Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cynt

cynt

Y bore wedyn roedd Merêd yn awyddus i fynd i grwydro naill ai ar hyd yr arfordir i gyfeiriad An Spideal neu i fyny'r dyffryn i gyrion Loch Coirib er mwyn cael mwynhau'r golygfeydd a'r tawelwch digymar; ond mynnodd Dilys gysgu ymlaen ar ôl cyfeddach y noson cynt.

Bellach, roeddwn yn dechrau amau y milwr yn stesion Corwen y diwrnod cynt a ddywedodd fod digon o gantîns ar gael; soniodd o ddim am y chwarter milltir o giw a welech ymhob lle felly.

Holl ddigwyddiadau'r noson cynt; breuddwyd llygad Duw, ei chynnwrf gyda'i thad, ymdrech y gof i ymgrogi a nawr eto llais bach Robin a llythyr Hannah.

nid cynt eu bod wedi taflu pob un ei frigyn i 'r dŵr ^ r nag y cipid hwy ymaith o 'u golwg golwg mae eisiau rhai mwy, ebe gethin gethin rhai trymach, mewn dŵr ^ r fel hyn.

Roedd Pwal wedi dod i Fodwigiad i dalu'r ail ran o'r arian oedd yn ddyledus am y buchod a brynasai yr hydref cynt.

Ond yn anffodus wrth gwrs, nid cynt o'n i wedi dechre cymryd diddordeb ac mi welais i fod y Bryndir wedi ymwagio.

O ie, dylwn ddweud mai nôl gwerth dimai o laeth enwyn o Bryn Mair y diwrnod cynt oedd fy rhan i yn nefod a seremoni'r dydd Mawrth neilltuol hwn.

Ond yn y gorffennol, buan yr adferid y cytgord rhyngddynt ac fe â'i pawb ymlaen â'i fasnachu fel cynt!

Ar “l glaw trwm y noson cynt roedd tipyn o lif yn yr afon.

Mynd i'r Brifysgol yng Nghaeredin fu fy hanes y flwyddyn ddilynol a chan fod Dafydd Wyn, fy mrawd hynaf, newydd raddio o'r Royal (Dick) Veterinary College yno, yn y mis Gorffennaf cynt, roeddwn innau'n medru camu i'r gymdeithas Gymraeg yr oedd ef yn gybyddus â hi.

Ond, na þ 'r un arwydd o lawenydd na siom, dim cysgod gwên na gwg þ dim byd cynt, yn ystod y chwarae, nac wedyn.

Yn y rownd derfynol y tymor cynt, roedd blaenwyr Castell Nedd wedi llwyddo i roi crasfa go iawn i ni, ac wrth gwrs, roedd

Doedd o ddim wedi cysgu fawr ddim y noson cynt ac roedd o'n crynu a chwysu er ei bod yn fore braf o Fehefin.

Lle cynt y darluniwyd Crist 'yn un â phridd y ddaear' a'i adael ar hynny, bellach daethpwyd i'w gynysgaeddu ag enaid ac i synio amdano fel 'Iesu rhydd', fel un (a defnyddio iaith Peate am y tro heb egluro dim arni) wedi canfod ei enaid a thrwy hynny sicrhau anfarwoldeb iddo'i hun.

Yn bur aml byddem yn dysgu testun y Sul cynt a rhoddais fy nghas ar ambell bregethwr am ei fod wedi codi testun go fawr.

'Wel fedrwn i gerddad ddim cynt.

Yn Saesneg newidiodd Mr Morgan enw ei swydd ei hun yn First Minister er mai First Secretary oedd o cynt fel ag yr oedd Alun Michael a Ron Davies o'i flaen.

Ychwanegodd mai ond ar y Sadwrn cynt y cyrhaeddodd Wyn y wlad.

Roedded nhw wedi cael trafferth efo llygod y gaeaf cynt, a chawsai nythaid ohonynt wledd Nadolig flasus: degau o sanau gwlân.

Evan Tom Jones a esboniodd inni'r ffenomenon a'n gyrasai yn ein holau drwy'r twnnel y noson cynt, yn gyflymach nag yr aethom iddo.

'Dwi ddim yn cofio mwy o 'ecseitment' cynt nac wedyn, na diwrnod prynu'r teledu.

Pa ryfedd fod y gerdd yn gorffen trwy ail-lunio'r cwpled elegiaidd a ddefnyddiodd cynt: Ba enaid ŵyr ben y daith?- Boed anwybod yn obaith!

CYNHALWYD gwylnos ym Môn yr wythnos yma er cof am mam o chwech o blant bach a fu farw ar ôl digwyddiad erchyll yr wythnos cynt.

Ond roedd y cysgod du wedi syrthio rhyngom fel na allem weld ein gilydd fel cynt: roedd y digwyddiad eisoes wedi dechrau'r newid, wedi cychwyn ar y broses o ddieithrio a fyddai'n anochel wrth i ni fynd yn hŷn, yn fwy cyfarwydd a'n gilydd, yn llai llawn rhyfeddod ynghylch ein gilydd.

Roedd yn anodd ganddynt gredu ei fod wedi cael tro%edigaeth o ddifrif, ei fod yn awr yn pregethu ac nid yn erlid pobl Dduw fel cynt.

