Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cynyddol

cynyddol

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fodd bynnag, ymledodd y Gymraeg i fod yn gwymhwyster dymunol mewn nifer cynyddol o swyddi proffesiynol, ac yn gymhwyster angenrheidiol mewn rhai meysydd newydd, yn arbennig y cyfryngau a rhai swyddi yn y gwasanaethau cyhoeddus.

oedd un o'r rhesymau pam y gwelwyd symud i'r chwith ar gychwyn y 1980au (fel digwyddodd gyda gweddill y mudiad cenedlaethol yr adeg honno) a dechreuwyd canolbwyntio ar amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd sy'n ffurfio cyd-destun iaith, gyda sylw cynyddol ar faterion fel tai a thwristiaeth.

Gwneir defnydd cynyddol o'n offer benthycadwy, ac yn arbennig felly gadeiriau olwyn a'r offer cyfieithu.

Mae rheolaeth leol ar gyllid a dyletswyddau cynyddol o ran gweinyddu ac asesu'n gosod baich aruthrol ar brifathrawon sydd bellach â'r cyfrifoldeb statudol o gyflawni'r holl ddyletswyddau hyn yn eu hysgolion nhw.

Ieuenctid ac oedolion ifainc sydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan ddiweithdra cynyddol, prinder tai addas a rhesymol ac amgylchfyd greithiol a threuliedig.

(gan fod pwyslais cynyddol yn cael ei roi ar ddogfennaeth ysgol.)

Llwyddodd BBC Adnoddau, Cymru i wella ar y targedau ariannol ar gyfer 1999/00 yn sgîl incwm gwaelodol cynyddol yn ogystal â pharhau i leihau costau oherwydd holl ymdrechion staff BBC Adnoddau, Cymru i sicrhau llwyddiant i'r busnes hwn ynghyd â'r awydd i gryfhau a chynnal y sylfaen grefft ar gyfer BBC Cymru.

Ymddengys bod diddordeb cynyddol heddiw yn y paranormal a'r byd seicig, ac yn arbennig ymhlith yr ifanc.

Benthyciodd rygbir undeb nifer o dactegau amddiffynnol oddi wrth rygbi tri ar ddeg a dyna pam mae galw cynyddol am wasanaeth gwyr fel Phil Larder, Ellery Hanley a Clive Griffiths.

Aethai hyn yn gylch wedyn o ddirywiad cynyddol.

Yn ychwanegol mae'r mewnfudwyr yn gosod pwysau cynyddol ar awdurdod lleol ac ar yr adnoddau sydd ar gael ar ffurf cymorthdal i wella tai.

Yn wyneb y duedd cynyddol i ganoli grym ac i danseilio awdurdod awdurdodau lleol trwy ganiatau i'r farchnad-rhydd cael rhwydd hynt i reoli, ni fydd adroddiadau ar yr iaith Gymraeg, ynddynt eu hunain yn sicrhau dyfodol i'r iaith.

Bydd disgyblion yn ysgrifennu mewn amrywiaeth o ffurfiau ac at wahanol ddibenion a chynulleidfaoedd; byddant yn fwyfwy abl i drefnu eu deunydd, i ysgrifennu'n gywir, i reoli sillafu a llawysgrifen; amlygant afael briodol ar Gymraeg a Saesneg safonol a gallant adnabod a defnyddio amrediad cynyddol o arddulliau a chyweiriau iaith; byddant yn adolygu ac yn ailddrafftio'u hysgrifennu gan ei gyflwyno'n briodol.

Bydd disgyblion yn darllen amrediad eang o destunau llenyddol, anllenyddol a thestunau'r cyfryngau; gallant ddarllen yn gywir, yn rhwydd a chyda mynegiant priodol; bydd ganddynt ddealltwriaeth eglur o'r hyn y maent yn ei ddarllen ac yn ei weld, a gallant ymateb ar lafar ac yn ysgrifenedig i destunau o gymhlethdod cynyddol.

