Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cynysgaeddu

cynysgaeddu

Un o ganlyniadau'r Diwygiad Efengylaidd oedd cynysgaeddu Cymru â dosbarth newydd o arweinwyr i ddisodli'r hen bersoniaid a'r sgweiriaid, sef, y gweinidogion, y pregethwyr, y blaenoriaid a'r personiaid llengar.

Er inni gael ein creu, yng ngeiriau'r Salmydd, 'ychydig is na'r angylion', er inni gael ein cynysgaeddu â meddwl rhyfeddol a doniau nodedig, pobl ydym o gig a gwaed, llestri llawn craciau, yn dyheu beunydd am angor, am gysur a sicrwydd.

Cyffwrdd yr un pryd â'n calonnau ninnau i ennyn ysbryd cenhadol ynom, i'n cynysgaeddu â pharodrwydd i gynorthwyo'r gwaith mawr nid yn unig mewn gwledydd tramor, ond yn ein hardaloedd ninnau yng Nghymru, fel y bo'r gwaith yn ei gyfanrwydd yn ogoniant i'th enw, yn Iesu Grist.