Mi dala i'n ôl i ti, a hynny lot cynt na fyddet ti'n ddisgwyl.

Fedrai blodau heddiw ddim sefyll mewn llestr yn eu haeddiant eu hunain fel cynt heb bincws i'w cynnal.

Ddydd Mercher, fe wnaeth Bwrdd yr Iaith eu datganddiad mawr cynt' ers tro - fe fydd drafft o'u canllawiau iaith ar gyfer y sector cyhoeddus yn cael ei gyhoeddi ddechrau Hydref ar gyfer ymgynghori a chynllun ar gyfer y sector preifat yn dechrau cael ei weithredu.

Cyhoeddwyd adroddiad cyn y râs yn dweud fod cael cyfathrach rywiol y noson cynt yn gwneud ichi redeg yn gynt y diwrnod wedyn.

noson cynt, cyn iddo fynd i'w wely, roedd dau rhinoseros ar y teledu yn hel yn erbyn ei gilydd yn union fel y byddai ceffylau'n gwneud yng nghae Ffermau Isa'.

Daethom i'r casgliad mai cymryd pethau'n hamddenol yr oedd, a'i fod o bosibl yn clertian y tu cefn i un o'r tomennydd coed, ei ben bron hollti ar ôl yfed gormod o sake (gwin-reis y Siapaneaid) y noson cynt.

'Roedd rhywun wedi bod yno yn ystod y nos, oherwydd nid oedd y bocsys yn yr un drefn ag y'u gadawsai y prynhawn cynt.

Yn Rhiwlas, lle'r oedden nhw'n byw cynt, byddai Mam yn gweithio rhan-amser yn y siop ffrwythau, ond yma doedd hi'n gwneud dim byd heblaw gofalu am Malu a glanhau'r tŷ, a doedd hynny ddim yn dod ag unrhyw arian i mewn.

Ac yna, y mae Wiliam yn rhoi ei gôt uchaf amdano, a'i het galed am ei ben, ac yn lapio crafat mawr ddwy-waith am ei wddf; yna yn cymryd gafael yn y fasged a orffwysai fel tynged ar ben y bwrdd mawr er y noson cynt, yr un fasged ag a ddawnsiai wrth ochr y frêc bedair blynedd cyn hynny, ac a welwyd yn cychwyn Owen i'r Coleg.

Oherwydd arbenigrwydd y flwyddyn, roedd mwy o ddiddordeb o lawer yng nghystadleuaeth Cwpan Cymru, a'r gobaith oedd y bydden ni'n mynd gam ymhellach na'r tymor cynt, drwy gael y cwpan yn ôl i Barc y Strade.

Gwêl y cyfarwydd ar un waith mai aeddfedrwydd benthyg neu etifeddol sydd iddynt, trefn gaboledig y Piwritaniaid o'r cyfnod cynt.

"Nid neithiwr y gosodwyd y trap cawell yma yn y berllan, ond rhai nosweithiau cynt.

Pwniai llifeiriant gwyllt o gofion am helyntion y noson cynt ei hymennydd, a nawr wele lythyr Hannah Dim gwahoddiad i Fryste!

Gan fy mod wedi bod ar ei ben yr haf cynt, siom oedd gweld gorchudd o gwmwl drosto o hyd.

Os rhywbeth, roedd hi'n waeth na'r noson cynt.

'Mae miliynnau o bobl a oedd cynt yn anwybyddu'r etholiad yn cymrryd sylw yn awr.

Ychwanegwyd dau newydd at y seithwyr a gychwynasant y gymdeithas yr wythnos cynt.

Yr hyn oeddwn i eisiau ei wybod oedd a fuo fon caru y noson cynt.

Bore wedyn, wrth godi, cawsom y newydd fod Anti wedi marw'n sydyn y noson cynt.

Roedd yr iaith lafar yn prysur droi yn rhywbeth na fuasai yn y canrifoedd cynt, sef arwydd o wahaniaeth dosbarth, ac eisoes yr oedd yna raniad rhwng De a Gogledd yn Lloegr.

Gan iddynt hiliogi o'r 'unigolion' gyda'r 'DNA' mwyaf llwyddiannus o'r cenedlaethau cynt, ceir poblogaeth o 'DNA' sydd ar y cyfan yn dynodi llwybrau byrrach.

Ar ôl denu sylw fel cantores addawol, fe ddechreuodd ei band cynt' pan oedd hi'n ddeuddeg oed.

Nid rhyfedd felly fod ambell i of yn ddrwg ei hwyl ac yn atgofio'r ffermwyr y byddai'n well pe baent wedi bod yn y Capel y diwrnod cynt (y Sul) na phechu drwy godi traed eu ceffylau i'w harchwilio.

Eleni cynhaliwyd trafodaethau rhwng swyddogion y Swyddfa Gymreig a PDAG ar raddfa ehangach na'r blynyddoedd cynt cyn y cafodd y dyraniad terfynol ei gyhoeddi, a da oedd clywed fod " y Gweinidogion yn ddiolchgar am y cyngor y bu i chi ei roi wrth ein helpu i ddod i'r penderfyniadau hyn.

Mae'n dyddio'n ôl i'r canol oesoedd, os nad cynt, gyda mosgs a phalasau wedi'u cerfio i mewn i'r graig.