Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cynulleidfaoedd

cynulleidfaoedd

Fe gafodd Aranwen Jones (Cadeirydd), Buddug Jones a Derfel Roberts fuddugoliaeth nodedig tra'n trafod y testun 'Fod yn rhaid i'r Eglwysi newid ffurf eu gwasanaeth os am ddenu'r cynulleidfaoedd yn ôl.' Dyfarnwyd araith Buddug Jones, Dolgellau yr orau yn y gystadleuaeth.

BBC Cymru Wales yw'r unig ddarlledwr sy'n cynhyrchu gwasanaethau yn y Gymraeg a Saesneg ar radio, teledu ac ar-lein, gan adlewyrchu bywyd a thalentau Cymru yn eu holl amrywiaeth mewn rhaglenni a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru.

Bu ffigurau cynulleidfaoedd teledu yn dda yn gyffredinol, gan adlewyrchu gallu cystadleuol cynnyrch BBC Cymru, a thra bo rhywfaint o bryder ynglyn â safle presennol BBC Radio Wales, mae arwyddion bod y penderfyniadau strategol, golygyddol a phroffesiynol cywir yn cael eu gwneud i adfywio'r orsaf.

Poster du, heb lun arno, y gobaith o ddenu cynulleidfaoedd ehangach, si ei fod yn gynhyrchiad gwahanol - "arbrofol" hyd yn oed!

Cynulleidfaoedd da drwy'r haf a'r gaeaf cyntaf hwnnw, ac yna'n sydyn ym mis Mawrth, nifer fawr o bobl ddim yn eu seddau, a finne'n methu deall beth own i wedi gwneud, beth own i wedi dweud - ai gwir rhybudd Merfyn wedi'r cyfan?

Y bwriad yw chwarae cyfres o gigs cyn mynd i'r stiwdio, er mwyn gweld ymateb y cynulleidfaoedd i'r caneuon sydd wedi cael eu sgwennu yn ystod y flwyddyn.

Ond daliodd cynulleidfaoedd bychain ohonynt i addoli a darllen yr Ysgrythurau yn y dirgel mewn llecynnau diarffordd yn Ffrainc a'r Eidal i lawr at adeg y Diwygiad Protestannaidd yn yr unfed ganrif ar bymtheg.

Rhaid oedd ymchwilio iddynt, ond,wrth wneud, ni ddylid peryglu rhyddid dinesig y cynulleidfaoedd.

Bydd Addysg BBC Cymru yn cynnig: cyfleoedd dysgu am oes i bawb yn ogystal â thargedu cynulleidfaoedd allweddol ac anghenion arbennig.rhaglenni ysgolion yng Nghymru - yn ogystal â'r chwe awr ar BBC 2, ar hyn o bryd BBC Cymru yw'r unig ddarparwr rhaglenni addysg Cymraeg ar S4C, gan gynnig tua 30 awr y flwyddyn ynghyd â thua 70 awr y flwyddyn yn y Gymraeg a Saesneg ar Radio Cymru.rhaglenni dychmygus ac ysgogol ynghyd ag adnoddau o'r safon uchaf.ehangu'r ddarpariaeth i gynulleidfaoedd craidd yn yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd i gynnwys pob oedran.wynebu'r her gymdeithasol a'r her economaidd yng Nhgymru'r dyfodol.ystod estynedig o wasanaethau i gynulleidfa ehangach trwy'r Coleg Digidol gan ffurfio partneriaeth â S4C, cyrff addysgol a hyfforddi ynghyd â diwydiant.

Gwahoddwyd cynulleidfaoedd Cymreig i ymuno yn awyrgylch Last Night of the Proms gyda chyngerdd a chyswllt arbennig i Lundain.

Yn yr un modd ag y bu ein hadran ddrama yn gosod sylfeini creadigol cryf ar gyfer y dyfodol trwy fuddsoddi'n helaeth yn natblygiad dawn ysgrifennu, rydym hefyd wedi meithrin talent yn y byd adloniant, gan fuddsoddi'n helaeth mewn projectau comedi newydd ar gyfer radio a theledu ac, ar yr un pryd, yn denu cynulleidfaoedd anferth i berfformwyr cyfarwydd megis Max Boyce, Peter Karrie ac Owen Money.

yng nghymru ceisiodd pregethwyr o fri ddarbwyllo eu cynulleidfaoedd y dylent gefnogi bob ymdrech i ymgyrchu o blaid heddwch.

cyfleoedd dysgu am oes i bawb yn ogystal â thargedu cynulleidfaoedd allweddol ac anghenion arbennig.

