Fe â'r firws i mewn trwy'r geg a'r gwddf, ac wedyn mae'n cynyddu yn y corff mewn celloedd arbennig am ddeng niwrnod cyn ail-gyrraedd y gwaed ac achosi pothelli ar y croen a thu fewn y gwddf.
Syllodd Jean Marcel yn hir ar y miloedd o blu eira yn disgyn yn ysgafn ar bennau ei gydwladwyr, ac atgasedd tuag at y Maer yn cynyddu yn ei galon wrth iddo wrando'i eiriau.
Egwyddor greiddiol Dyma un o'r darnau gwybodaeth mwyaf gwerthfawr y gellid eu rhoi i unrhyw athro mewn hyfforddiant byth: sylfaen ymwybod â'r patrwm cynyddu cydgysylltiol.
Wrth i'r cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg gynyddu, bydd cyfleoedd gyrfaol i'r sawl sy'n siarad Cymraeg yn cynyddu hefyd.
annog a hwyluso rhwydweithio rhwng cyrff a chwmnïau er mwyn cynyddu defnyddio'r Gymraeg yn y sector.
A bwrw'n fras fod prisiau wedi dyblu, ac enillion wedi cynyddu ryw deirgwaith, yr oedd gwir incwm wedi codi ryw hanner dros y cyfnod: camp ddigon canmoladwy.
Yn wir, y record gyntaf imi ei phrynu oedd Megamix gan Technotronic (dechrau da te ba'?!), ac fe fyddai'r casgliad yn cynyddu'n wythnosol, gan ganolbwyntio ar gerddoriaeth y clybiau gan amlaf.
Mae'n rhaid trafod y peth 'fel busnes' nawr a daw geiriau fel 'cynyddu' ac 'elw' a 'chredyd' ac 'ail-fuddsoddi' yn rhan o'u siarad beunyddiol.
Y gobaith yw gallu mynd ar ôl hysbysebwyr er mwyn cael ychydig mwy o incwm, a cheisio cynyddu nifer y tanysgrifwyr, sydd wedi gostwng yn ddiweddar oherwydd y cyhoeddi anghyson.
Targedau cyrhaeddiad, Datganiadau o Gyrhaeddiad a datganiadau ar ddiwedd Cyfnodau Allweddol;Y berthynas rhwng iaith leiafrifol â gyrfaoedd yn y sector cyhoeddus; h.y a ydyw'n cynyddu dibyniaeth yr iaith ar lywodraeth leol a chanolog, ac os ydyw, beth yw'r canlyniadau i awtonomi'r grŵp iaith hwnnw?
Wrth gwrs cynyddu wnaeth y fasnach yn yr harbwr fel y daeth pobl i wybod amdano.
Mae'r rhaglen wedi cynyddu nifer ei heitemau newyddion diweddaraf, ac am 10 munud olaf yr awr ceir newyddion o'r tri rhanbarth - y Gogledd, y Gorllewin a De a Chanolbarth Cymru.
Mae cynyddu nifer y plant sy'n rhugl yn y Gymraeg erbyn eu bod yn 11 oed yn nod amlwg hefyd.
Mae'r raddfa hon yn amrywio yn ôl graddfeydd llog morgais ar y pryd, yn cynyddu pan fydd cost benthyca yn cynyddu, ac i'r gwrthwyneb.
Ar y cyd felly yr oedd cyflogau - hynny yw, cyfartaledd enillion wythnosol - wedi cynyddu ryw dair gwaith.
Argymhellir y diffiniad canlynol ar gyfer dibenion y papur hwn, sef bod archaeoleg môr yn wyddor, lle cyfunir sawl disgyblaeth gan geisio cynyddu ein gwybodaeth am weithgareddau morwrol dyn drwy archwilio gweddillion llongau a safleoedd tanfor.
O ganlyniad i'r Ddeddf, mae statws a phroffil yr iaith wedi cynyddu'n sylweddol a gall y sawl sy'n siarad Cymraeg yng Nghymru yn awr ddisgwyl gwasanaethau helaethach nag erioed drwy gyfrwng y Gymraeg gan gyrff sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus.
ac eto, er troad y ganrif y mae nifer llynnoedd Hiraethog wedi cynyddu!
Mae diddordeb yn y gweithgareddau cenedlaethol yn cynyddu; mae'r stondinau yn yr Eisteddfodau a'r Sioe yn denu sylw ac yn dwyn ffrwyth.
Mae nifer yr oriau a gomisiynwyd wedi cynyddu o 37 i 70, syn werth £16.
Ni fydd yn ffynnu os bydd ei defnydd ar yr aelwyd ac yn y gymuned yn dal i leihau, hyd yn oed os bydd nifer y siaradwyr newydd a ddaw o'n hysgolion yn cynyddu.
Ers sefydlu Teledu Annibynnol mae nifer y sianelau wedi cynyddu yn gyson, a'r cynnydd wedi cyflymu yn aruthrol yn ystod y degawd diwethaf gyda theledu lloeren ac, yn ddiweddar, teledu digidol.