Maent yn hyderus wrth fynd i'r afael ag amrediad o destunau o gymhlethdod cynyddol a gallant ddeall ystyron ymhlyg yn ogystal â'r arwynebol a'r amlwg.

Bydd llawer yno, gan adlewyrchu diddordeb cynyddol yn y sector defaid.

a chymdeithasau eraill yn ceisio cyfarfod y gofyn cynyddol am feiblau, yr oedd prinder mawr ohonynt.

Y mae gennym nifer cynyddol o weinidogion - yn arbennig ymhlith y genhedlaeth ifanc - sy'n dwyn tystiolaeth gyson i ras Duw.

Ond o weithio mewn cyd-destun ag iddo ymrwymiad Ewropeaidd cynyddol, a yw seiliau'r Gymraeg (yn addysgol, yn ddiwylliannol, yn ieithyddol, yn gymdeithasol) yn ddigon cryf i oresgyn y gofynion newydd a ddaw yn sgîl hyn?

Mae pryder cynyddol ynghylch y nifer cynyddol o blant sydd yn cael eu gwahardd o'r ysgolion ac na fydd darpariaeth ar eu cyfer nhw.

mae nifer cynyddol o'r gynulleidfa wedi troi at BBC Cymru.

Erbyn hyn, gwneir defnydd cynyddol o'r laserau hyn mewn meysydd eraill - er enghraifft i fesur cyddwysiad nwyon arbennig yn yr atmosffer.

Geiriau yn llawn rhybudd a phryder ynglŷn â chostau cynyddol yr žyl oedd gan y ddau swyddog.

Drwy gymorth Grant yr Iaith Gymraeg, dan nawdd y Swyddfa Gymreig, sicrhawyd cyflenwad cynyddol o werslyfrau mewn amrywiaeth o feysydd i leddfu rhywfaint ar anghenion addysg Gymraeg.

Erbyn hyn, mae nifer cynyddol o bobl yn gorfod benthyca arian, nid er mwyn cael moethau bywyd, ond er mwyn cael dau ben llinyn ynghyd.

Bydd y goeden afal yn dwyn ffrwyth cynyddol bob blwyddyn dros y 5 mlynedd nesaf yn union fel y bydd Cymdeithas yr Iaith yn disgwyl i'r C.C.T.A. fabwysiadu cynllun 5 mlynedd i greu Coleg Cymraeg i Sir Gaerfyrddin.

Wedi colli'r ffocws, byddai'r weddillion o fywyd cymunedol yn mynd yn Saesneg er y byddai gan unigolion hawliau cynyddol o ran defnyddio'r Gymraeg ar faterion swyddogol - 'role-reversal' llwyr.

Ar hyn o bryd rhoir pwysau cynyddol ar FIFA - corff rheoli'r gêm ledled y byd - i ystyried Gwledydd Prydain fel un wlad yn unig ar gyfer cystadleuthau rhyngwladol megis Cwpan y Byd.

Un o'r prif resymau am hyn yw poblogrwydd cynyddol ymgyfreithiad camymddygiad (malpractice litigation) yn yr Unol Daleithiau.

Mae'n rhaid, felly, feithrin agweddau cadarnhaol ymysg cyrff a phroffesiynau ledled Cymru a thu hwnt o ran hybu defnydd cynyddol o'r iaith.

Ond oherwydd yr oedi cynyddol a ddioddefir gan fenywod sy'n disgwyl cael eu hail-gartrefu, mae nifer y plant sy'n gorfod treulio misoedd lawer - neu hyd yn oed flwyddyn a mwy - mewn lloches, yn cynyddu, yn ddi-os.

Llwyddodd BBC Adnoddau, Cymru i wella ar y targedau ariannol ar gyfer 1999/00 yn sgîl incwm gwaelodol cynyddol yn ogystal â pharhau i leihau costau oherwydd holl ymdrechion staff BBC Adnoddau, Cymru i sicrhau llwyddiant i'r busnes hwn ynghyd âr awydd i gryfhau a chynnal y sylfaen grefft ar gyfer BBC Cymru.

