Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cynrychiolydd

cynrychiolydd

Mewn ymateb i sylwadau cynrychiolydd Cyngor Llanbedrog, a deimlai nad oedd swyddogion yn gwrando ar eu sylwadau eglurodd bod swyddogion yn gwrando ond mai pwyllgor sydd yn penderfynu drwy roddi sylw i'r holl ystyriaethau mewn unrhyw achos.

ethol un cynrychiolydd ac anfon yr enwau at yr Ysgrifennydd Rhanbarth.

Achubwyd y sefyllfa pan ymyrrodd Dr Peter Davies (Prifysgol Lerpwl), cynrychiolydd Cyngor Archaeoleg Forwrol gogledd-orllewin Prydain.

Cafodd cynrychiolydd Pwyllgor y Cyngor dros Addysg fod y ddarpariaeth addysgol yn ddiffygiol iawn.

Yn raddol fe ddaw'r hen bâr, ac yn arbennig yr hen ŵr, o gryn ddiddordeb i'r adroddwr, sydd yn ei weld fel cynrychiolydd yr hen ddiniweidrwydd gwerinol a wrthgyferbynnir â bydol-ddoethineb y byd sydd ohoni.

Dim ond unwaith y gwelwyd cynrychiolydd Lloegr ar lwyfan y noson olaf - Christopher Maltman, y baritôn aeth rhagddo i ennill y wobr Lieder yn 1997.

Cefais lythyr gan y prif Weinidog yn dweud fod cynrychiolydd Uchel Gomisiynydd gwlad Nigeria yn dod yma am dri diwrnod i weld y wlad a siarad â'r llwythau.

Cynrychiolydd yr hil ddynol a'i dirprwy oedd Crist yn ôl syniadaeth Paul, a fu'n ufudd hyd angau'r groes a thrwy hynny gymodi dyn â Duw.

Fe'i perswadiwyd i adael i John Powell, cynrychiolydd y Goron, lywyddu'r achos a chanlyniad y gwrandawiad oedd penderfynu nad oedd gan yr esgob hawl gyfreithiol i feddiannu'r faenor.

Ar ei ôl daw cynrychiolydd Lloegr, Gweneth-Ann Jeffers.

Yr oedd SO Davies yno, ond nid fel cynrychiolydd y Blaid Lafur na hyd yn oed bwyllgor gwaith y Blaid Lafur yn ei etholaeth ef ei hun.

Noson Yr Alban fydd nos Fercher a'i cynrychiolydd fydd y baritôn Leigh Melrose a aned yn Efrog Newydd ond a fagwyd yn Llundain.

Ivor Thomas, Maer Llanrwst, Cynghorydd John Thomas, Mr Yould, Swyddog Iechyd Cyngor Aberconwy, cynrychiolydd o Gwmni Bob Parry ac Emlyn Davies yn cynrychioli'r NFU Darparwyd lluniaeth yng Ngwesty'r Queens yn dilyn yr agoriad swyddogol.

Ond y cynrychiolydd amlycaf, a ddaeth i wrthdarawiad ag awdurdodau'r Brifysgol trwy lyfr o'i waith, oedd W.

CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Weithredwr fod Cyngor Sir Gwynedd eisiau saith cynrychiolydd ar y pwyllgor oherwydd mai dyna'r nifer isaf a allent ei ddewis er sicrhau y gynrychiolaeth angenrheidiol i'r grwpiau ar y cyngor.

Mae Inaki Irazabalbeitia yn dod i'r Cyfarfod Cyffredinol fel cynrychiolydd y mudiad Kontseilua.

Cynrychiolydd yr hil ydoedd yng nghyflawnder ei ddyndod: 'Am hynny, yr oedd yn rhaid iddo, ym mhob peth, gael ei wneud yn debyg i'w frodyr, er mwyn iddo ...