Y drwg, fodd bynnag, oedd fod y jobsus yn cynyddu mewn nifar, a'r diwrnod glawog yn mynd i orfod bod yn debycach i ddilyw i fedru eu cyflawni i gyd!
At ei gilydd, mae gweinyddu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn ffenomen gymharol newydd ac er bod defnydd cyhoeddus o'r Gymraeg wedi cynyddu'n aruthrol yn ystod y degawdau diwethaf, nid yw gweithredu drwy gyfrwng y ddwy iaith eto'n beth cwbl arferol a diffwdan.
Ond y mae hanes yn bwnc sydd wedi cynyddu mewn bri yng Nghymru yn ystod yr wythdegau, ac wedibod yn destun trafod brwd, fel petai bellach yn bwnc gwir berthnasol inni oll.
Ein gobaith yn awr yw dechrau cynyddu aelodaeth y mudiad ymhellach trwy greu ymgyrchoedd aelodaeth yn y gwahanol ranbarthau mewn cydweithrediad efallai â'r Swyddog Ymgyrchoedd, Charlie Williams.
Mae i ddatblygiadau Technoleg Gwybodaeth oblygiadau pwysig o ran cynyddu cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith Gymraeg.
Ac mae'r dieithrwch yn cynyddu rywsut wrth i mi fynd yn hþn.
96% o'r Cymry Cymraeg a 94% o'r di-Gymraeg yn cytuno y dylid cynyddu niferoedd y siaradwyr Cymraeg.
Mae nifer yr ymwelwyr i amgueddfeydd ac orielau cenedlaethol Cymru wedi cynyddu 34% ers cyflwyno mynediad am ddim i blant a phensiynwyr.
Roedd hi'n dawel iawn y prynhawn hwn, y tawch yn cynyddu, tomenydd Elidir fel crwbanod enfawr, er efallai bod yna amryw o ddringwyr yn crafangu ar greigiau'r Glyder Fawr o gwmpas Pont y Gromlech.
Yn ôl ynghanol y saithdege oedd hi, adeg pan oedd y probleme gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon wedi cynyddu'n arw ac roedd tim pêl-droed Lloegr eisoes wedi gwrthod mynd allan i chwarae yn Belfast am resyme diogelwch.
I'r graddau y bydd yr ysgolion yn agor eu hunain i'r gymuned leol y bydd y fantais hon yn cynyddu'n bellach.
"Mae'n edrych fel pe bai'r llywodraeth yn paratoi'r ffordd ar gyfer cynyddu eu rhaglen niwcliar," meddai Deilwen Evans o Cadno.
Mae'n rhaid sicrhau dilyniant o ran cyfleoedd addysgol i bawb nid yn unig er mwyn cynyddu nifer y bobl sydd â'r gallu i siarad yr iaith, ond hefyd er mwyn cael effaith ar batrymau defnyddio'r iaith mewn peuoedd penodol.
Cynlluniwyd cyrion y llyn a'r pum ynys a geir ynddo yn ofalus er mwyn cynyddu'u hapêl cadwriaethol.
Cred y Gymdeithas fod perygl i'r Byd Addysg Gymraeg ddatblygu'n beiriant hunan-gynhaliol, a bod angen hybu'n bennaf y datblygiad hynny lle mae'r drefn addysg yn cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gymuned yn hytrach na hybu'r defnydd o'r Gymraeg tu fewn i'r ysgol neu'r coleg yn unig.
Wedyn, mae'r gwerthiannau o ddiddordeb; os yw'r gwerthiannau'n cynyddu o un flwyddyn i'r llall, y casgliad rhesymol a wneir yw bod y busnes yn llewyrchus.
Rwyt yn cerdded yn dy flaen am rai milltiroedd gyda'th flinder yn cynyddu bob cam.
cynyddu ymwybyddiaeth y rheiny sy'n comisiynu rhaglenni cyfrifiadurol o'r angen i ddarparu deunydd dwyieithog ar gyfer Cymru.
Erbyn hyn, mae'r mater hwnnw wedi ei ddatrys, ac mae defnydd o'r iaith yn cynyddu.
Gosododd rhyw 'awdurdod' neu'i gilydd fastiau dur anolygus yn enw cyfathrebu ar y Rhiw, ac y mae nifer y man feysydd carafannau wedi cynyddu fel pa bai 'Byclins' yn berwi drosodd wrth i ffermwyr sylweddoli fod carafan wen a Saeson brych yn llai o drafferth ac yn fwy proffidiol na defaid a gwartheg.
Gellid gosod targed hollgynhwysol ar gyfer cynyddu niferoedd, o gofio fod cyfnod y strategaeth yn ymestyn dros gyfnod Cyfrifiad 2001 hyd at gyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2011.
Yn gyntaf: nid yw'r galw am nwyddau yn cynyddu'n gymesur â'r codiadau mewn incwm.
Ond oherwydd yr oedi cynyddol a ddioddefir gan fenywod sy'n disgwyl cael eu hail-gartrefu, mae nifer y plant sy'n gorfod treulio misoedd lawer - neu hyd yn oed flwyddyn a mwy - mewn lloches, yn cynyddu, yn ddi-os.