Gwyddoniaeth, technoleg a'r gwyddorau eraill sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o eiriau Saesneg newydd y mae'n rhaid eu trosi i'r Gymraeg, ond yn union oherwydd y nifer cynyddol yma nid yw'r beirdd Saesneg wedi llwyddo i wneud llawer o farddoniaeth bwysig â nhw eto.

Hefyd mae pwysau o gyfeiriad GATT a'r trafodaethau gyda UDA a chost cynyddol yr holl gyfundrefn yn araf danseilio ei werth economaidd a gwleidyddol.

Yr wyf yn credu mai trefn cynnydd yw Gwrthryfel cynyddol yn erbyn awdurdod; neu mewn geiriau eraill, twf personoliaeth a lleihad cyfundrefn.

Yn ystod ei gyfnod ym Mangor, ymgofrestrodd yn Adran Addysg Coleg y Brifysgol a sefyll yr arholiadau rhagarweiniol ar gyfer MA Ar ôl pasio'r rheini, aeth rhagddo i baratoi traethawd MA ar "Yr Ysgol Sul o safbwynt Addysg Fodern" ond oherwydd y galwadau cynyddol ar ei amser ni chwblhaodd y gwaith.

Lle bo'r safonau mewn Cymraeg/Saesneg yn dda, bydd disgyblion yn siarad yn eglur a chyda hyder cynyddol; yn cyfleu gwybodaeth yn effeithiol gan roi cyfarwyddiadau ac ymateb iddynt yn briodol; byddant yn darllen yn fwriadus, ac yn ymgymryd â chwarae rôl a drama'n hyderus.

O'r herwydd, tybiai Saunders Lewis a Maurras, fel y gwna deallusion y Dde yn gyffredinol, mai gelynion Ffrainc a'r gwareiddiad Ewropeaidd oedd Voltaire, Rousseau a Diderot, yr hanesydd rhyddfrydig, Jules Michelet, a llenorion fel Victor Hugo, Emile Zola ac Anatole France; pob un, yn wir, o'r llu ardderchog o feirdd, llenorion, cerddorion, artistiaid ac athronwyr a gytunai â Gruffydd mai 'trefn cynnydd ydyw Gwrthryfel cynyddol yn erbyn awdurdod'.

Yn wir, gallai pwysigrwydd cynyddol Technoleg Gwybodaeth mewn gweinyddu a chynnal busnes beunyddiol ymhob sector ddod yn fygythiad difrifol o ran hyblygrwydd corff i weithredu'n ddwyieithog, gan mai yn Saesneg yn unig yn aml y mae'r deunyddiau ar gael.

Un ffarmwr, Oliver Walston, wedi agor cronfa o dan y teitl 'Send a Tonne to Africa', i gasglu miliwn o bunnau i ymladd y newyn cynyddol sy'n y Trydydd Byd.

Mae gwledydd eraill sydd yn cymryd normaleiddio eu hiaith o ddifrif bellach yn gweld twf yn y niferoedd sy'n medru'r iaith ar draws y sbectrwm oedran er gwaetha'r pwysau cynyddol oddi wrth ieithoedd dominyddol y byd.

Mae pwyslais cynyddol y dyddiau hyn, yn arbennig yn y sector addysg uwchradd, ar ennill cymwysterau a meistroli sgiliau ar gyfer byd gwaith.

Fe fyddai'n llawer gwell pe gellid defnyddio offer recordio teledu sydd yn awr ar gael mewn nifer cynyddol o ysgolion a cholegau.

Protestiadau'r swffragetiaid yn gwaethygu a nifer cynyddol yn cael eu carcharu.

I lawer ohonynt, mae undeb cynyddol yn gwbl angenrheidiol.