Bydd aelodaeth y Senedd gyflawn ar ei newydd wedd fel a ganlyn: (i) cadeirydd; (ii) is-gadeirydd ymchwil a pholisi; (iii) is-gadeirydd cyfathrebu; (iv) is-gadeirydd ymgyrchu gweithredol; (v) is-gadeirydd gweinyddol; (vi) trysorydd; (vii) cynullydd a chynrychiolydd arall o'r grŵp ymgyrch Deddf Iaith i'r Ganrif Newydd; (viii) cynullydd a chynrychiolydd arall o'r grŵp Ymgyrch Addysg; (ix) cynullydd a chynrychiolydd arall o'r grŵp Ymgyrch Cymunedau Rhydd; (x) cadeirydd pob rhanbarth (ynghyd â chynrychiolydd ychwanegol mewn rhanbarthau lle mae celloedd byw oddi fewn iddi, sef adolygiad blynyddol yn unol â'r defn bresennol); (xi) golygydd Y Tafod; (xii) swyddog masnachol; (xiii) swyddog adloniant; (xiv) hawl i gyfethol 3 aelod e.e. i redeg ymgyrch dros dro arbennig neu i gel cynrychiolydd uniongyrchol o gelloedd myfyrwyr.

Cymru yw'r unig genedl lle dewisir y cynrychiolydd mewn cystadleuaeth arall.

Yr oedd cynrychiolydd o'r pwyllgor addysg yn bresennol ymhob cyfarfod i roi cyfarwyddyd i'r rheolwyr ac ni wnaethpwyd dim nad oedd o fewn y canllawiau.

Dyma'r arwydd cyntaf fod y brawd ieuengaf yn gwrthod dilyn y llwybr a gymerwyd eisoes gan Henry Rees, a ennillasai ymddiriedaeth John Elias fel cynrychiolydd yr hen gyfundrefn ymhlith y Methodistiaid.

Rwyf wedi talu i'r Llywodraeth am gael aros yma, a dywedwch wrthynt fod cynrychiolydd Cymru yma o flaen un Nigeria.

(A oes gwahaniaeth rhwng gyrru cynrychiolydd i Gynhadledd Flynyddol Doriaidd a Cynhadledd Flynyddol y Glowyr?) Tybiwn i mai cynrychioli eu cangen leol y mae yn y ddau achos?

Ar nos Lun bydd cyfle i glywed cynrychiolydd Gweriniaeth Iwerddon, y soprano Franzita Whelan.

Roedd yn brofiad rhyfedd iawn - edrych allan o ffenest siop a gweld yr holl wynebau yn edrych nôl ata'i!' Pan alwyd cynrychiolydd y Groes Goch i Dohonan ar fyr rybudd, bu'n rhaid i Aled ddal yr awennau, yn trefnu lle diogel i gadw'r holl lori%au oedd yn cario nwyddau ac i oruchwylio unrhyw lwythi nwyddau eraill oedd yn cyrraedd yr ardal.

Cael eglurhad brysiog gan Paul, cynrychiolydd y Gronfa, fod eu gyrrwr nhw yn gefnogol i'r garfan sy'n rheoli hanner gogleddol y ddinas, a'r gyrrwr fyddai'n dderbyniol gan garfan y de yn hwyr yn cyrraedd y ffin i'n cyfarfod.

Roedd oedfa'r bore yng ngofal dosbarth Mrs Ruth Davies, ac anerchwyd y plant gan Sue Evans, cynrychiolydd y Gymdeithas Genhadol.

Y noson honno, fe gyhoeddodd cynrychiolydd Cyngor Ewrop y byddai Lithuania cyn bo hir yn cael ei derbyn yn aelod llawn .

(ii) Os na fyddai hyn yn dderbyniol yna fod pob cyngor dosbarth/bwrdeistref ar y pwyllgor yn cael tri cynrychiolydd er sicrhau mwyafrif i'r cynghorau hyn ar unrhyw bleidlais yn y pwyllgor.