Wedi sicrhau rhyw fath o ddyfodol i'r ysgol, edrychai'n fwy nag amlwg i rai ohonom y byddai'r un frwydr yn ein hwynebu eto ymhen pump, deg neu efallai bymtheng mlynedd, os na fyddai nifer y disgyblion yn cynyddu yn hytrach na lleihau.
Os ydym am ddatblygu gweithlu sy'n gynyddol rugl yn y Gymraeg ac yn medru ei defnyddio'n rhwydd ym myd gwaith, bydd yn rhaid cynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc dderbyn addysg a hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.
Eglurodd y byddai'r swm yn gymharol isel ar gyfer y blynyddoedd cyntaf ond yn cynyddu wedyn.
Fel y nodwyd eisoes, ni fydd yn ffynnu os yw ei defnydd yn y cartref a'r gymuned yn lleihau, hyd yn oed os yw nifer y siaradwyr newydd a ddaw o'n hysgolion yn cynyddu.
Mae hyn yn arwain i'r syniad mai adaptogen yw ginseng, sef meddyginiaeth sy'n cynyddu gallu'r corff i addasu ac yn gweithio yn unig pan fo angen.
Ni wyddai'r trefnyddion druain beth yn y byd i'w wneud gan fod costau'r daith yn cynyddu'n arswydus o ddydd i ddydd.
Erbyn hyn gellir cynyddu nifer yr embryos a gynhyrchir gan anifeiliaid unigol.
Er y manteision hyn, ni chafodd Gwybod y croeso disgwyliedig ond yr oedd gobaith y byddai'r cylchrediad yn cynyddu.
O ran cynyddu niferoedd, mae gan addysg a hyfforddiant rôl ganolog, cwbl hanfodol i ddyfodol yr iaith Gymraeg.
Cyn cyfarfod dydd Mercher, dywedodd aelod o Gabinet Israel, Binyamin Ben-Eliezer, fod y trais wedi cynyddu dros y dyddiau diwethaf.
Mewn ardaloedd eraill, megis cymoedd y de lle mae'r ddarpariaeth o ysgolion cyfrwng Cymraeg wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y degawdau diwethaf, gellir rhagweld y byddai dileu cyfrifoldeb strategol yr awdurdod lleol yn llesteirio'r fath dwf yn y dyfodol.
'Roedd y papurau newydd, gan gynnwys y wasg Gymreig, yn cynyddu mwy a mwy yn eu poblogrwydd.
Mae cost adeilad Richard Rogers wedi cynyddu i £32m ac mae Mr Morgan eisiau sicrhau ei fod o'n cael gwerth yr arian.
"Y mae hyn yn golygu bod cyfrifoldebau pwyllgorau lleol wedi cynyddu i raddau helaeth,'' meddai.
Mae'r Cyngor yn falch bod cyfradd cynulleidfa Cymru o ran y gwasanaethau a ddarperir gan y BBC wedi cynyddu i 7.2 yn ail chwarter 1999, ac wedi parhau ar 7.0 ar gyfer gweddill y flwyddyn, yn uwch na chyfartaledd y DG.
Yn y cyfamser, roedd y galwadau'n cynyddu o du cymdeithasau a chwmni%au drama lleol, a'r sgrifennu'n cael ei wneud yn oriau mân y bore ar ôl gorffen gwaith y dydd yn y garej.
Wrth ystyried cynyddu niferoedd, mae'n rhaid canolbwyntio ar grwpiau o fewn y boblogaeth lle mae dylanwadu'n gadarnhaol er mwyn cynyddu niferoedd y siaradwyr Cymraeg yn bosibl ac yn debygol o fod yn effeithiol.
Er mwyn diogelu dyfodol y Boda Tinwen fel aderyn magu ung Nghymru, mae'n bwysig iawn bod gwaith y Gymdiethas er Gwarchod Adar yn parhau, fel y gellir darganfod anghenion ehangach yr aderyn gwych yma, a gweithredu er mwyn cynyddu'r llwyddiant mewn magu.
Mae nifer yr oriau a gomisiynwyd wedi cynyddu o 37 i 70, sy'n werth £16.03 miliwn o incwm y rhwydwaith.
Mae'n brysur ar hyn o bryd gan fod y galwadau meddygol yn cynyddu pan fo ymwelwyr yn chwyddo maint y boblogaeth leol.
Yn dilyn daw adnodau o'r Beibl, pob adran yn cynyddu hyd y geiriau.
Cyfaddefaf fy nyled i'r pysgotwr/naturiaethwr enwog - mae fy helfeydd wedi cynyddu ers i mi astudio ei lyfr a'i addasu i'r afonydd lle y pysgotaf am sewin.
Effaith net y cynllun adnoddau felly yw cynnyddu'r cymorth grant/cyhoeddiad, tra hefyd yn cynyddu'r nifer o gopi%au sydd yn nwylo'r awdurdodau.