyn yr agoriad swyddogol.

Gellid dweud yn ddibetrus mai profiad sobreiddiol fyddai i brif weinidog unrhyw wlad edrych dros lawr y Tþ a syllu i fyw llygaid arweinydd yr Wrthblaid gan wybod fo dhwnnw yn cynrychioli plaid sy'n dymuno arwain rhan o'r wlad i annibyniaeth.

Er enghraifft, taflu darn o lo i mewn i siop sy'n agor am y tro syntaf - y glo yn cynrychioli rhinweddau'r Fam Ddaear.

Gellir gweld sawl cudyn byr; maent yn ansymudol ac yn cynrychioli ail amrywiaeth.

Y Prif Weinidog yn cwrdd dirprwyaeth yn cynrychioli 500,000 o ferched a oedd yn galw am y bleidlais.

Mae'r rheiny yn eu tro yn cynrychioli llawer o'r plant sydd wedi dod o gartrefi diGymraeg i gael eu haddysg yn yr ysgolion dwyieithog.

'Maen nhw'n cynrychioli Cymru, wedi'r cyfan.

Mae'r Bloc yn cynrychioli cyfran helaeth iawn o'r Que/ be/ cois mewn modd nas cafwyd o'r blaen.

Dechreuai holl sesiynau'r þyl gyda chyfres o logos mewn du a gwyn trawiadol - y rhain yn cynrychioli'r noddwyr - a dechrau In Suburbia gan y Petties (The Pet Shop Boys i'r anghyfarwydd).

Felly y lleddir y wedd ddistrywiol i dadolaeth, a gwneir yr un peth i'r wedd gyffelyb mewn mamolaeth wrth ladd y Twrch, sy'n cynrychioli, dan gochl creadur gwrywaidd, yr hen fam o hwch a ildiodd fywyd i Culhwch, ond a oedd - fel y dywedodd James Joyce am ei famwlad - am ei fwyta'n fyw wedyn.

Ni, a'r fenter i'r gofod oedd yn cynrychioli hynny iddo.

Y Prif Weinidog yn cwrdd ' dirprwyaeth yn cynrychioli 500,000 o ferched a oedd yn galw am y bleidlais.

lluniwyd yr adroddiad gan arbenigwyr o Cadwraeth gloy%nnod Byw, Cyfeillion y Ddaear, Plantlife, Y Gymdeithas frenhinol er Partneriaeth Ymddiriedolaethau Cadwraeth a Bywyd Gwyllt Cymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, a Chronfa Natur y Byd, Nature sydd, gyda'i gilydd yn cynrychioli oddeutu dwy filiwn o bobl ym Mhrydain yn unig.

Hynny yw, nid awgrymu pa mor fregus yw gorchudd gras y mae Cradoc, ond mor gryf ydyw - a chaniata/ u fod "gras" a "chariad" fel ei gilydd yn cynrychioli agwedd dosturiol Duw at ddyn yn ei ing.

Y mae'r Rhanbarth yn gyfrifol am sgets/meim ar Yr Eidal ar y nos Sadwrn a chynigiodd Jean Evans fod Cangen Llandwrog yn ein cynrychioli.

Sylwyd, er enghraifft, fod brenhinoedd y Dwyrain - a'r brenin, wrth gwrs, yn cynrychioli ei bobl - yn haeru mai hwy oedd etholedig y duwiau.

(A oes gwahaniaeth rhwng gyrru cynrychiolydd i Gynhadledd Flynyddol Doriaidd a Cynhadledd Flynyddol y Glowyr?) Tybiwn i mai cynrychioli eu cangen leol y mae yn y ddau achos?

Cymerodd 54 o bobl, a oedd yn cynrychioli 40 sefydliad, ran yn y gynhadledd.

xi cynrychioli'r sir ar weithgorau CCC a PDAG (Ca uwch)

Y mae rhif fawr o flodau yn cynrychioli blwyddyn dda am hadau neu am sefydlu planhigion ifanc.

Dywed mai y gemau hyn, mwy na thebyg, fydd ei gemau paralympaidd ola hi, ond mi fydd hi'n cynrychioli Cymru yng ngemau'r Gymanwlad ymhen dwy flynedd.

Drwy ailadrodd y broses o restru yn ôl pellter teithio, ac atgenhedlu'n rhywiol y genhedlaeth nesaf, ceir esblygiad o 'DNA' sy'n cynrychioli'r llwybr byrraf rhwng y chwe phentref.

ng) Cynrychioli CYD ar bwyllgorau cyrff a mudiadau eraill yr ardal gan gynnwys Pwyllgor y Dysgwyr a'r Di-Gymraeg, Menter Cwm Gwendraeth, Pwyllgor Dysgwyr Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol, yn ogystal â mynychu cyfarfod o bwyllgor Sgowtiaid Cymru er mwyn rhannu gwybodaeth am CYD.

'Ta beth, cynrychioli fy ward i, Ward y Wenallt, y mae o ar y Cyngor, ac mi fydd etholiad i ddewis olynydd iddo fo." "Bydd." Ymchwyddodd y gŵr mawr, fel balŵn.

Pryddest sy'n cyfateb yn thematig i awdl y Gadair, gyda'r orsaf rocedi yn Aber-porth yn symbol o allu dinistriol dyn, a'r 'hil' yn y bryddest, gwerin milltir sgwâr y bardd, yn cynrychioli grymoedd cynhaliol a chreadigol dyn ar hyd yr oesoedd ‚ dyn fel dinistriwr a dyn fel goroeswr a dyfeisiwr.

Mae Duncan Bell, bachwr Sale sydd wedi cynrychioli tîm dan 21 Lloegr, yn ymuno â Phontypridd.

Hwyrach fod plaid yr Ortodox yn cynrychioli ei wir ddaliadau, nid yn unig yn ystod y pumdegau, ond hyd heddiw.