Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyntefig

cyntefig

cyn hynny yn niwl y cynoesoedd ardal lle crwydrai y dyn cyntefig o hendref y glannau o gwmpas Gronant, Mostyn a Llannerch y Môr i'w hafodai byrhoedlog i hela ceirw, sgwarnogod, grugieir - a physgota y nentydd a'r hen hen lynnoedd am y brithyll brown naturiol...

Mae hen geyrydd cyntefig yn y wlad yn ogystal, gyda thomennydd anferth o bridd a cherrig yn eu gwarchod.

Datblygu o'r coed cyntefig yma, efo'i dail fel nodwyddau a'i ffrwythau yn foch coed, wnaeth y coed llydan eu dail.

'Mi ddaethon ni yma er mwyn eyfarfod â'r brenin ac nid i wylio arddangosfa o ddawnsio cyntefig, diolch i ti, wrth gwrs.'

'Os na chrasia i'r croc cyntefig 'ma, wrth gwrs.

Digon hawdd credu bod rhywbeth cyntefig yn perthyn iddo hefyd wrth weld ambell enw tîm pêl-droed wedi'i sbre%o'n goch ar wal - Hwn-a-hwn "rules OK!" Gall gofnodi ymgyrch herfeiddiol hefyd - cofiaf weld "English visited Panti% gyda'r dyddiad oddi tano yn Neuadd Breswyl Gymraeg Pantycelyn yn Aberystwyth.

Wedi blynyddoedd o fywyd trefol collodd JR lawer o'i archwaeth at fwyd cyntefig fel stwnsh rwdan a pheth dieithr iddo bellach oedd gweld sosban ddu wedi ei gorseddu ar ganol bwrdd y gegin, ond yr hyn a'i blinai fwyaf oedd sylwi ar Hywal y mab yn pigo'i drwyn bobo yn ail cegiad.

Gwelodd Lisa, trwy ei lygaid ef, yr awyrgylch dlodaidd, y peiriannau llaw hynafol, ac amgylchiadau gwaith cyntefig y gweithwyr.

Dyma un o'r bridiau olaf o ddefaid cyntefig a oroesodd o'r cyfnod.

gall seiliau hen draddodiad fod yn gyntefig iawn, ac i'm tyb i, egwyddorion cymdeithasau cyntefig sydd wrth wraidd pob crefydd.

Er ei fod yn edrych yn un llawn, nid yw Ceredigion ar y cyfan yn sir gyfoethog mewn olion bywyd cyntefig.

Codwyd ffens o gwmpas llain o dir ychydig yn nes ymlaen lle bu sefydliad Ecoleg Tir y Cyngor Gwarchod Natur yn ymchwilio i ffordd o fyw ac arferion pori defaid cyntefig, Soay.

Yn ôl rhai, mae rhywbeth cyntefig, tiriogaethol yn perthyn i'r arfer o sgwennu graffiti.

Yng ngwledydd y Trydydd Byd mae'r cyferbyniad rhwng cyfoeth gwledydd y Gorllewin a thlodi'r De yn taro'r llygad dro ar ôl tro a pharhau o hyd y mae'r rhyfeddod o weld tystiolaeth ein ffordd wastraffus ni o fyw - can o Coke neu gar Mercedes wrth ochr pwmp dŵr cyntefig neu geffyl a chart.

Roedd llwythau cyntefig yn ymwybodol iawn o'i allu dir- gel, ac addolent hwy ef fel duw.Wrth i ddyn ddysgu mwy am ei fyd, ceisiodd ddeall a dysgu mwy am yr haul, gan arbrofi llawer er mwyn esbonio'i ryfeddodau.

Mi wellodd ei thymer ddim ar ôl glanio pan fu raid mynd am fwyd i dŷ bach cyntefig ac amheus ei lanweithdra a bodloni ar datws drwy'u crwyn a oedd, yn ôl Dilys, heb eu golchi'n iawn cyn eu coginio.

Dyma'r union beth hwyrach i osod y lle cyntefig hwn ar y map.

Roedd rhywbeth yn achosi penbleth i Gethin hefyd, ond ni chafodd amser i benderfynu beth, oblegid roedd syndod mud y ddau ffrind yn achosi i'w gosgordd golli eu teimladau o barchedig ofn tuag at y brodorion cyntefig.

Trwy'n llwyddiant yn Mallorca a Llangollen mae wedi dod â chlod byd-eang inni ac i Eirlys Britton fel hyfforddwraig gyda'r weledigaeth a'r gallu i dynnu allan ohonon ni rhyw ysbryd cyntefig o'r gorffennol fel dawnswyr, a chyflwyno traddodiadau dawns Cymru mewn ffordd chwaethus a medrus i safon aruchel.

Yn y frawddeg 'Mae Gwilym yma', yr enw priod yw'r gair syniadol mwyaf cyntefig syml o ran gramadeg: enwi diriaeth a wna.

I Merêd roedd holl awyrgylch y lle'n amheuthun - y symlrwydd cyntefig ac yn arbennig yr heddwch perffaith heb na cherbydau swnllyd na phobl drystfawr i'w ddifetha.

Mae llaw dyn yn fwy cyntefig ei ffurf a'i hyblygrwydd na'r un aelod sy'n cyfateb iddi gan un creadur arall, a'r ffaith ei bod felly sy'n ei galluogi i'w haddasu ei hun at wahanol ofynion ac angenrheidiau dyn.