Daliai darlithoedd cyhoeddus yn boblogaidd a cheid cynulleidfaoedd mawrion i wrando ar bobl fel Bob Owen, Croesor, Llwyd o'r Bryn a Chynan yn mynd drwy eu pethau.

Ar yr un pryd mae'r adran ddrama wedi bod yn buddsoddi'n helaeth i ddatblygu dawn ysgrifennu yng Nghymru, nid yn unig trwy labordai a gweithdai awduron, ond hefyd trwy lansio cyfres ddrama radio ddyddiol lle y gellir ennill cynulleidfaoedd a chaboli talentau.

Mae BBC Radio Cymru wedi parhau i adfywio rhaglenni, gyda chymorth strategaeth farchnata fywiog yn seiliedig ar ystod o ddigwyddiadau a chyngherddau awyr agored yr ymddengys eu bod wedi cyrraedd cynulleidfaoedd newydd.

Derbynir yr angen am ddarpariaeth arbennig ar gyfer cynulleidfaoedd Cymraeg ac am anghenion ardaloedd arbennig.

Yn ogystal ag edrych yn ôl mewn balchder ar ei hanes canolbwyntiodd y gerddorfa hefyd ar ddatblygu cynulleidfaoedd newydd.

Sicrhau bod BBC Cymru yn chwarae rhan amlwg yn natblygiad gwasanaethau BBC Online ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru ac ar draws y DG.

Mae ein cynulleidfaoedd yn disgwyl hynny.

Pobol y Cwm sydd â'r gynulleidfa uchaf o blith unrhyw raglen Gymraeg ar S4C, gan gyrraedd cynulleidfaoedd ar agreg o dros 200,000 ac mae Newyddion yn rhaglen awdurdodol ag iddi barch mawr.

Parhaodd y gêm banel unigryw Tutti Frutti, y cwis pop a gyflwynir gan Adam Walton sydd hefyd yn cyflwyno sioe nosweithiol, i ddenu cynulleidfaoedd mawr, yn yr un modd ag y gwnaeth Game On, lle mae Rupert Moon, y chwaraewr rygbi rhyngwladol, yn dyfarnu rhwng dau dîm o sêr o fyd chwaraeon i brofi eu gwybodaeth am chwaraeon.

Denodd fonllefau o anghrediniaeth o du cynulleidfaoedd teledu America ugain mlynedd yn ôl drwy ymhelaethu'n ddi-lol am olchi llestri a rhyw orchwylion mundane felly nad oedd sêr fod ymhel â nhw.

Bydd enw da BBC Cymru fel cynhyrchydd gwasanaethau a rhaglenni o ansawdd yn cael effaith arwyddocaol ar ei allu cystadleuol, ond efallai na fydd yn ddigon ynddo'i hun i gynnal lefelau cynulleidfaoedd ar droad mileniwm newydd.

Trwy roi'r lluniau o ddioddefaint ac anobaith yn eu cyd-destun, llwyddodd y wasg i annog ymdeimlad o euogrwydd yn y byd gorllewinol a thrwy hynny gyfleu cyfrifoldeb y byd hwnnw tuag at yr wynebau trist oedd yn cyfarch y cynulleidfaoedd teledu rhyngwladol.

(a) ~le'r oedd cynulleidfaoedd y beirdd wrth eu swydd-- pa mor fychan bynnag oeddynt--yn llenyddol-ddeallus, yr oedd cynulleidfaoedd Pantycelyn a'i gyd-lenorion yn gyrnharol anwybodus a na%i%f yn llenyddol.

Mynnent bwyso ar eu cynulleidfaoedd i wneud penderfyniad buan.

Wrth i'w cynulleidfaoedd chwyddo, tyfai'r gweinidogion yn fwyfwy dylanwadol, a daeth yr ardal ddiwydiannol yn faes cenhadaeth deniadol i ŵyr brwdfrydig a dysgedig megis Thomas Rees, Cendl, Noah Stephens a Robert Ellis (Cynddelw), Sirhywi, John Jones (Ioan Emlyn), Glynebwy a William Roberts (Nefydd), y Blaenau.